Mae ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a llesiant yr holl wirfoddolwyr yn bwysig o ran cynnig cyfle gwirfoddoli croesawgar, diogel ac ystyrlon lle gall gwirfoddolwyr ffynnu a chynorthwyo eich mudiad i wneud gwahaniaeth. Gall profiadau gwirfoddoli o ansawdd da gefnogi llesiant ac, yn arbennig, wella agweddau ar lesiant, trwy gynnig ymdeimlad o bwrpas a chysylltiad.