Polisïau diogelu
Ar y tudalen hwn
Creu polisi diogelu
Bydd polisi diogelu yn eich helpu i gyfuno holl elfennau eich dull o ymdrin â diogelu mewn un ddogfen, gan nodi’n gwmws sut byddwch chi’n gwneud y pethau hyn yn eich mudiad arbennig. Bydd yn dangos eich bod wedi meddwl am yr holl gamau sydd angen eu cymryd ac yn egluro hyn i bawb sydd angen gwybod am eich prosesau diogelu.
Bydd yn dweud wrth Ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr a staff beth a ddisgwylir oddi wrthynt ac yn amlinellu rhai cyfrifoldebau penodol. Dylai hyn gynnwys eich Unigolyn Diogelu Dynodedig, y pwynt canolog ar gyfer pob problem a phryder yn eich mudiad. Efallai y byddwch chi hefyd yn penodi Ymddiriedolwr / aelod bwrdd / Cyfarwyddwr a fydd yn arwain diogelu ac yn gallu rhoi trosolwg strategol o’ch prosesau diogelu. Byddwn ni’n edrych yn fanylach ar y rolau hyn yn ein hadran, Rôl y Bwrdd.
Gellir cael gafael ar dempledi polisi’n hawdd ac rydyn ni wedi creu Templed Polisi Diogelu a Chanllawiau Polisi Diogelu i’ch helpu chi.
Os ydych chi’n gwneud gwiriadau’r DBS fel rhan o’ch prosesau diogelu, yna mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod yn trin unrhyw un ag euogfarnau troseddol yn deg. I gefnogi hyn, dylech gael Polisi Adsefydlu Cyn-droseddwyr a gellir cael templed gan y DBS sydd ar gael yma.
Er bod llawer o egwyddorion ac elfennau cyffredin sy’n briodol i’r rhan fwyaf o fudiadau, dylai’r ffordd rydych chi’n eu rhoi nhw ar waith fod yn benodol i’ch mudiad. Ceisiwch gadw pethau mor syml a phlaen â phosibl, ac ystyriwch ‘Ai dyma beth sy’n gweithio i ni?’ Mae’n bwysig bod yr wybodaeth a nodir yn eich polisi yn adlewyrchiad cywir o’r camau y mae eich mudiad yn eu cymryd.
Pennwch ddyddiad adolygu ar gyfer eich polisi. Bydd eich mudiad yn newid ac yn datblygu, ac mae gofynion diogelu yn newid yn aml hefyd. Darllenwch y polisi a gofynnwch i’ch hun, ai dyma’r ffordd mae pethau’n gweithio o hyd? A oes angen i chi ddiweddaru unrhyw wybodaeth? A yw’n hawdd ei ddeall? A yw’n egluro’r hyn rydych chi am i bobl ei wneud? Gofynnwch i rywun y tu allan i’ch mudiad darllen y geiriad i sicrhau ei fod yn gwneud synnwyr.
Cysylltiadau â pholisïau eraill
Ni ellir ystyried diogelu ar ei ben ei hun, oherwydd mae’n torri ar draws holl weithgareddau eich mudiad. Mae hyn yn golygu y dylai eich polisi diogelu gysylltu â pholisïau eraill y bydd eu hangen arnoch wrth i’ch mudiad ddatblygu, fel:
- Iechyd a diogelwch – sicrhau bod yr amgylchedd ffisegol a digidol yn ddiogel i bobl ei gyrchu, pwy bynnag yr ydynt
- Recriwtio cyffredinol – ar gyfer rolau lle nad yw pobl mewn cysylltiad uniongyrchol â phobl a allai fod mewn perygl; y sesiwn gynefino, cymorth a hyfforddiant cyffredinol y byddwch chi’n eu rhoi i bawb
- Cod ymddygiad – nodi eich disgwyliadau o ran ymddygiad pobl tuag at ei gilydd o fewn y mudiad a thuag at eich buddiolwyr / defnyddwyr gwasanaethau / y cyhoedd; mae pawb sy’n gysylltiedig â’ch mudiad yn eich cynrychioli a gall eu hymddygiad/gweithrediadau wella, neu niweidio, eich enw da
- Polisïau Cwyno a Disgyblu – sut byddwch chi’n rhoi sylw i staff a gwirfoddolwyr nad ydynt yn cyflawni eu rolau neu’n ymddwyn fel y dymunwch, a gallai hyn olygu y bydd yn rhaid i chi ofyn iddyn nhw adael eich mudiad; bydd hyn yn wahanol i staff a delir o’u cymharu â gwirfoddolwyr
Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth a thempledi i’ch helpu chi i greu’r polisïau eraill hyn yn ein hadran, Rhedeg eich mudiad.