Mae gwirfoddolwyr yn gwneud cyfraniad sylweddol, mewn oriau heb dâl, i economi Cymru.
Yr amcangyfrif yw bod tua 938,000 o wirfoddolwyr yn cyfrannu 145 miliwn o oriau pob blwyddyn, sydd werth £1.7 biliwn.
Mae hyn gyfwerth ag oddeutu 3.1% o Gynnyrch Domestig Gros Cymru (Adroddiad Cynllun y Trydydd Sector 2017-18 Llywodraeth Cymru).