Mae llawer i’w ddysgu gan dderbynyddion Cynllun Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru; maen nhw wedi bod yn arwain prosiectau arloesol sy’n edrych ar wirfoddoli yn yr hirdymor a sut gallwn ni ddatgloi ei botensial. Menter a arweinir gan wirfoddolwyr yw prosiect Caru Eryri, a’i nod yw gofalu am Barc Cenedlaethol Eryri drwy weithio ar draws sectorau mewn partneriaeth. Cyllidwyd y prosiect gan CGGC drwy Gynllun Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru ac mae wedi gwneud cynnydd sylweddol mewn meysydd amrywiol fel cynlluniau gollwng ac ailgylchu sbwriel, hyfforddiant staff a rheoli gwirfoddolwyr. Mae’r prosiect wedi cynhyrchu adroddiad sy’n rhannu ei ddysgu. Ceir crynodeb o hwn yma.
Adroddiad Caru Eryri
Mae adroddiad llawn Cymdeithas Eryri mewn dwy ran – mae rhan un yn edrych ar waith i ddatblygu a chryfhau partneriaeth Caru Eryri yn Eryri; prosiect uchelgeisiol yw hwn sy’n gweithredu’n wirfoddol i fynd i’r afael â phwysau mewn lleoliadau allweddol ar draws y Parc Cenedlaethol. Mae rhan dau yn edrych ar waith ar rannu dysgu ar draws tirweddau dynodedig Cymru gyda rhanddeiliaid amrywiol; mae’r rhan hon yn canolbwyntio ar sut mae partneriaid yn gweithio gyda gwirfoddolwyr, ac yn benodol, rhwng mudiadau yn y sectorau gwirfoddol a chyhoeddus.