Gall y Safonau fod yn ddefnyddiol;
- Fel man cychwyn ar gyfer cynllunio sesiynau cynefino a hyfforddiant i wirfoddolwyr
- I wella cysondeb a safon sesiynau cynefino gwirfoddolwyr
- I sicrhau bod gwirfoddolwyr yn ddiogel yn yr amgylchedd y byddant yn gwirfoddoli ynddo
- I alluogi dysgu blaenorol gwirfoddolwyr i gael ei gydnabod
- I gefnogi’r gwaith o ddatblygu prosesau hyfforddi cyffredin rhwng mudiadau
- Fel sail i hyfforddiant diweddaru ar gyfer gwirfoddolwyr profiadol
- Er mwyn i wirfoddolwyr olrhain a datblygu eu gallu eu hunain. Byddant yn darparu rhywfaint o’r wybodaeth sylfaenol ar gyfer y gwirfoddolwyr sy’n dewis symud i yrfa ym maes iechyd neu ofal