Hysbysebu eich swydd wag
Trosolwg
Cyflwyniad

Mae angen cymryd gofal mawr wrth chwilio am ymgeiswyr addas ac wrth hysbysebu swydd wag er mwyn sicrhau’r ymateb gorau am y gost leiaf i’r mudiad. Y nod yw cael detholiad da o ymgeiswyr o safon uchel ar gyfer y rôl. Yn gyntaf, bydd angen ystyried a ddylai’r swydd gael ei hysbysebu’n fewnol neu’n allanol. Mae gan y ddwy ffordd eu manteision a’u hanfanteision:
Recriwtio mewnol o’r gweithlu presennol
mae gan y dull hwn y fantais o adeiladu ar sgiliau a hyfforddiant y staff presennol. Mae’n ffordd dda o gadw cyflogeion gwerthfawr y gellir gwella eu sgiliau ymhellach. Mae manteision eraill yn cynnwys y cyfle i’r staff ehangu eu cymwyseddau a’u sgiliau er budd y mudiad a’r unigolyn. Gall hefyd fod yn rhatach a chyflymach na recriwtio’n allanol. Fodd bynnag, gall gorddibyniaeth ar recriwtio mewnol arwain at ddiffyg newid ac amrywiaeth yn eich gweithlu.
Recriwtio allanol o’r tu allan i’r mudiad
Mae gan y dull hwn y fantais o gyrraedd ystod ehangach o ddarpar ymgeiswyr sydd â chymwysterau a sgiliau dymunol a all fod o fudd i’ch mudiad. Bydd ymgeiswyr allanol hefyd yn dod â syniadau newydd a phrofiad defnyddiol drwy eu gwaith gyda mudiadau eraill. Fodd bynnag, mae recriwtio allanol yn fwy costus o ran arian ac amser na recriwtio mewnol a bydd angen cadw’r angen i gynefino a hyfforddi’r aelod newydd o’r staff mewn cof.
Meddyliwch yn ofalus a ddylai’r swydd wag gael ei chynnig yn fewnol ynteu’n allanol (neu’r ddau) ac, os yw’r rôl yn cael ei chyllido gan grant, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio a oes gan y cyllidwr unrhyw ofynion penodol o ran recriwtio.
Dylunio’r hysbyseb
Ar ôl i chi benderfynu ar eich dull hysbysebu, bydd angen i chi ddylunio eich hysbyseb. Dylai hyn gynnwys::
- Sut y dylai ymgeiswyr ymateb – drwy ffurflen gais, dros y ffôn, yn bersonol yn y mudiad neu asiantaeth, drwy lythyr, e-bost, tâp neu Braille.
- Pwy fydd yn gyfrifol am ddidoli’r ceisiadau? Beth fydd y broses ddethol?
- Os bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal, pa bryd fydd hynny ac a fydd pawb sydd ynghlwm â’r broses â’r gael?
- A fydd profion dethol yn cael eu defnyddio? A oes arbenigedd ar gael i’w gweinyddu ac i sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu a’u bod yn briodol?
- A ofynnir am eirdaon/archwiliadau meddygol?
- A fydd angen gwiriadau DBS ar gyfer y rôl?
- A oes trefniadau ar waith i gydnabod y ceisiadau a geir yn brydlon?
EHRC – Gweithredu Cadarnhaol yn y Gweithle
Yr hysbyseb
Rhaid i bob hysbyseb swydd gydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010 ac osgoi iaith y gellid ei ystyried yn wahaniaethol.
Rhaid i unrhyw hysbyseb gael ei ddylunio a’i gyflwyno’n effeithiol i sicrhau bod yr ymgeiswyr cywir yn cael eu denu. Edrychwch ar gyhoeddiadau cenedlaethol, lleol neu broffesiynol i weld pa hysbysebion sy’n denu’r sylw.
Rhaid i hysbysebion gael eu teilwra ar gyfer lefel y gynulleidfa darged, a dylent fod yn eglur a hawdd eu deall bob amser. Rhaid sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu, a dylid osgoi unrhyw iaith sy’n benodol i ryw neu ddiwylliant.
Rhaid i bob hysbyseb swydd gydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010 ac osgoi iaith y gellid ei ystyried yn wahaniaethol.
I gefnogi hyn, dylai’r mudiad gynnwys datganiad o’i ymrwymiad i gyfle cyfartal yn yr hysbyseb, a fydd yn cadarnhau bod y mudiad yn un sy’n croesawu ymgeiswyr o bob carfan o’r gymuned.
Os ydych chi’n gwmni neu elusen gofrestredig mae’n arfer gorau i gynnwys eich rhifau cofrestru ar unrhyw hysbysebion. Os yw’r swydd yn cael ei chyllido’n allanol, efallai y bydd disgwyl i chi hefyd gynnwys logo’r cyllidwr yn eich hysbyseb.
Dylech ystyried y ffactorau canlynol yn yr hysbyseb:
- Os yw’r mudiad yn adnabyddus, a oes ganddo logo y gellid ei arddangos yn amlwg yn yr hysbyseb? Dylai’r hysbyseb fod yn gydnaws â delwedd y cwmni
- Ai teitl y swydd ddylai nodwedd amlycaf yr hysbyseb fod?
- Cadwch y testun yn fyr a syml, gan gynnwys prif agweddau’r swydd, cyflog, rhagolygon gyrfaol, lleoliad, hyd y contract
- Pa fuddion all y mudiad eu cynnig? Pensiwn, hyfforddiant, gweithio hyblyg, gwyliau blynyddol ac ati
- A ellir cyfleu manylion penodol, – fel y cyflog, y cymwysterau a’r profiad sydd eu hangen – mewn ffordd a fydd yn lleihau nifer yr ymgeiswyr anaddas?
- A oes modd osgoi cyffredinoli, pethau fel ‘cyflog deniadol’, neu ‘cymwysterau priodol’ a all gadw ymgeiswyr dilys draw?
- A allwch chi ddarparu manylion y swydd ar dâp neu mewn Braille a derbyn ceisiadau ar fformat tebyg?
- A yw’r dull ymateb a’r dyddiad cau’n eglur? A oes enw a rhif ffôn cyswllt i gysylltu ag ef os bydd angen rhagor o wybodaeth neu os bydd cwestiynau’n codi?
Dylai pob hysbyseb gynnwys yr un wybodaeth, boed at ddefnydd mewnol neu allanol.
Gwahaniaethu mewn hysbysebion am swyddi
Ni ddylech ddatgan nac awgrymu mewn hysbyseb am swydd y byddwch yn gwahaniaethu yn erbyn unrhyw un. Mae hyn yn cynnwys dweud na allwch ddarparu ar gyfer gweithwyr ag anabledd.
Peidiwch â defnyddio ymadroddion fel ‘graddedigion diweddar’ neu ‘profiadol iawn’ oni bai eu bod yn ofynion gwirioneddol ar gyfer y swydd. Fel arall mi allech wahaniaethu yn erbyn pobl iau neu hŷn nad ydynt o bosibl wedi cael y cyfle i gael cymwysterau.
Gall ble rydych yn hysbysebu arwain at wahaniaethu anuniongyrchol – er enghraifft, hysbysebu mewn cylchgronau ar gyfer dynion yn unig.
Am ragor o wybodaeth ar wahaniaethu mewn hysbysebion am swyddi gweler: Llywodraeth y DU: Atal Gwahaniaethu (Saesneg yn unig)
Sianeli cyfathrebu
Mae llawer o sianeli cyfathrebu ar gael a dylech feddwl am eich cyllideb, a beth sydd fwyaf priodol ar gyfer y rôl a’r gynulleidfa darged.
Gall mudiadau llai elwa drwy bostio swyddi gwag ar rwydweithiau cymunedol lleol, gwefannau Cynghorau Gwirfoddol Sirol, a byrddau bwletin am ddim.
Sicrhewch fod grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli a gwahanol ranbarthau daearyddol yn cael eu hystyried, yn enwedig os ydych chi’n gweithredu ledled Cymru neu’n recriwtio at gyfer rolau o bell.
Hysbysebu ar-lein

Bydd y mwyafrif o swyddi’n cael eu hysbysebu ar-lein nawr. Mae nifer o wefannau recriwtio ar-lein, ac e-fwletinau, gan gynnwys rhai sy’n arbenigo yn y sector gwirfoddol fel Recruit 3 a Charity Job.
Cofiwch hefyd hysbysebu eich swyddi gwag drwy eich sianeli cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys LinkedIn, Facebook, a Twitter; gall eich dilynwyr rannu eich hysbyseb sy’n golygu y bydd yn cael ei ddosbarthu’n eang, am ddim.
Canolfan byd gwaith
Gallwch hysbysebu swyddi gwag drwy eu gwasanaeth paru swyddi (Universal Jobmatch). Maen nhw hefyd yn gweinyddu rhai o raglenni hyfforddi’r Llywodraeth.
Gall y Tîm Gwasanaethau Anabledd mewn Canolfannau Gwaith helpu i roi sylw i’r gofynion penodol o ddenu pobl anabl.
Asiantaethau recriwtio masnachol
Maen nhw’n aml yn arbenigo mewn mathau penodol o waith, e.e. ysgrifenyddol, gwaith swyddfa, diwydiannol, cyfrifiadurol, ac efallai fod ymgeiswyr posibl eisoes wedi cofrestru â hwy.
Mudiadau chwilio swyddi gweithredol
Mae’r rhain fel rheol yn gweithio yn y meysydd uwch reolwyr/arbenigol, a byddant yn chwilio am ymgeiswyr addas sy’n gweithio gyda chwmnïau eraill drwy gysylltu’n uniongyrchol neu drwy hysbysebion arbenigol
Papurau newydd cenedlaethol a rhanbarthol
Mae hysbysebu yn y wasg yn gostus, ond mae’n debygol o ennyn ymateb da ar gyfer swyddi gwag penodol, arbenigol. Mae’r rhan fwyaf o bapurau newydd yn cael eu cyhoeddi ar-lein hefyd sy’n golygu y bydd eich hysbyseb yn cyrraedd cynulleidfa ehangach na’r rhanbarth daearyddol ble mae’r papur newydd yn cael ei werthu.
Cyfnodolion arbenigol a phroffesiynol
Mae’r rhain yn llai costus na’r wasg genedlaethol, ac mi all y cyfnodolion hyn warantu y byddant yn cyrraedd yr union grŵp o ddarpar ymgeiswyr ar gyfer swyddi gwag arbenigol a phroffesiynol.
Papurau newydd a sianeli radio lleol
Yn achos swyddi llai arbenigol, neu i dargedu grwpiau mewn ardal leol benodol, mi all hysbysebion yn y cyfryngau lleol ennyn ymateb da.
Ysgolion, colegau a’r gwasanaeth gyrfaoedd lleol
Bydd cadw mewn cysylltiad ag ysgolion, colegau a chynghorwyr gyrfaoedd yn sicrhau bod anghenion y mudiad am rai sy’n gadael ysgolion/colegau sydd â sgiliau a galluoedd penodol yn hysbys.
Os hoffech recriwtio o blith y grŵp hwn, mi all fod yn ddefnyddiol dros ben i gynnig cyfle i fyfyrwyr dreulio rhywfaint o amser gyda’r cwmni, ar brofiad gwaith, neu’n ‘cysgodi’.
Mi allech hefyd ystyried cynnig interniaethau cyflogedig i alluogi pobl ifanc i gael profiad o weithio yn eich mudiad.
Gwybodaeth bellach
Recruit3
ACAS
Ffôn: 08457 474747
Asiantaeth Ffiniau’r DU y Swyddfa Gartref
Ffôn: 0300 123 4699
Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE)
Ffôn: 0300 003 1747
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Ffôn: 0303 123 1113
Ymwadiad

Rhwydwaith o fudiadau cymorth i’r trydydd sector cyfan yng Nghymru yw Cefnogi Trydydd Sector Cymru.
Ceir ynddo’r 19 corff cymorth lleol a rhanbarthol ledled Cymru, y Cynghorau Gwirfoddol Sirol, a’r corff cymorth cenedlaethol, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC).
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â
https://thirdsectorsupport.wales/cy/cysylltu/
Mae’r wybodaeth a ddarperir yn y daflen hon ar gyfer cyfarwyddyd yn unig. Nid yw’n amnewid am gyngor proffesiynol ac ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled o ganlyniad i unrhyw un sy’n gweithredu neu’n gwrthod gweithredu arno.