Rheoli adeiladau – gweithrediadau bob dydd (2)
Trosolwg
Cyflwyniad
Bwriad y daflen wybodaeth hon yw rhoi trosolwg o’r prif bethau y bydd angen i reolwyr adeiladau cymunedol eu hystyried mewn perthynas â rhedeg eu hadeilad(au) o ddydd i ddydd.
Mae’r wybodaeth yn ymwneud yn benodol â’r canlynol:
- Trwyddedu
- Bwyd
- Rheolau a chytundebau llogi
Bydd rhai o’r materion hyn yn berthnasol i bob mudiad, ond bydd eraill yn amrywio yn ôl yr union wasanaethau a gweithgareddau a ddarperir.
Noder: diben y wybodaeth a ddarperir yma yw rhoi trosolwg. Dylai bwrdd ymddiriedolwyr/cyfarwyddwyr eich mudiad bob amser ystyried eu goblygiadau fel y’u nodwyd yn nogfen llywodraethu eu mudiad, ac os nad ydych yn siŵr o unrhyw beth, dylech ofyn am gyngor y cyrff perthnasol a/neu weithwyr cymwys proffesiynol, yn enwedig pan nodir risgiau. Nodir ychydig o ffynonellau allweddol i gael rhagor o wybodaeth fanylach ar ddiwedd y daflen wybodaeth hon.
Trwyddedu
Mae gan Ddeddf Drwyddedu 2003 bedwar prif amcan:
- Atal trosedd ac anrhefn
- Diogelwch y cyhoedd
- Atal niwsans cyhoeddus
- Diogelu plant rhag niwed
Os ydych yn dymuno cynnig eich adeilad(au) cymunedol fel lle(oedd) i werthu neu gyflenwi alcohol neu i ddarparu adloniant wedi’i reoleiddio fel y’i diffinnir o dan Ddeddf Drwyddedu 2003 bydd angen i chi sicrhau ei fod wedi’i drwyddedu’n gywir drwy wneud cais am drwydded berthnasol gan gorff trwyddedu, sef eich awdurdod lleol fel arfer, a chael y cais hwnnw wedi’i dderbyn.
Fel rheolwyr adeiladau bydd angen i chi edrych ar y mathau o ddigwyddiadau rydych yn dymuno eu caniatâi a phenderfynu ar y math o drwydded y bydd arnoch ei hangen. Mae dwy fath o drwydded:
- Trwydded Mangre
- ‘Hysbysiadau Digwyddiadau Dros Dro’ (TENS)
Trwydded Mangre
Yn fras, bydd arnoch angen Trwydded Mangre er mwyn:
- Gwerthu alcohol drwy fanwerthu
- Darparu ‘adloniant wedi’i reoleiddio’
- Gwerthu lluniaeth gyda’r hwyr
Pan fo Trwydded Mangre yn cynnwys gwerthiant alcohol nid oes cyfyngiad ar y nifer o ddigwyddiadau y gellir gwerthu alcohol ynddynt. Ers mis Gorffennaf 2009, nid oes gofyn i adeiladau cymunedol ddynodi goruchwyliwr dynodedig mangre (DPS) wrth wneud cais newydd am drwydded mangre, cyn belled â bod y pwyllgor ymgeisio yn llenwi’r ffurflenni priodol ac yn darparu gwybodaeth ddigonol i fodloni’r awdurdod trwyddedu bod y trefniadau rheoli arfaethedig yn bodloni gofynion Deddf Drwyddedu 2003.
Mae hyn yn golygu bod pwyllgor rheoli’r adeilad, yn hytrach nag unigolyn penodol, yn gyfrifol am gynnal y safle. Mae’r mathau o bethau a ystyrir yn ‘adloniant wedi’i reoleiddio’ yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, perfformiadau cerddorol / dawns, sioeau ffilm, dramâu, digwyddiadau chwaraeon dan do, ac ati. Mae’n synhwyrol sicrhau bod y drwydded a dderbyniwch yn briodol ar gyfer yr holl opsiynau sydd eu hangen arnoch, gan gynnwys gweithgareddau llogwyr presennol a llogwyr posibl. Ceir ystod o weithgareddau yr ystyrir yn eithriadau, gan gynnwys:
- Perfformiadau o gerddoriaeth uchel rhwng 8am ac 11pm ar safle yr awdurdodwyd i werthu alcohol i’w yfed ar y safle
- Ffilmiau sydd wedi’u bwriadu’n bennaf neu’n rhannol er mwyn arddangos cynnyrch, hysbysebu nwyddau neu wasanaeth, neu ddarparu gwybodaeth, addysg neu gyfarwyddyd
- Darllediadau teledu neu radio, cyn belled â’u bod yn cael eu dangos yn fyw a heb eu recordio
- Cyfarfodydd neu wasanaethau crefyddol
- Adloniant mewn mannau addoli crefyddol cyhoeddus
- Garddwestau (oni bai eu bod ar gyfer budd preifat)
- Morys-ddawnsiau
- Adloniant o ganlyniad i rywbeth arall – e.e. cerddoriaeth yn ystod dosbarthiadau cadw’n heini
Mae lluniaeth gyda’r hwyr yn golygu darparu bwyd neu ddiod boeth i’r cyhoedd, i’w fwyta/yfed ar neu oddi ar y safle, rhwng 11pm a 5am. Mae’n cynnwys cludfwyd, caffis, mannau gwerthu bwyd cyflym a cherbydau arlwyo symudol. Mae angen i safleoedd sy’n darparu lluniaeth gyda’r hwyr ddal trwydded mangre.
Hysbysiadau Digwyddiadau Dros Dro (TENs)
Gellir cael Hysbysiad Digwyddiadau Dros Dro (TEN) pan fo safle i’w ddefnyddio ar gyfer un neu fwy o weithgareddau trwyddedadwy ond pan na cheir trwydded mangre ar gyfer y gweithgaredd hwnnw. Fodd bynnag, ceir cyfyngiadau, o ran y nifer o TENS y gellir eu derbyn mewn blwyddyn, fel a ganlyn:
- Gall deiliaid trwydded bersonol dderbyn hyd at 50 mewn blwyddyn
- Gall deiliaid trwydded nad yw’n un bersonol dderbyn hyd at 5 mewn blwyddyn
- Ni ellir rhoi mwy na 15 TENs i unrhyw safle penodol mewn unrhyw flwyddyn galendr, yn amodol ar gyfanswm o 21 o ddiwrnodau o hyd mewn unrhyw flwyddyn galendr ar unrhyw safle penodol
Cyhyd a bod y meini prawf a nodir uchod yn cael eu bodloni, dim ond yr heddlu a swyddogion iechyd yr amgylchedd sydd â’r hawl i ymyrryd er mwyn rhwystro digwyddiad neu gytuno ar addasiad i’r trefniadau ar gyfer digwyddiad o dan hysbysiad TEN.
Crynodeb o opsiynau
Gan gadw’r uchod mewn cof, ceir tri opsiwn sylfaenol y gallech eu hystyried ar gyfer eich adeilad(au) cymunedol:
- Peidio â thrwyddedu’ch safle a sicrhau hysbysiadau digwyddiadau dros dro (TENs) bob tro y bydd eu hangen arnoch. Dyma’r ffordd symlaf, ond drwy wneud hynny mae’n bosibl na fydd gennych drwyddedau yn weddill. Bydd angen i chi gofio ymgeisio mewn pryd, a bydd deiliad y TENs yn gyfrifol am bob digwyddiad, y gellid bod canllawiau llym iawn ynghlwm â nhw.
- Trwyddedu’ch safle ar gyfer adloniant wedi’i reoleiddio yn unig. Yn syml a chymharol rad, ond yn gyfyngol gan y bydd angen i chi barhau i ymgeisio am TEN os yw digwyddiad yn cynnwys gwerthiant alcohol neu luniaeth gyda’r hwyr. Gallai preswylwyr lleol neu awdurdodau cyfrifol wrthwynebu a gall y broses ymgeisio bara hyd at ddau fis.
- Trwydded ar gyfer adloniant wedi’i reoleiddio ac alcohol (a lluniaeth gyda’r hwyr os oes angen).Dyma’r opsiwn drutaf ond y mwyaf hyblyg. Bydd yn golygu talu am y cais (mae’r ffi yn seiliedig ar werth ardrethol y safle) a gosod hysbyseb yn eich papur lleol. Bydd gofyn i chi dalu ffi flynyddol bob blwyddyn hefyd.
Trwyddedau eraill
Er mwyn ymgymryd â’r math o weithgareddau y mae ar eich cymuned ei eisiau, mae’n bosibl y bydd angen i chi sicrhau trwyddedau eraill yn ychwanegol i’r rhai a ddisgrifir uchod. Mae’r canlynol yn grynodeb byr o’r rhai a allai fod yn berthnasol:
- Y Drwydded Gerddoriaeth – trwydded a fydd yn caniatáu i chi / eich llogwyr chwarae cerddoriaeth wedi’i recordio yn eich safle cymunedol. Mae’n dwyn ynghyd y ddwy drwydded yr oedd gofyn amdanynt yn flaenorol gan y Phonographic Performance Ltd (PPL) a Sefydliad y Gymdeithas Hawliau Perfformio (PRS). Gweler ‘Gwybodaeth Bellach’ am fanylion ar sut i wneud cais am y drwydded hon.
- Trwyddedau Hapchwarae a Loteri – os ydych yn cynnal unrhyw fath o raffl neu loteri rheolaidd, yn trefnu sesiynau Bingo neu’n berchen ar unrhyw fath o beiriannau hapchwarae, yna mae’n bosibl y bydd angen i chi wneud cais i’ch awdurdod lleol am drwydded(au).
Bwyd

Caiff hylendid bwyd ei oruchwylio gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), Adran annibynnol o’r Llywodraeth sy’n gweithio er mwyn diogelu iechyd a diddordeb ehangach prynwyr mewn bwyd.
Mae gan yr ASB ganllawiau cynhwysfawr ar ddarpariaeth bwyd gan sefydliadau cymunedol ac mewn digwyddiadau elusennol ar ei gwefan. Rhoddir crynodeb byr o’r canllawiau hyn isod:
Cofrestru
Os ydych ond yn darparu bwyd yn achlysurol ac ar raddfa fach, mae’n annhebygol y bydd angen i chi gofrestru ag adran iechyd yr amgylchedd eich awdurdod lleol fel busnes bwyd. Fodd bynnag, os byddwch yn dechrau gwerthu, coginio, storio / trin, paratoi neu ddosbarthu bwyd yn rheolaidd ac mewn modd trefnus, bydd angen i chi gofrestru.
- Mae cofrestru am ddim.
- Caniatewch o leiaf 28 diwrnod cyn cychwyn arni.
Mae’r ASB wedi cyhoeddi canllaw ynglŷn â’r hyn y gellid ei ystyried yn ‘achlysurol ac ar raddfa fach’ yn hytrach nag yn ‘rheolaidd a threfnus’. Ceir isod rai enghreifftiau a all fod yn berthnasol i reolwyr adeiladau cymunedol:
Annhebygol y bydd angen cofrestru:
- Darpariaeth ddyddiol ar raddfa fach o fwydydd risg isel, ar brynhawniau yn ystod yr wythnos, gan wirfoddolwyr y gymuned / elusennau (e.e. darparu te a bisgedi mewn neuadd gymunedol / neuadd eglwys).
- Clwb brecwast mewn ysgol lle bydd gwirfoddolwyr yn darparu bwydydd brecwast syml fel tost a grawnfwyd a sudd oren ar gyfer plant oed ysgol a/neu blant bach.
- Digwyddiad mewn neuadd gymunedol a gynhelir tua chwe gwaith y flwyddyn lle gweinir pryd dau gwrs poeth i oddeutu 60 o bobl, gan gynnwys yr henoed.
- Caiff y bwyd ei goginio gartref gan wirfoddolwyr a’i ailgynhesu yng nghegin y neuadd cyn cael ei fwyta.
- Banc bwyd bach sy’n gweithredu’n anaml am ddim ond awr neu ddwy bob dydd. Bydd gwirfoddolwyr yn casglu bwyd tun a bwydydd wedi’u pecynnu nad oes angen rheoli’u gwres a roddwyd i gael eu dosbarthu gan bobl leol.
- ‘Clwb coginio’ lle bydd aelodau’n dod â’r cynhwysion bwyd gyda nhw neu’n talu arweinydd y cwrs i ddod â’r cynhwysion. Mae’r rhai sy’n mynychu yn dysgu sut i goginio gan ddefnyddio cyfarpar yn yr adeilad ac yna’n eistedd gyda’i gilydd i fwyta neu’n mynd â’r bwyd gartref.
Tebygol y bydd angen cofrestru:
- Grŵp ffydd sy’n darparu bwyd poeth am ddim bob mis ar gyfer pobl leol mewn adeilad.
- Caffi cymunedol sy’n agor am dridiau’r wythnos ar sail talwch-beth-gallwch ac sy’n cynnig bwyd a roddwyd gan fusnesau eraill ac unigolion.
- Clwb chwaraeon sy’n gweini prydau poeth yn rheolaidd yn ystod y tymor.
- Gweithgarwch elusennol gan wirfoddolwyr sy’n trefnu casglu brechdanau’n ddyddiol o archfarchnadoedd i’w dosbarthu i bobl ddigartref.
- Canolfan gymunedol fach sy’n cyflenwi bwyd poeth am ddim i oddeutu dwsin o bobl ddau amser cinio’r wythnos.
- Gweithgarwch wedi’i redeg gan wirfoddolwyr sy’n darparu cawl poeth a bara i bobl ddigartref bob nos.
Hylendid bwyd
Pa un ai bod angen i chi gofrestru neu beidio, bydd angen i chi fodloni gofynion y Rheoliadau Hylendid Bwyd sy’n rhan o gylch gwaith cyfraith yr UE ar hyn o bryd. Os byddwch yn trin, yn paratoi, yn storio a / neu’n gweini bwyd fel rhan o weithgarwch eich cymuned, bydd angen i chi ystyried y canlynol:
- Dylai fod cyfleusterau digonol i baratoi a storio bwyd yn ddiogel.
- Dylai prosesau trin bwyd osgoi gwneud bwyd yn agored i halogiad mewn unrhyw ffordd.
- Rhaid i unrhyw un sy’n gyfrifol am fusnes bwyd:
- Sicrhau bod bwyd a diod yn cael eu paratoi, eu storio, eu pecynnu, eu cludo, eu cyflenwi neu eu gwerthu mewn modd hylan.
- Nodi peryglon diogelwch bwyd.
- Gwybod pa gamau o weithgarwch paratoi bwyd sy’n allweddol i ddiogelwch bwyd.
- Sicrhau bod rheoliadau diogelwch ar waith ac yn cael eu cynnal a’u hadolygu.
Dylai safleoedd bwyd:
- Fod yn lân ac wedi’u cynnal, ac wedi’u cynllunio a’u hadeiladu i ganiatáu arferion hylendid bwyd da.
- Cael cyflenwad digonol o ddŵr yfed.
- Cael rheoliadau digonol ar waith er mwyn diogelu yn erbyn plâu.
- Cael goleuadau digonol (naturiol a/neu artiffisial) ynghyd â system awyru ddigonol (naturiol a/neu fecanyddol).
- Darparu toiledau glân, wedi’u hawyru’n ddigonol, gan sicrhau nad ydynt yn arwain yn uniongyrchol i ystafelloedd lle cedwir bwyd.
- Cael cyfleusterau golchi a sychu dwylo digonol a, lle bo’n briodol, chyfleusterau ar wahân ar gyfer golchi bwyd.
- Cael system ddraenio ddigonol.
Dylai ystafelloedd lle caiff bwyd ei baratoi gael:
- Arwynebau hawdd eu glanhau (gan gynnwys ffenestri a drysau).
- Cyfleusterau digonol ar gyfer golchi bwyd a chyfarpar ynghyd â chyfleusterau digonol ar gyfer storio a gwaredu sylweddau a gwastraff bwyd peryglus a/neu anfwytadwy.
Rhaid i’r rheini sy’n trin bwyd gael goruchwyliaeth, cyfarwyddyd a/ neu hyfforddiant mewn hylendid bwyd. Gall gwasanaeth iechyd yr amgylchedd eich cyngor lleol ddarparu cymorth a chyngor pellach, ac mae rhai hefyd yn cynnal cyrsiau hyfforddi.
Cofiwch y bydd angen i logwyr eich adeilad cymunedol ddilyn y rheoliadau hylendid yn ogystal (er mai pwyllgor rheoli’ch adeilad fydd yn gyfrifol yn y pen draw, wrth gwrs). Sicrhewch eich bod yn eu hysbysu o hyn a rhowch gopïau iddynt o unrhyw ganllawiau a ddarparwyd. Mae’n ddefnyddiol cael pamffled sy’n rhestru’r gofynion sylfaenol.
Mae’n rhaid i geginau mewn canolfannau sydd wedi’u cofrestru fel safleoedd bwyd cyrraedd safonau uwch. Gallai’r rhain gynnwys bod â theils neu ddur gwrthstaen ar waliau, system awyru bwerus a mwy o sinciau.

Alergenau
Os nad oes angen i’ch gweithgarwch gael ei gofrestru fel busnes bwyd, nid oes angen i chi gyflwyno gwybodaeth i ddefnyddwyr ynglŷn â’r alergenau sy’n bresennol fel cynhwysion yn y bwyd. Fodd bynnag, mae’r ASB yn argymell eich bod yn gwneud hynny fel arfer orau. Os ydych yn fusnes bwyd cofrestredig, bydd angen i chi ddilyn y rheolau alergenau (i weld y rhain, ewch i wefan yr ASB).
Awgrymiadau diogelwch bwyd
- Paratowch fwyd ymlaen llaw a’i rewi, os gallwch, ond sicrhewch fod y bwyd wedi dadrewi’n iawn cyn ei ddefnyddio.
- Golchwch eich dwylo yn rheolaidd â dŵr a sebon, gan ddefnyddio hylif diheintio dwylo os nad oes cyfleusterau golchi dwylo ar gael.
- Golchwch lysiau a ffrwythau ffres bob amser.
- Cadwch fwyd amrwd a pharod i’w fwyta ar wahân.
- Peidiwch â defnyddio bwyd ar ôl ei ddyddiad defnyddio olaf.
- Darllenwch gyfarwyddiadau coginio a sicrhewch fod bwyd wedi’i goginio’n gywir cyn ei weini.
- Sicrhewch fod ardaloedd paratoi bwyd wedi’u glanhau a’u diheintio’n briodol ar ôl eu defnyddio a golchwch unrhyw gyfarpar a ddefnyddir gennych mewn dŵr sebon poeth.
- Cadwch fwyd allan o’r oergell am yr amser byrraf posibl.
Bwyd wedi’i oeri
Ni ddylid cadw bwyd wedi’i oeri, megis llenwadau brechdanau a weinir fel rhan o fwffe, allan o’r oergell am fwy na phedair awr. Ar ôl yr amser hwn, dylid taflu unrhyw fwyd sy’n weddill i ffwrdd neu ei roi yn ôl yn yr oergell. Os ydych yn rhoi’r bwyd yn ôl yn yr oergell, peidiwch â’i adael i sefyll ar dymheredd yr ystafell pan fyddwch yn ei weini eto.
Dyddiadau defnyddio olaf
Mae dyddiadau defnyddio olaf yn dangos am ba hyd mae’r bwyd yn parhau’n ddiogel i’w fwyta neu ei yfed. Gwiriwch a dilynwch ddyddiadau defnyddio olaf y bwyd a weinir gennych. Ni ellir cyflenwi bwyd o dan unrhyw amgylchiadau os yw ei ddyddiad defnyddio olaf wedi bod. Mae hyn hefyd yn berthnasol os ydych yn darparu pobl â bwyd wedi’i becynnu o fanc bwyd.
Bwyd sydd angen gofal ychwanegol
Mae rhai bwydydd yn fwy tebygol o achosi gwenwyn bwyd nag eraill, gan gynnwys:
- Llaeth amrwd
- Pysgod cregyn amrwd
- Caws meddal
- Pâté
- Bwydydd sy’n cynnwys wyau amrwd
- Cigoedd wedi’u sleisio a’u coginio
Os ydych yn gweini unrhyw rai o’r bwydydd hyn, darllenwch adran ‘Bwydydd sydd angen gofal ychwanegol’ yn y pecyn ‘Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell’ a gynhyrchir gan yr ASB – (gweler y cyfeiriad ato isod).
Rheolau a chytundebau llogi
Fel rheolwr adeilad cymunedol, bydd hi’n bwysig i chi ddatblygu set o reolau ysgrifenedig y bydd pob gweithiwr yn barod i lynu atynt, yn ogystal â chynhyrchu cytundeb llogi ysgrifenedig ar gyfer gosod yr adeilad.
Dylai’r rheolau ar gyfer y defnydd o’r adeilad gael eu datblygu gan eich pwyllgor rheoli mewn trafodaethau â defnyddwyr yr adeilad a rhanddeiliaid allweddol eraill fel y bo’n briodol. Dylid anfon copi at bob llogwr a’i arddangos mewn lle amlwg o fewn yr adeilad. Os oes unrhyw gyfyngiadau penodol ar ddefnydd wedi’u gosod gan yr awdurdod lleol, gwnewch yn siŵr bod unrhyw logwr yn ymwybodol o’r rhain.
Gellir lawrlwytho setiau enghreifftiol o reolau o’r we, yn ogystal ag esiamplau gan adeiladau cymunedol eraill. Byddai’n syniad da cyfeirio at y rhain, ond mae’n siŵr y byddai’n well i chi ddyfeisio’ch set o reolau eich hun yn seiliedig ar eich amgylchiadau unigryw.
Ceir rhestr o bethau allweddol i’w hystyried isod:
- Rhagarweiniad sy’n cyflwyno’r darllenydd i’r mudiad.
- Datganiad byr sy’n amlinellu polisi eich sefydliad ar ‘Cydraddoldebau’ a ‘Hygyrchedd’.
- Sut y gall grŵp fynd ati i wneud cais i logi eich adeilad(au).
- Oriau agor.
- Uchafswm nifer y bobl y gellir eu cael ym mhob ystafell.
- Canllawiau Iechyd a Diogelwch a Diogelwch Tân.
- Goruchwylio a diogelu.
- Rheolau ynglŷn ag yfed a gwerthu alcohol.
- Rheolau ynglŷn â betio, hapchwarae a loterïau.
- Y mathau o adloniant a gynhelir y gallai fod angen trwydded ar eu cyfer.
- Defnydd o gerddoriaeth wedi’i recordio a thrwyddedu PPL.
- Y defnydd o storfeydd sydd ar gael.
- Glanhau a diogelwch.
- Colli eiddo a difrod.
- Trefniadau parcio ceir.
- Rheolau ar adael cŵn i mewn i’r adeilad.
- Niwsans e.e. Sbwriel.
Pan fydd gennych set glir o reolau ar waith, byddwch mewn sefyllfa dipyn yn well i sefydlu’ch ‘Cytundeb Llogi’ sydd, i bob pwrpas, yn gytundeb busnes. Bydd angen i delerau’r llogi gael eu hamlinellu’n glir iawn, felly, a bydd hi’n bwysig sicrhau bod y llogwr wedi’u darllen, yn eu deall ac yn eu llofnodi ar y cyd â chithau / yr unigolyn o’ch sefydliad sydd â chyfrifoldeb dirprwyedig dros lofnodi ar eich rhan.
Cyn i chi roi’ch adeilad ar log i sefydliad arall, bydd hi hefyd yn bwysig sicrhau eich bod yn gweithredu o fewn cytundebau eich prydles a / neu’r gyfraith mewn perthynas â thrwyddedu, cyfraith gynllunio, cyfyngiadau sŵn, ac ati. Eto, ceir digonedd o enghreifftiau o gytundebau llogi ar y we. Byddai cytundeb nodweddiadol yn cynnwys:
- Enw’r adeilad cymunedol perthnasol.
- Dyddiad y cytundeb.
- Diben y llogi.
- Cyfnod llogi – dyddiad(au) ac amser(oedd).
- Ystafell(oedd) a’r cyfleusterau i’w llogi.
- Ffi llogi.
- Datganiad yn cadarnhau bod y llogwr yn cytuno i gadw at reolau’r sefydliad ac amodau safonol y llogi (y bydd angen eu hatodi).
- Enw cynrychiolydd eich mudiad, cyfeiriad a manylion cyswllt.
- Enw’r llogwr, cyfeiriad a manylion cyswllt.
Gwybodaeth bellach
Trwyddedu
Y Drwydded Gerddoriaeth – PPL a PRS
Bwyd
Darparu Bwyd mewn Digwyddiadau Cymunedol ac Elusennol – Yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Cydnabyddiaeth:
Mae rhywfaint o’r canllawiau uchod wedi’u tynnu a’u crynhoi i’w defnyddio o: ‘Managing Your Community Building’ gan Community Matters a Peter Hudson (2000)