Nid oes gan wirfoddolwyr statws cyfreithiol yng Nghyfraith y DU; yn wahanol i staff cyflogedig, nid oes ganddyn nhw hawliau cyflogaeth.
Yn wir, ychydig iawn o hawliau cyfreithiol sydd gan wirfoddolwyr, ac ni allant wneud achos cyfreithiol ar sail cael eu diswyddo’n anheg, hil, anabledd, gwahaniaethu ar sail rhyw, cyflog anghyfartal, isafswm cyflog ac ati (fodd bynnag, mae cynigion cyfredol ar waith i sicrhau bod y gyfraith ar aflonyddu rhywiol yn cael ei hymestyn i ddiogelu gwirfoddolwyr).