Codi Arian – Cymynroddion
Trosolwg
- Cyflwyniad
- Diffiniad
- Gweithdrefnau Sefydliadol
- Darparu Gwasanaethau Cymynrodd
- Cyngor i Ewyllyswyr
- Rhagor o wybodaeth
Cyflwyniad
Mae codi arian drwy gymynroddion yn cynnig ffrwd incwm sylweddol bosibl a ffordd effeithiol iawn i roddwyr gefnogi eich achos.
Fodd bynnag, mae’n weithgaredd hirdymor sy’n anodd ei fonitro; er y bydd rhai rhoddwyr sy’n hysbys i chi yn dweud wrthych am eu bwriad i adael rhodd, ni fydd rhoddwyr eraill yn gwneud hyn, a bydd rhai pobl nad ydynt yn hysbys i’ch mudiad yn gadael rhodd.
Er bod yr elw ar fuddsoddiad mewn codi arian cymynrodd yn gallu bod yn uchel iawn, caiff ei oedi oherwydd natur y rhodd.
Felly, dylai codi arian cymynrodd fod yn rhan o’ch cynlluniau cynhyrchu incwm tymor hir, a dylech ystyried sut y gallwch chi gynnal perthynas â phobl (a’u teuluoedd) sydd wedi cyfleu eu bwriad i adael
cymynrodd neu sydd eisoes wedi gwneud trefniadau o’r fath.
Mae’r farchnad codi arian drwy gymynroddion yn tyfu’n gyflym yng Nghymru, gan fod o fudd i elusennau mawr a bach. Yn unigryw i Gymru, mae gan elusennau bach gyfran fwy o’r farchnad gymynroddion na’u cymheiriaid yn y DU, gyda chyfran o 11% o’i chymharu â llai nag 1% yn y gwledydd eraill.
Yn 2017 (y data diweddaraf), roedd gan y 70 mudiad yng Nghymru a oedd yn codi’r swm mwyaf o arian drwy gymynroddion incwm cyfunol o £19.8 miliwn, cyfartaledd o £283,000 yr un. Yn fwy cyffredinol, mae incwm cymynroddion i elusennau yn y DU wedi bod ar gynnydd. Yn y flwyddyn ariannol 2022/23, amcangyfrifwyd bod incwm cymynroddion elusennau wedi cyrraedd £4 biliwn, gan nodi twf blynyddol o 6.5%. Felly mae’n ffynhonnell incwm sylweddol i’r sector.
Marchnad Codi Arian drwy Gymynroddion Cymru 2019, Remember a Charity
Diffiniad
At ddibenion y daflen wybodaeth hon, diffinnir cymynrodd fel defnyddio unrhyw dechneg codi arian, boed gan elusen neu unrhyw asiantaeth allanol ar ei rhan, er mwyn sicrhau rhodd o arian neu eiddo gan unigolyn yn ei ewyllys. Cyfeirir yn aml at gymynroddion hefyd fel ‘Rhoddion mewn Ewyllysiau’.
Mae pedwar prif fath o gymynrodd:
- Penodol – eitemau personol neu i’r cartref.
- Ariannol – rhoddion arian parod.
- Gweddilliol – cyfran o falans yr arian sy’n weddill ar ôl didyniadau ar gyfer treth, dyledion, costau ac arian blaenorol cymynroddion penodol.
- Budd atchweliadol neu fywyd – yn berthnasol pan fydd eiddo wedi’i adael i unigolyn am oes ac yn dychwelyd i elusen ar ôl marwolaeth yr unigolyn dan sylw.
Mae llawer o fudiadau elusennol yn gofyn i’w cefnogwyr ystyried gadael
cymynrodd. Gall hyn fod ar sawl ffurf.
- Gohebiaeth drwy’r post neu hysbysebion penodol yng nghylchlythyrau neu gylchgrawn yr elusen ei hun
- Cynnal gweithdai a digwyddiadau sydd wedi’u targedu’n benodol at godi ymwybyddiaeth o gymynroddion
- Cynnig gwasanaethau ysgrifennu ewyllys yn ddi-dâl i ddarpar roddwyr
- Ymgyrch farchnata ehangach sy’n tynnu sylw at sut y gall gadael rhodd i’ch elusen wneud gwahaniaeth i’ch buddiolwyr
- Cynnwys paragraff am roi cymynrodd ar yr holl ddeunyddiau codi arian (lle bo hynny’n briodol). Gallai fod mor syml â ‘Wyddoch chi y gallwch chi hefyd adael rhodd yn eich ewyllys?‘ gan gyfeirio at ble y gall eich rhanddeiliad gael rhagor o wybodaeth.
- Troedynnau negeseuon e-bost i atgoffa pobl o’r ffordd hon o roi.
Mae ymchwil yn dangos, er bod 35% o bobl yn nodi y byddent yn hapus i adael rhodd i elusen yn eu hewyllys, dim ond tua 6.3% sy’n mynd ati i wneud hynny. (Tîm Bi)
Efallai mai’r difaterwch hwn i weithredu a diwygio neu wneud ewyllys i adael cymynrodd yw’r her fwyaf ym maes codi arian drwy gymynroddion; ond mae llawer o rwystrau posibl eraill i fod yn ymwybodol ohonynt:
1. Diffyg Gweithredu
- Rheswm: Mae llawer o bobl yn bwriadu gadael cymynrodd elusennol ond yn methu â chymryd y camau angenrheidiol, megis diweddaru eu hewyllysiau.
- Ateb: Gall elusennau hybu ymwybyddiaeth a darparu adnoddau neu bartneriaethau gyda gwasanaethau ysgrifennu ewyllys i hwyluso’r broses.
2. Blaenoriaethau sy’n Cystadlu
- Rheswm: Mae teulu a dibynyddion yn aml yn cael blaenoriaeth, gan arwain unigolion i flaenoriaethu eu hanwyliaid yn eu hewyllysiau dros roddion elusennol.
- Ateb: Gall pwysleisio’r ffaith bod canran fach o ystâd yn gallu cael effaith ystyrlon o hyd, gan adael y mwyafrif i anwyliaid, helpu i fynd i’r afael â’r pryder hwn.
3. Ansicrwydd neu Ddiffyg Ymwybyddiaeth
- Rheswm: Mae’n bosibl na fydd darpar roddwyr yn ymwybodol o’r opsiwn i adael rhodd gymynroddol na sut i wneud hynny.
- Ateb: Gall elusennau gynnal ymgyrchoedd addysgol ynghylch rhoi cymynroddion a’i fanteision, gan egluro’r broses a sut y caiff arian ei ddefnyddio.
4. Canfyddiad o Effaith Ariannol
- Rheswm: Mae rhai pobl yn ofni y gallai gadael rhodd elusennol leihau’r hyn y gallant ei adael i’w teulu neu effeithio ar sefydlogrwydd ariannol eu hystâd.
- Ateb: Gall egluro y gall rhoddion fod yn effeithlon o ran treth (e.e., lleihau rhwymedigaeth treth etifeddiant) ac nad oes angen iddynt fod yn swm mawr helpu i oresgyn y rhwystr hwn.
5. Camddealltwriaeth am Gymhwysedd
- Rheswm: Efallai y bydd pobl yn tybio mai dim ond unigolion cyfoethog neu’r rhai heb ddibynyddion all adael cymynrodd.
- Ateb: Gall elusennau roi sicrwydd i gefnogwyr bod pob cyfraniad, beth bynnag fo’i faint, yn gwneud gwahaniaeth.
6. Rhwystrau Emosiynol neu Seicolegol
- Rheswm: Gall trafod ewyllysiau a marwolaeth fod yn anghyfforddus, gan achosi oedi wrth wneud penderfyniadau am roi cymynroddion.
- Ateb: Gall negeseuon sensitif a chadarnhaol helpu i normaleiddio’r sgyrsiau hyn, gan fframio rhoi etifeddiaeth fel ffordd o adael effaith barhaol.
7. Newidiadau mewn Amgylchiadau Personol
- Rheswm: Gall newid mewn sefyllfaoedd ariannol neu deuluol (e.e., treuliau annisgwyl, dibynyddion newydd) effeithio ar allu person i gyflawni ei fwriadau.
- Ateb: Gall annog rhoddwyr i adolygu a diweddaru eu hewyllysiau’n rheolaidd helpu i gysoni bwriadau ag amgylchiadau sy’n newid. Gall newid mewn amgylchiadau hefyd fod yn gymhelliant i newid ewyllys, megis priodas/ysgariad, marwolaeth priod, neu enedigaeth plentyn.
Gall codi arian drwy gymynroddion fod yn hynod fuddiol i’r rhai sy’n rhoi (ewyllyswyr) a’r mudiadau hynny sy’n elwa yn y pen draw. Fodd bynnag, rhaid ymdrin â’r peth mewn modd cyfrifol a chyda chydnabyddiaeth lawn o gyfrinachedd yr unigolyn neu’r unigolion dan sylw.
Mae rhoi cymynrodd i fudiad elusennol yn ei gwneud yn ofynnol i’r rhai sy’n rhoi wneud ewyllys (64 y cant o’r boblogaeth) neu newid eu hewyllys bresennol (36 y cant). Mae ewyllys yn ddogfen gyfreithiol bwerus a dylai adlewyrchu dymuniadau’r ewyllysiwr yn briodol. Mae gan y llysoedd y pŵer i wrthdroi cymynroddion lle nad yw hyn yn wir. Rhaid taro cydbwysedd bob amser rhwng yr angen i fudiad wneud y mwyaf o’i incwm a rhyddid yr ewyllysiwr i ddarparu ar gyfer ei fuddiolwyr eraill.
Gweithdrefnau Sefydliadol
Argymhellir bod mudiadau sy’n dymuno elwa ar gymynroddion lunio datganiad ysgrifenedig ynghylch y gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â’r dull hwn o godi arian. Dylai’r gweithdrefnau hyn fod yn agored ac yn dryloyw, a dylent fod ar gael yn rhwydd i unrhyw ddarpar ewyllysiwr neu rywun arall sydd â diddordeb. Dylai gweithdrefn o’r fath gynnwys:
- Cyfeiriad at ganllawiau cyfreithiol a moesegol
- Sut mae’r mudiad yn bwriadu hyrwyddo cymynroddion ac ymgysylltu â rhoddwyr
- Gweithdrefnau ar gyfer cael a chofnodi cymynroddion
- Sut bydd unrhyw anghydfod yn cael ei ddatrys
Os yw mudiad yn gwneud ceisiadau agored am gymynroddion naill ai drwy ei staff codi arian ei hun neu gyfryngwyr trydydd parti eraill, yna dylai sicrhau bod yr holl gynrychiolwyr yn cael hyfforddiant priodol. Mae’r Comisiwn Elusennau yn cynghori’n gryf na ddylai gweithwyr elusennol byth ymwneud yn uniongyrchol â drafftio ewyllys unigolyn. Fodd bynnag, gallech weithio gyda chyfreithiwr i ddarparu geiriad neu gymalau y gellir eu hawgrymu i’ch cefnogwyr ychwanegu at eu hewyllysiau – gan wneud y broses yn llai brawychus iddyn nhw.
Byddwch yn ymwybodol o unrhyw ‘gafeatau’ sydd ynghlwm wrth rodd cymynrodd – a yw hyn yn realistig? A yw’n bodloni nodau’r elusen? – yn enwedig os yw’n gymynrodd gan roddwr anhysbys.
Cymhellion
Gall mudiadau ddefnyddio ystod o gymhellion i hyrwyddo cymynroddion. Fodd bynnag, dylid cymryd gofal pan fydd mudiadau’n ystyried dulliau cydnabod megis rhoi rhoddion i unigolion sy’n addo cymynrodd, cydnabyddiaeth gyhoeddus yn ystod eu hoes neu goffâd ar ôl eu marwolaeth. Dylai unrhyw gymhellion neu gydnabyddiaeth o’r fath fod yn werth enwol a dylai fod modd eu hamddiffyn yn gyhoeddus. Dylai elusennau fod yn ymwybodol o’r potensial i’r cyhoedd a’r cyfryngau edrych yn anffafriol ar weithgareddau o’r fath.

Rhoi mewn modd effeithlon o ran treth
Mae elusennau sydd wedi’u cofrestru yn y DU wedi’u heithrio rhag talu Treth Etifeddiant, Treth Enillion Cyfalaf a Threth Incwm.
Darparu Gwasanaethau Cymynrodd
Gall mudiadau ddarparu nifer o wasanaethau i ddarpar ewyllyswyr gan gynnwys talu’r costau sy’n gysylltiedig â chreu ewyllys. Pan fydd elusen yn penderfynu darparu gwasanaethau o’r fath ar ei chost ei hun, rhaid iddi fesur y manteision i’r elusen mewn perthynas â’r costau a ysgwyddir.
Anogir elusennau i ddatblygu offeryn mesur i’w ddefnyddio wrth farnu’r manteision y gall eu sicrhau. Un ffordd o sicrhau bod eich trefniadau cymynroddion yn parhau i fod yn gosteffeithiol, yn enwedig os ydych yn cynnig gwasanaeth ysgrifennu ewyllysiau, yw datblygu partneriaeth â chwmni cyfreithwyr lleol sy’n barod i ddarparu’r gwasanaeth hwn yn gyfnewid am eich argymhellion/busnes gwarantedig.
Cyngor i Ewyllyswyr
Dylai mudiadau sicrhau bod darpar ewyllyswyr yn cael cyngor cyfreithiol ac ariannol annibynnol cyn ymrwymo arian. Os yw mudiadau am i gymynroddion gael eu gwneud heb gyfyngiad nac amodau o ran sut y dylid gwario’r arian hwnnw, yna dylid cyfleu hyn i’r ewyllysiwr.
Yn yr un modd, dylai mudiadau hefyd fod yn ymwybodol y gallai cymynroddion â chyfyngiadau neu amodau arwain at oblygiadau cyfreithiol neu oblygiadau o ran treth yn y dyfodol, a fydd yn gwrthbwyso manteision y rhodd wreiddiol.

Gwybodaeth bwysig – os na ellir bodloni dymuniadau ewyllysiwr yn llawn, yna gallai fod yn bosibl i’r ewyllysiwr gyllido achos penodol drwy wasanaeth cymynrodd (gweler isod).
Mae ystod eang o opsiynau ar gael i ewyllysiwr, gan gynnwys cymynrodd ariannol (swm penodol) a chymynrodd weddilliol (cyfran).
Os yw ewyllyswyr am i’w cymynrodd gael ei defnyddio ar gyfer elfen benodol o waith elusen, yna dylid egluro’n glir os yw hyn yn afresymol neu’n anodd ei weinyddu, ac felly o werth cyfyngedig, a dylid egluro hyn yn ofalus i’r ewyllysiwr.
Rhagor o wybodaeth
Gellir cael arweiniad pellach ar yr hyn a all fod yn agwedd anodd ar godi arian
gan y mudiadau canlynol:
Dyngarwch teuluol Sefydliad Cymorth Elusennau (CAF) (Saesneg yn unig)
Cymynroddion – Sefydliad Cymorth Elusennau (CAF) (Saesneg yn unig)
Comisiwn Elusennau (Saesneg yn unig)
Cymynroddion – Y Comisiwn Elusennau
Y Sefydliad Codi Arian (Saesneg yn unig)
Cymynroddion – Y Sefydliad Codi Arian (Saesneg yn unig)
Cymdeithas y Cyfreithwyr (Saesneg yn unig)
Remember a Charity – corff aelodaeth ar gyfer elusennau sydd â diddordeb mewn datblygu eu gwaith cymynroddion.