Os ydych yn gweithio neu’n gwirfoddoli i fudiad neu fusnes sy’n prosesu data personol, yna mae’n debygol y bydd angen i chi gydymffurfio â’r GDPR.
Nid oes gwahaniaeth a ydych wedi’ch lleoli o fewn un o aelod- wladwriaethau’r UE ai peidio: os yw’ch mudiad yn prosesu data personol yn ymwneud â thrigolion yr UE, ac ystyrir ei fod naill ai’n ‘rheolydd data’ neu’n ‘brosesydd data’, bydd angen i’ch mudiad gydymffurfio â’r GDPR.