Mae’n hanfodol bod mudiadau trydydd sector yn cynnal gwiriadau cefndirol priodol ar staff, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr.

Dylai’r defnydd o wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS, neu’r CRB gynt) fod yn rhan o’ch dull cyffredinol o ddiogelu ac wedi’i nodi yn eich polisi ac arferion recriwtio mwy diogel.

Mae’r Comisiwn Elusennau yn argymell hyn yn gryf. Dim ond ar gyfer rhai rolau a gweithgareddau y cewch gynnal gwiriadau.

Lawrlwytho adnoddau