Deallusrwydd Artiffisial a chyllid
Mae Deallusrwydd Artiffisial yn dechnoleg newydd sy’n datblygu’n gyflym. Mae’r arweiniad hwn yn canolbwyntio ar ddulliau arfer da o ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial a fydd yn berthnasol hyd yn oed wrth i’r dechnoleg barhau i ddatblygu. Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol y gallai rhywfaint o wybodaeth neu ddeddfwriaeth fod wedi newid ers creu’r canllaw hwn ym mis Ebrill 2025.
Trosolwg
- Cyflwyniad i Ddeallusrwydd Artiffisial
- Beth yw Deallusrwydd Artiffisial?
- Sut mae Deallusrwydd Artiffisial yn gweithio
- Cyfyngiadau Deallusrwydd Artiffisial
- Lliniaru cyfyngiadau Deallusrwydd Artiffisial
- Materion cymhleth: cyfreithiol/diogelu data
- Promptiau
- Ysgrifennu ceisiadau
- Ffyrdd eraill o ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial i gynhyrchu incwm
Cyflwyniad i Ddeallusrwydd Artiffisial

Mae’r defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial yn dod yn fwy cyffredin yn ein gwaith a’n bywydau bob dydd. Ar gyfer codi arian, mae’n cynnig cyfleoedd gwych i gyflymu a gwella ceisiadau am gyllid. Fodd bynnag, nid yw’n tynnu’r holl waith allan o ysgrifennu ceisiadau, ac wrth ei ddefnyddio’n anghywir/heb fod yn ofalus gall Deallusrwydd Artiffisial ysgrifennu cais gwael yn gyflym iawn OND, yn yr un modd, gan ei ddefnyddio’n ofalus bydd yn eich helpu i ysgrifennu ceisiadau cryfach
Dim ond cam olaf cyllid grant yw ysgrifennu’r cais. Mae angen sefydlu’r ymchwil, y cynllunio a dyluniad y prosiect cyn y cam ysgrifennu i roi’r siawns orau ichi lwyddo.
Cofiwch
Beth yw Deallusrwydd Artiffisial?
Mae Deallusrwydd Artiffisial yn cyfeirio at systemau cyfrifiadurol sydd wedi eu cynllunio i gyflawni tasgau sydd yn gofyn yn nodweddiadol am ddeallusrwydd dynol, megis dysgu, rhesymu, a datrys problemau.
Mae Enghreifftiau o Ddeallusrwydd Artiffisial yn cynnwys.
- Sgyrsfotiau ar gyfer gwasanaeth cwsmeriaid.
- ChatGPT, Gemini, Copilot a Claude
- Testun rhagfynegol mewn negeseuon e-bost neu apiau negeseuon.
OpenAI – ChatGPT
Dyma un o’r modelau a ddefnyddir fwyaf ac mae’n cynnig model di-dâl a thanysgrifio. Mae sefydlu cyfrif a dechrau ei ddefnyddio yn gyflym ac yn rhwydd. Mae’n enghraifft o Fodel Iaith Mawr, sy’n golygu eu bod yn gweithio drwy ddadansoddi setiau data enfawr o iaith i ragweld atebion i gwestiynau. Gelwir ChatGPT a phlatfformau eraill tebyg yn Ddeallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol.
Sut mae Deallusrwydd Artiffisial yn gweithio
Mae Deallusrwydd Artiffisial yn defnyddio Algorithmau sef set o gyfarwyddiadau neu reolau y mae systemau Deallusrwydd Artiffisial yn eu defnyddio i brosesu data a chynhyrchu allbynnau. Mae’n nodi patrymau mewn setiau data mawr i wneud rhagfynegiadau neu benderfyniadau. Is-set Deallusrwydd Artiffisial sy’n caniatáu i systemau ddysgu o ddata a gwella dros amser heb raglennu penodol yw Dysgu Peirianyddol.
Cyfyngiadau Deallusrwydd Artiffisial
Er bod ganddo lawer o gryfderau, mae cyfyngiadau y mae angen i ddefnyddwyr fod yn ymwybodol ohonynt oherwydd eu bod yn gallu effeithio ar y modd y mae’n ymateb ac yn creu deunydd.
Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod ChatGPT yn defnyddio rhwng 50 a 90 gwaith yr ynni fesul ymholiad, o’i gymharu â chwiliad confensiynol
Diffyg Dealltwriaeth Ddynol – Nid yw Deallusrwydd Artiffisial yn “deall” cyd-destun neu emosiynau mewn gwirionedd—mae’n prosesu data yn seiliedig ar batrymau, a all arwain at ymatebion anghywir neu ansensitif mewn sefyllfaoedd cymhleth.
Dibyniaeth ar Ddata – Mae Deallusrwydd Artiffisial yn dibynnu ar symiau mawr o ddata o ansawdd uchel. Gall data gwael a rhagfarnllyd neu annigonol arwain at ganlyniadau anghywir neu annheg.
Creadigrwydd Cyfyngedig – Er y gall Deallusrwydd Artiffisial gynhyrchu allbynnau creadigol (ee, celf neu ysgrifennu), nid oes ganddo wir wreiddioldeb na’r gallu i feddwl yn haniaethol fel bodau dynol.
Pryderon Moesegol – Gellir camddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial at ddibenion niweidiol, megis fideos ffugiad dwfn, lledaenu camwybodaeth, neu wyliadwriaeth, gan godi materion preifatrwydd a moesegol. (Ceir enghraifft sgyrsfot isod)
Diffyg Hyblygrwydd – Mae Deallusrwydd Artiffisial yn perfformio’n dda o fewn ei gwmpas rhaglenedig ond mae’n cael trafferth gyda thasgau y tu allan i’w hyfforddiant neu sefyllfaoedd annisgwyl.
Dibyniaeth ar Ddatblygwyr – Mae effeithiolrwydd Deallusrwydd Artiffisial yn dibynnu ar sgiliau ac amcanion ei grewyr. Gall gwallau wrth ddatblygu arwain at systemau diffygiol.
Mae Deallusrwydd Artiffisial yn cael effaith amgylcheddol – Mae offer Deallusrwydd Artiffisial yn gofyn am symiau mawr o ynni a dŵr croyw i bweru eu canolfannau data. Mae hyn yn creu effaith amgylcheddol sylweddol. Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod ChatGPT yn defnyddio rhwng 50 a 90 gwaith yr ynni fesul ymholiad, o’i gymharu â chwiliad confensiynol
Lliniaru cyfyngiadau Deallusrwydd Artiffisial
Gellir lliniaru rhai o’r cyfyngiadau hyn drwy gynllunio a gwirio canlyniadau yn ofalus.
- Sothach i Mewn, Sothach Allan (GIGO): Mae data o ansawdd gwael yn arwain at allbynnau Deallusrwydd Artiffisial annibynadwy, rhagfarnllyd neu anniogel.
- Amrywiaeth mewn Data Hyfforddi: Mae angen setiau data cytbwys a chynrychioliadol ar Ddeallusrwydd Artiffisial, er mwyn osgoi parhau rhagfarnau systemig.
- Goruchwyliaeth Ddynol: Mae monitro ac ymyrraeth reolaidd yn hanfodol i liniaru gwallau Deallusrwydd Artiffisial. Peidiwch â bod yn rhy ddibynnol ar yr hyn y mae’n ei gynhyrchu!
- Tryloywder: Mae’n hanfodol deall sut y ceir gafael ar ddata a sut y’u defnyddir er mwyn datblygu ymddiriedaeth ac atebolrwydd mewn systemau Deallusrwydd Artiffisial.
Materion cymhleth: cyfreithiol/diogelu data
Gan ei fod yn dechnoleg mor newydd ac sy’n datblygu’n gyflym, mae materion cyfreithiol a mesurau diogelwch yn cael trafferth cynyddu ar yr un raddfa. Dyma rai o’r materion y dylid bod yn ymwybodol ohonynt:
Hawlfraint
Pwy sy’n berchen ar gynnwys a gynhyrchir gan Ddeallusrwydd Artiffisial? Yn draddodiadol, mae hawlfraint yn gofyn am awduraeth ddynol, sy’n codi cwestiynau ynghylch a yw gwaith a grëir gan Ddeallusrwydd Artiffisial yn gymwys i gael ei ddiogelu.
Data Hyfforddi – Mae modelau Deallusrwydd Artiffisial yn cael eu hyfforddi ar setiau data helaeth y ceir gafael arnynt yn aml heb ganiatâd penodol. Os yw’r setiau data hyn yn cynnwys deunydd hawlfraint, gallai’r allbynnau sy’n deillio ohonynt etifeddu materion hawlfraint.
Hawliau Defnyddwyr neu Ddatblygwyr – Pwy sydd â’r hawl i’r cynnwys: y defnyddiwr sy’n mewnbynnu’r ymholiad neu’r datblygwr a greodd y Deallusrwydd Artiffisial? Mae hyn yn parhau i fod yn aneglur ac, yn aml, mae’n ddarostyngedig i delerau gwasanaeth y platfform.
Mae Gwahaniaethau o ran Awdurdodaeth yn gwaethygu’r materion hyn ymhellach oherwydd bod deddfau Hawlfraint yn amrywio ledled y byd.
Diogelu data
Preifatrwydd a Chaniatâd – Rhaid i fudiadau sicrhau eu bod yn casglu, yn storio, ac yn defnyddio data personol â chaniatâd penodol, gan ddilyn GDPR a Deddf Diogelu Data 2018. Mae defnyddio data heb ganiatâd clir neu dryloywder yn torri rhwymedigaethau cyfreithiol a moesegol.
Trosglwyddo Data Trawsffiniol – Mae symud data rhwng gwledydd sydd â gwahanol safonau cyfreithiol yn creu heriau cydymffurfio a gorfodi, yn enwedig o dan reolau trosglwyddo data llym GDPR.
Rhithweledigaeth

Un o nodweddion rhyfedd Deallusrwydd Artiffisial yw y gall “greu” data neu gynhyrchu gwybodaeth anghywir weithiau pan fydd yn dod ar draws gwybodaeth annigonol. Mae’n gwneud hyn oherwydd bod systemau Deallusrwydd Artiffisial megis ChatGPT yn cynhyrchu ymatebion yn seiliedig ar batrymau yn y data y maent wedi eu hyfforddi arnynt. Mae’n rhagweld y gair neu’r ymadrodd nesaf mewn brawddeg yn seiliedig ar debygolrwydd sy’n deillio o’r data hyfforddi hyn.
Nid yw Deallusrwydd Artiffisial yn “gwybod” beth nad yw’n ei wybod ac mae wedi ei gynllunio i ddarparu allbynnau cydlynol, felly pan fydd yn wynebu bylchau mewn gwybodaeth, bydd yn dyfalu yn seiliedig ar ei hyfforddiant: Er enghraifft, os gofynnir iddo am ystadegyn nad yw’n ei wybod, gallai gynhyrchu rhif sy’n ymddangos yn rhesymol yn seiliedig ar gyd-destun cysylltiedig. Maent hefyd yn osgoi Dweud ‘Dydw i ddim yn gwybod’ oherwydd nad yw’r systemau wedi eu rhaglennu i gyfaddef diffyg gwybodaeth yn benodol oni bai eu bod yn cael cyfarwyddyd penodol i wneud hynny.
Enghreifftiau o Ddeallusrwydd Artiffisial yn ffugio data
- Ysgrifennu Grant: Pan ofynnir iddo am astudiaeth achos neu dystiolaeth nad yw’r model wedi ei gweld, efallai y bydd yn dyfeisio enghraifft ffug sy’n ymddangos yn realistig.
- Gwybodaeth Ystadegol: Gallai’r model ddarparu cyfartaledd neu ganran heb gael gafael arni, gan ffugio data sy’n cyd-fynd â’r pwnc ond nad yw’n gywir.
Mae technegau y gallwch eu defnyddio i liniaru rhithweledigaethau o’r fath:
- Gwirio Allbynnau Deallusrwydd Artiffisial: Croeswirio data neu honiadau a ddarperir gan Ddeallusrwydd Artiffisial bob amser o’u cymharu â ffynonellau dibynadwy.
- Gofyn am Ffynonellau: Pan fo hynny’n bosibl, annog Deallusrwydd Artiffisial i ddarparu cyfeiriadau. Er nad yw hyn yn gywir bob amser, mae’n ei annog i gynhyrchu yn fwy gofalus.
- Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer Drafftio, Nid Ffeithiau: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial i strwythuro a mireinio cynnwys ond dibynnu ar ffynonellau dibynadwy ar gyfer gwybodaeth ffeithiol.
- Gosod Ffiniau: Hyfforddi systemau Deallusrwydd Artiffisial (os yw’n bosibl) i nodi pan nad oes digon o wybodaeth neu i ddarparu ymatebion mwy niwtral megis, “Yn seiliedig ar yr wybodaeth sydd ar gael…”.
- Defnyddio Promptiau Penodol: Gallwch gynnwys cyfarwyddiadau yn eich promptiau i lywio ei ymddygiad: er enghraifft: “Os nad ydych yn siŵr o’r ateb neu’n brin o wybodaeth ddigonol, ymatebwch gan ddweud ‘Nid wyf yn gwybod.’ Peidiwch â cheisio dyfalu na rhagfynegi.”
Promptiau
Beth yw promptiau?
Cyfarwyddiadau neu’r cwestiynau yr ydych yn eu gofyn i Ddeallusrwydd Artiffisial i gael ymateb yw promptiau. Maent yn arwain yr hyn y mae Deallusrwydd Artiffisial yn ei ddweud neu’n ei wneud. Gall prompt fod mor fyr ag un gair neu’n baragraff llawn gan ddibynnu ar yr hyn yr ydych yn gofyn amdano. Gallwch ystyried prompt fel rhoi cyfarwyddiadau; po gliriach a mwy penodol ydych, y gorau yw’r canlyniadau y byddwch yn eu cael.
Sut i ysgrifennu promptiau da
Bod yn benodol
Osgowch gwestiynau amwys megis “Dywedwch wrthyf am gyllid.”
Byddai “Rhowch ddadleuon perswadiol i mi helpu i sicrhau cyllid prosiectau ieuenctid mewn ardal ddifreintiedig yn ne Cymru” yn llawer gwell.
Rhoi’r cyd-destun
Cynhwyswch i bwy mae ef, yr hyn yr ydych yn ceisio ei wneud, unrhyw gefndir pwysig. Enghraifft: “Rwy’n ysgrifennu cais am gyllid ar gyfer caffi cymunedol, yn Wrecsam a fydd yn mynd i’r afael â thlodi bwyd – rhowch bwyntiau allweddol i mi gyfiawnhau’r angen.”
Dweud ym mha fformat ydych chi eisiau’r ateb
Gallai hyn fod ar ffurf pwyntiau bwled, paragraff, crynodeb, rhestr o ystadegau, ac ati. Byddai’r prompt felly yn cynnwys “Crynhowch hyn mewn 3 pwynt bwled sy’n addas ar gyfer cais am gyllid.”
Gofyn cwestiynau dilynol
Gallwch fireinio neu ehangu wrth ichi fynd a byddwch yn gweld bod hynny’n gweithio orau mewn ‘sgwrs’ yn ôl ac ymlaen
Defnyddio chwarae rôl os oes angen
Gallwch ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial i edrych ar eich gwaith o safbwyntiau eraill; er enghraifft, gallech ofyn iddo “Gweithredwch fel swyddog grant – beth fyddech chi’n dymuno ei weld yn y cais hwn?”
Ysgrifennu ceisiadau
Manteision ac anfanteision defnyddio deallusrwydd Artiffisial mewn Ceisiadau am gyllid
Manteision
- Arbed Amser: Mae Deallusrwydd Artiffisial yn drafftio adrannau’n gyflym, gan eich helpu i ganolbwyntio ar fireinio ac addasu’r cais yn hytrach na dechrau o’r dechrau.
- Gwell Cywirdeb: Mae offer gwirio gramadeg, canfod gwallau, a gwirio ffeithiau yn cynyddu cywirdeb y ceisiadau.
- Cysondeb: Mae Deallusrwydd Artiffisial yn cynnal tôn ac arddull gyson, sy’n enwedig o ddefnyddiol mewn ceisiadau hirach sy’n gofyn am lais cydlynol.
- Alinio â Meini Prawf Cyllidwyr: Mae dadansoddiad Deallusrwydd Artiffisial o feini prawf cyllidwyr yn gwella aliniad y cais â disgwyliadau cyllidwyr, gan gynyddu’r siawns o lwyddiant.
Anfanteision
- Costau Cychwynnol: Gall offer Deallusrwydd Artiffisial o ansawdd uchel fod yn ddrud, er bod rhai dewisiadau cost-effeithiol neu ddi-dâl ar gael.
- Risg o Allbwn Generig: Efallai y bydd yr hyn a gynhyrchir gan Ddealltwriaeth Artiffisial yn brin o gynnwys personol neu ddealltwriaeth fanwl sy’n benodol i’ch mudiad, felly mae’n hanfodol ei addasu.
- Pryderon am Breifatrwydd Data: Gallai ceisiadau gynnwys data sensitif, a gallai defnyddio Deallusrwydd Artiffisial godi pryderon am breifatrwydd os na chaiff ei reoli’n ofalus.
- Gorddibyniaeth ar Ddeallusrwydd Artiffisial: Gallai dibynnu’n ormodol ar Ddeallusrwydd Artiffisial leihau meddwl yn feirniadol a chreadigrwydd mewn ceisiadau, ac mae hynny’n allweddol i lunio ceisiadau sy’n sefyll allan.
CYNGOR – gofynnwch i Ddeallusrwydd Artiffisial roi ymatebion ichi yn Saesneg Prydeinig er mwyn osgoi defnyddio sillafiadau Americanaidd
Ffyrdd eraill o ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial i gynhyrchu incwm
Mae’r adran nesaf hon yn edrych ar yr hyn y mae Deallusrwydd Artiffisial yn ei wneud yn dda a pha anawsterau y gallwch eu hwynebu wrth ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial. Cyn dechrau cais am grant gan ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial, edrychwch i weld a oes gan y cyllidwr ddatganiad a chanllawiau ar ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer eu ceisiadau. Cynhwysir rhai enghreifftiau isod.
Cryfderau Deallusrwydd Artiffisial
Pan fydd gennych ddogfen yr ydych yn fodlon arni, gall Deallusrwydd Artiffisial ei diwygio’n gyflym i weddu i geisiadau yn y dyfodol drwy newid y pwyslais ar feysydd gwaith a chanlyniadau.
Drafftio a Strwythuro yn Gyflym – Ar yr amod eich bod wedi darparu gwybodaeth dda, gall Deallusrwydd Artiffisial gynhyrchu drafftiau sydd wedi eu strwythuro’n dda mewn munudau, gan sicrhau bod yr holl adrannau allweddol (dadansoddiad o’r anghenion, amcanion, effaith, cyllideb) yn cael eu cwmpasu. Ar gyfer hyn, mae’n HANFODOL eich bod yn darparu gwybodaeth glir a da, ac awgrymir eich bod yn creu templed (gweler y daflen wybodaeth am Dempled Deallusrwydd Artiffisial) i sicrhau bod digon o wybodaeth yn cael ei darparu.
Golygu a Phrawfddarllen – Gall Deallusrwydd Artiffisial wirio gramadeg, sillafu a darllenadwyedd ar unwaith i sicrhau cais proffesiynol, ac mae’n gallu eich helpu i aralleirio brawddegau cymhleth yn glir ac yn gryno. Mae hefyd yn dda iawn o ran golygu ymatebion i fodloni nifer geiriau/llythrennau. Bydd hefyd yn helpu i wella’r darllenadwyedd a’ch grym perswâd drwy fireinio’r dôn a chael gwared ar jargon
Addasu Ceisiadau i Fodloni Disgwyliadau a Blaenoriaethau Cyllidwyr – Gall Deallusrwydd Artiffisial ddadansoddi meini prawf grant ac awgrymu cynnwys wedi ei addasu sy’n bodloni disgwyliadau/blaenoriaethau cyllidwyr. Bydd hefyd yn helpu i sicrhau bod eich prosiect yn cael ei alinio â’r cyllidwyr drwy dynnu sylw at agweddau perthnasol ar eich prosiect. Pan fydd gennych ddogfen yr ydych yn fodlon arni, gall Deallusrwydd Artiffisial ei diwygio’n gyflym i weddu i geisiadau yn y dyfodol drwy newid y pwyslais ar feysydd gwaith a chanlyniadau. Bydd yn gwneud hyn yn gyflym iawn, gan arbed llawer iawn o amser golygu ac addasu.
Crynhoi Gwybodaeth – Gall Deallusrwydd Artiffisial grynhoi dogfennau, adroddiadau, neu ganllawiau hir gan dynnu pwyntiau allweddol sy’n berthnasol i’ch cais. Gall hyn fod yn enwedig o ddefnyddiol wrth ateb cwestiynau am sut mae eich prosiect yn mynd i’r afael â pholisi penodol. Gall Deallusrwydd Artiffisial grynhoi’n gyflym sut mae’n mynd i’r afael â’r polisi gan arbed cryn amser ac ymdrech i chi.
Cynhyrchu syniadau – Bydd Deallusrwydd Artiffisial yn helpu i wyntyllu syniadau a gall fod yn ddefnyddiol iawn pan fyddwch yn dechrau gyda thudalen wag. Er efallai nad yw ei holl syniadau yn addas, gall roi hwb i’ch proses o feddwl a chyflymu datblygiad eich prosiect yn fawr.
Mae hefyd yn ddefnyddiol wrth awgrymu effaith eich gwaith, megis ei effaith amgylcheddol, a ffyrdd y gellir ei lliniaru, neu syniadau ynghylch sut i fonitro eich prosiect a’r dangosyddion y gallech eu defnyddio.
Data ac ystadegau – Gall Deallusrwydd Artiffisial eich helpu i ddod o hyd i ystadegau, astudiaethau achos, a data effaith, gan eu corffori, i gryfhau’r cais. Dylid bod yn ofalus wrth wneud hyn rhag ofn y rhithweledigaethau a ddisgrifir yn gynharach.
Dim ar Unrhyw Gyfrif
Gwendidau Deallusrwydd Artiffisial
- Ffugio gwybodaeth – fel y nodir uchod, os na roddir gwybodaeth a chanllawiau clir i Ddeallusrwydd Artiffisial, gall greu gwybodaeth nad yw’n wir ac mae hynny’n arwain at wneud eich gwaith yn llai credadwy
- Strwythurau ymateb – oherwydd ei fod yn defnyddio modelau rhagfynegol, gall Deallusrwydd Artiffisial goladu gwybodaeth nad yw bob amser yn briodol ar gyfer eich cais. Er bod y testun a gynhyrchir yn rhesymegol, efallai na fydd y pwyslais yn gywir. Er enghraifft, dyma destun a gynhyrchwyd ar gyfer cais:
Brawddeg a gynhyrchwyd gan Ddeallusrwydd Artiffisial
Rydym yn ceisio £5,000 i dalu costau craidd ein gwasanaeth yn ystod cyfnod o adfywio. Fodd bynnag, er mwyn parhau i gyflawni ac ehangu ein gweithgareddau craidd, mae angen cyllid arnom ar frys i dalu costau craidd ar gyfer staff, tiwtoriaid allanol, a gweithgareddau ychwanegol sy’n diwallu anghenion newydd ein pobl ifanc. Ein gwariant y llynedd oedd £144,750, a dyrannwyd 90% yn uniongyrchol i weithgareddau elusennol, gan gynnwys 65% ar staffio. Gyda thîm bach o saith aelod o staff rhan-amser, rydym yn gweithredu ar gapasiti llawn ac ni allwn ehangu ein gwasanaethau heb gefnogaeth ariannol ychwanegol.
Byddai’n well rhoi llawer o hyn mewn adran am yr angen, ac yn y fan yma gellir rhoi manylion am y modd y byddai’r arian yn cael ei wario, a’r amserlen ar gyfer hynny.
- Ailadroddus Bydd Deallusrwydd Artiffisial yn ailadrodd gwybodaeth, yn enwedig os nad yw wedi cael llawer o wybodaeth i weithio gyda hi. Dyma bethau i wylio allan amdanynt:
- Mae’n hoffi dweud wrthych chi beth mae’n mynd i’w ddweud wrthych, dweud wrthych, ac yna dweud wrthych beth mae wedi ei ddweud wrthych
- Ailadrodd gwybodaeth mewn gwahanol adrannau o’r cais. Mae hyn yn enwedig o gyffredin pan ofynnir iddo gynhyrchu atebion un cwestiwn ar y tro; megis mewn ffurflen gais hirach
- Gorbwysleisio – Mae Deallusrwydd Artiffisial yn hoffi defnyddio iaith emosiynol mewn ceisiadau, gan ddefnyddio geiriau megis unigryw a thrawsnewidiol yn aml, er ei bod yn amlwg na ellir disgrifio’r prosiect fel hynny.
- Camddehongli gwybodaeth/newid y pwyslais – Dyma un o’r ffyrdd cynnil y gall gwallau a chamwybodaeth ymdreiddio i geisiadau.
Brawddeg a gynhyrchwyd gan Ddeallusrwydd Artiffisial
Mae Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid yn Newton wedi pwysleisio nad yw pobl ifanc sy’n troseddu neu sydd mewn perygl o wneud hynny yn derbyn y gefnogaeth gorau posibl (mewn gwirionedd, dywedodd Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid fod gwaith y mudiad yn werthfawr o ran cadw pobl ifanc oddi ar y strydoedd)
- Gall gael gafael ar wybodaeth anghywir/dryslyd – yn aml, hyn yw’r peth anoddaf i’w ddarganfod, ac weithiau pan fyddwch yn darllen yn ôl, nid yw’r testun yn gweithio nac yn ychwanegu dim byd at yr hyn yr ydych yn ceisio ei gyfleu. Ar adegau eraill, gall ddarganfod materion anghywir yr ydych eisiau mynd i’r afael â nhw.
Gwneud pethau’n iawn
- Dechrau gydag Amlinelliad Manwl: Drafftiwch amlinelliad clir o brif bwyntiau eich cais. Mae hyn yn eich helpu i arwain proses creu cynnwys Deallusrwydd Artiffisial, gan sicrhau ei fod yn aros ar y pwnc cywir ac yn gydnaws â’ch amcanion.
Awgrymir eich bod yn defnyddio templed i gasglu a chyflwyno’r wybodaeth – Gweler taflen wybodaeth Templed Cyllido Deallusrwydd Artiffisial.
- Addasu Allbynnau Deallusrwydd Artiffisial: Defnyddiwch ddrafftiau a gynhyrchwyd gan Ddeallusrwydd Artiffisial fel sylfaen, yna personolwch nhw ag enghreifftiau, straeon a gwerthoedd penodol sy’n unigryw i’ch mudiad.
- Defnyddio Data er Budd i Chi: Gall offer Deallusrwydd Artiffisial grynhoi ystadegau perthnasol, felly corfforwch dystiolaeth a gefnogir gan ddata i gryfhau eich cais.
- Cysoni’r Iaith â Nodau y Cyllidwr: Yn aml, mae cyllidwyr yn chwilio am gysondeb â’u cenhadaeth. Defnyddiwch Ddeallusrwydd Artiffisial i gynhyrchu iaith sy’n siarad ar y blaenoriaethau hyn ond gwnewch yn siŵr ei fod yn teimlo’n ddilys.
- Prawfddarllen yn ofalus: Er y gall offer Deallusrwydd Artiffisial helpu gyda gramadeg ac arddull, mae prawfddarllen dynol yn hanfodol i sicrhau cywirdeb a phroffesiynoldeb.
Ffyrdd eraill o ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial i gynhyrchu incwm

Gyda’r data cywir ar waith a’u mewnbynnu i’ch offeryn Deallusrwydd Artiffisial dewisol, mae rhai defnyddiau ymarferol eraill Deallusrwydd Artiffisial wrth godi arian yn cynnwys:
Mewnwelediadau i Ddata y Rhoddwr, a’u Segmentu
Mae offer Deallusrwydd Artiffisial yn dadansoddi data rhoddwyr i nodi tueddiadau ac yn segmentu cefnogwyr yn seiliedig ar batrymau rhoddion, diddordebau a lefelau ymgysylltu. Gall hyn helpu i addasu negeseuon i grwpiau rhoddwyr penodol, gan gynyddu’r tebygolrwydd o ymgysylltu.
Cyfathrebu Personoledig
Gall platfformau sy’n cael eu gyrru gan Ddeallusrwydd Artiffisial greu ymgyrchoedd e-bost a chyfryngau cymdeithasol sydd wedi eu haddasu, gan gyflwyno cynnwys ar sail dewisiadau ac ymddygiad rhoddwyr unigol sy’n gwneud i gefnogwyr deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi’n fwy ac yn fwy cysylltiedig.
Dadansoddeg Rhagfynegol er mwyn Cadw Rhoddwyr
Mae modelau rhagfynegol yn rhagweld pa roddwyr sy’n debygol o ballu, gan helpu mudiadau i dargedu rhoddwyr sydd mewn perygl o ballu â negeseuon ac ymgyrchoedd amserol i gadw eu cefnogaeth.
Sgyrsfotiau i Ymgysylltu â Rhoddwyr
Mae sgyrsfotiau sy’n cael eu pweru gan Ddeallusrwydd Artiffisial yn darparu ymatebion yn y fan a’r lle i gwestiynau rhoddwyr ar wefannau, yn ymdrin ag ymholiadau arferol, a hyd yn oed yn arwain rhoddwyr posibl drwy’r broses o roi.
Optimeiddio Ymgyrchoedd Codi Arian
Gall Deallusrwydd Artiffisial ddadansoddi data ymgyrchoedd hanesyddol i awgrymu’r amser, y platfformau a’r mathau o gynnwys gorau ar gyfer cymaint o effaith â phosibl, gan ganiatáu i godwyr arian fireinio eu strategaethau ar gyfer ymgyrchoedd yn y dyfodol.
Platfformau Deallusrwydd Artiffisial a awgrymir ar gyfer codi arian
Salesforce Nonprofit Cloud
https://www.salesforce.org/products/nonprofit-cloud
Mae Salesforce yn adnabyddus am ei offer rheoli rhoddwyr ac mae’n defnyddio Deallusrwydd Artiffisial i ddarparu dadansoddeg rhagfynegol a nodweddion segmentu.
DonorPerfect
https://www.donorperfect.com
System rheoli rhoddwyr gyda mewnwelediadau ar gadw rhoddwyr a thueddiadau rhoi sy’n cael eu gyrru gan Ddeallusrwydd Artiffisial, sy’n addas ar gyfer elusennau llai a chanolig.
Gravyty
https://gravyty.com
Mae’n defnyddio Deallusrwydd Artiffisial i nodi rhoddwyr posibl, i bersonoli allgymorth, ac i flaenoriaethu tasgau codi arian ar gyfer gwell effeithlonrwydd.
Blackbaud Luminate
https://www.blackbaud.com/products/luminate
Mae’n cynnig amrywiaeth o offer sy’n cael eu pweru gan Ddeallusrwydd Artiffisial ar gyfer mewnwelediadau i ddata rhoddwyr, segmentu, a modelu rhagfynegol. Fe’u defnyddir yn helaeth yn y sector nid-er-elw.
HubSpot
https://www.hubspot.com/industries/nonprofits
Er mai system rheoli cysylltiadau cwsmeriaid yw HubSpot yn bennaf, mae’n cynnwys nodweddion Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer marchnata wedi ei dargedu ac mae elusennau yn ei ddefnyddio fwyfwy i wella eu hymdrechion ymgysylltu â rhoddwyr.
Platfformau deallusrwydd Artiffisial a awgrymir ar gyfer ceisiadau am gyllid
Grammarly Business
https://www.grammarly.com/business
Cynorthwy-ydd ysgrifennu sy’n gwirio’r gramadeg, y dôn a’r arddull, gan wneud yn siŵr bod y cais yn rhydd o wallau ac yn gydnaws â thôn argyhoeddiadol.
ChatGPT
https://openai.com/product/chatgpt
Mae’n amlbwrpas ar gyfer drafftio naratifau, crynhoi data, a gwyntyllu negeseuon allweddol sydd wedi eu haddasu i wahanol gyllidwyr.
Charity Excellence AI Bunnies
https://www.charityexcellence.co.uk
Gwasanaeth di-dâl, mae’r ‘Bunnies’ Dealltwriaeth Artiffisial yn gofyn 17 cwestiwn i’w helpu i gynhyrchu ceisiadau am gyllid. Bu’r sylwadau gan y rhai sy’n ei ddefnyddio yn gadarnhaol
GrantSeeker
https://grantseeker.io
Platfform sy’n cael ei yrru gan Ddeallusrwydd Artiffisial a gynlluniwyd i helpu mudiadau i ddod o hyd i grantiau a gwneud cais am grantiau drwy ddarparu cyfleoedd cyllido wedi eu haddasu a thempledi ceisiadau.
WriteSonic
https://writesonic.com
Offeryn cynhyrchu cynnwys sy’n ddefnyddiol ar gyfer drafftio a strwythuro adrannau ceisiadau. Gall templedi WriteSonic helpu i gyflymu’r broses o wneud cais.
Instrumentl
https://www.instrumentl.com
Platfform sy’n cael ei bweru gan Ddeallusrwydd Artiffisial ar gyfer nodi grantiau addas yn seiliedig ar feini prawf prosiect. Mae Instrumentl hefyd yn darparu mewnwelediadau ar flaenoriaethau cyllidwyr, gan eich galluogi i fireinio ceisiadau yn unol â hynny.
Cyngor cyllidwyr ar Ddeallusrwydd Artiffisial
Mae llawer o gyllidwyr mawr bellach yn cynnig canllawiau ar y defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial yn eu ceisiadau
Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Lloyds Bank Foundation
https://www.lloydsbankfoundation.org.uk/about-us/ai-position-statement
Paul Hamlyn Foundation
https://www.phf.org.uk/using-ai-in-your-work-with-us