Mae’r offeryn hwn yn seiliedig ar 10 cam gweithredu y mae’n rhaid i fyrddau ymddiriedolwyr eu cymryd i sicrhau dulliau llywodraethu diogelu da (Saesneg yn unig)
Yn y pen draw, y Bwrdd Ymddiriedolwyr sy’n gyfrifol am ddiogelu mewn elusen, ond yn ymarferol, bydd llawer o dasgau’n cael eu dirprwyo i eraill, e.e. aelodau staff â digon o gymhwysedd neu gysylltiadau/contractwyr allanol. Rhaid i’r Bwrdd oruchwylio unrhyw bolisïau a gweithdrefnau a’u cymeradwyo, fel arfer gyda llofnod y Cadeirydd. Dylai polisïau dim ond nodi’r hyn y gall y mudiad ei gyflawni’n ymarferol a dylent fod mor syml â phosibl i’w rhoi ar waith.