Mae Ymddiriedolaeth St Giles wedi creu Canllaw Arfer Gorau ar Gynhwysiant i gefnogi gwirfoddolwyr gyda Phrofiad Byw fel rhan o brosiect a ariennir gan Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru.
Mae’r canllaw hwn wedi’i gynllunio i ategu gwaith blaenorol drwy ganolbwyntio ar ddarparu ystyriaethau ymarferol wrth reoli a chefnogi gwirfoddolwyr anhraddodiadol sydd â phrofiad byw.