Mae’r polisi gwirfoddoli hwn yn amlinellu’r egwyddorion a’r arferion yr ydym yn eu dilyn i gynnwys gwirfoddolwyr ac mae’n berthnasol i’r staff, y gwirfoddolwyr a’r ymddiriedolwyr o fewn y mudiad. Ei nod yw creu dealltwriaeth gyffredin ac egluro rolau a chyfrifoldebau er mwyn sicrhau bod y safonau uchaf yn cael eu cynnal o ran rheoli gwirfoddolwyr.
Mae’r llawlyfr gwirfoddolwyr yn rhoi rhagor o fanylion ar y cymorth a’r gweithdrefnau sydd ar waith i wirfoddolwyr.