Sported – Adroddiad datrysiadau
Nod Prosiect Gwirfoddoli Strategol Cymru, sy’n cael ei gyllido gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), yw gwella gallu ac effaith gwirfoddoli ar lefel bwrdd, ymddiriedolwr a rheolaeth ar gyfer grwpiau cymunedol ledled Cymru sy’n darparu chwaraeon a gweithgareddau corfforol.
Mae’n cynnwys dau gam: yn gyntaf, deall ac adrodd ar y tirlun gwirfoddoli ar y lefel hon o fewn grwpiau cymunedol yng Nghymru, ac, yn ail, darparu cyfres o argymhellion i randdeiliaid o fewn y sector ar y ffordd orau o sicrhau cynnydd o’r fath mewn gallu ac effaith.
Drwy wneud hynny, mae’r prosiect yn ceisio cysylltu â, a chefnogi, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru. Yn benodol, mae’r prosiect yn canolbwyntio ar sgiliau a datblygiad gwirfoddolwyr (Cymru lewyrchus), sector gwirfoddoli cynhwysol a hygyrch (Cymru fwy cyfartal), a chymuned wirfoddol sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod cymunedau lleol yn ogystal â chymryd rhan mewn chwaraeon a hamdden (Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu).
Mae’r adroddiad hwn yn manylu ar ganfyddiadau cam dau o’r prosiect, gan ddarparu datrysiadau ymarferol a chynaliadwy i’r heriau sy’n wynebu gwirfoddoli ar lefel bwrdd, ymddiriedolwr a rheolaeth o fewn chwaraeon
cymunedol yng Nghymru.
Mae’r datrysiadau hyn yn seiliedig ar ymchwil gadarn a gynhaliwyd gyda grwpiau cymunedol a rhanddeiliaid strategol ar draws y sector gwirfoddol yn ystod cam cyntaf y WSVP.
Mae’r adroddiad wedi’i strwythuro ar sail pum maes allweddol gwirfoddoli: Recriwtio, uwchsgilio, gwobrwyo a chydnabod, effeithlonrwydd ac arloesi a grymuso llwybrau i bobl ifanc a grwpiau ar y cyrion. Mae’r datrysiadau a amlinellir ym mhob maes wedi cael eu dadansoddi yn ôl eu perthnasedd tebygol i’r lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol fel bod y mudiadau sy’n gweithredu ar y lefelau gwahanol hynny’n gallu gweithredu’r argymhellion yn haws.