Mae’n bosib nad yw cyfarfodydd goruchwylio yn briodol ar gyfer pob math o gyfranogiad gan wirfoddolwyr. Fodd bynnag, maen nhw’n sicrhau cyfle rheolaidd i gael sgwrs ddwyffordd. Maen nhw’n gyfle i’r gwirfoddolwr neu’r goruchwyliwr godi materion a allai fod yn bersonol a chyfrinachol. Mean nhw’n sicrhau dealltwriaeth gyffredin o’r hyn a ddisgwylir a’r hyn sy’n digwydd. Mae’n ffordd bwysig o werthfawrogi’r cyfraniad gan wirfoddolwyr ac o gryfhau’r strwythurau sy’n sicrhau bod gwirfoddolwyr yn teimlo’n gysylltiedig â’r mudiad.