Dylai mudiadau gael polisi sy’n nodi hawliau cyflogai beichiog i gael absenoldeb mamolaeth a thâl mamolaeth, gan ystyried hawliau statudol gofynnol yn ogystal â threfniadau yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd. Ni ddylai cyflogwr achosi i gyflogai wynebu anfantais na’i diswyddo am resymau sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd.