Pecyn Cymorth Catalydd Cymru: Ehangu Gorwelion
Rhoddodd prosiect Catalydd Cymru: Ehangu Gorwelion gymorth i fudiadau treftadaeth micro, bach a chanolig neu fudiadau sy’n rhedeg prosiect treftadaeth ehangu eu ffrydiau incwm a chyrraedd cynulleidfaoedd a phobl newydd.
Wedi’i chyllido gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, rhedodd CGGC raglen Catalydd Cymru: Ehangu Gorwelion mewn partneriaeth â mudiad Cwmpas. Cefnogwyd y prosiect hefyd gan Dîm Cefnogi Ieuenctid Ethnig, Anabledd Cymru, a Pride Cymru.
Gwnaeth y prosiect ddarparu cymorth o dan bedwar llinyn:
- Cymorth hyfforddiant manwl ar bynciau megis llywodraethu, cynllunio busnes, a chynhyrchu incwm i helpu i wella gwydnwch a’r gallu i ymdrin â newid.
- Rhaglen hyfforddi wedi’i chyflwyno gan Ganolfan Cydweithredol Cymru a oedd yn ymdrin â phynciau megis Arweinyddiaeth Arloesol, Ailfeddwl Ffrydiau Incwm a dangos effaith gymdeithasol.
- Gweithgareddau ehangu rhwydwaith a gynlluniwyd ar y cyd â’r Tîm Cefnogi Ieuenctid
Ethnig, Pride Cymru, ac Anabledd Cymru i gefnogi mwy o bobl i gymryd rhan mewn
treftadaeth. - Grantiau Cymunedol i fudiadau treftadaeth neu fudiadau sy’n ymgymryd â phrosiect treftadaeth.
Mae’r pecyn cymorth etifeddol hwn wedi’i ddatblygu ar sail gwersi a ddysgwyd o’r gweithgareddau ehangu rhwydweithiau i gefnogi gwaith mudiadau eraill ar gynyddu amrywiaeth o fewn eu gwaith. Er mai astudiaethau achos o fudiadau treftadaeth sydd yn y pecyn cymorth hwn, mae hwn yn adnodd i bob mudiad sydd eisiau ehangu eu rhwydweithiau a’u gorwelion.
Gobeithio bydd yr adnodd hwn o fudd i chi ac y byddwch chi’n gallu cymhwyso rhai o’r gwersi a ddysgwyd ym mhrosiect Catalydd Cymru: Ehangu Gorwelion yn eich mudiad eich hun.