Canllaw gwerthuso ymgysylltu

Cyflwyniad a diolchiadau

Mae’r canllaw gwerthuso hwn wedi’i gynllunio i’w ddefnyddio yn ei gyfanrwydd neu mewn darnau bach unigol. Gall y darllenydd ddarllen y ddogfen i gael canllaw cam wrth gam i’r broses werthuso, neu gallant ddewis canolbwyntio ar daflenni ffeithiau, trosolwg neu enghreifftiau yn yr atodiadau.

Mae’r canllaw yn rhan o gyfres o adnoddau wedi’u hadnewyddu, gan gynnwys yr Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru a ddatblygwyd ar y cyd rhwng asiantaethau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector, dan arweiniad CGGC. Mae’r 10 Egwyddor Genedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yn ganllaw arfer da i alluogi ymgysylltu effeithiol, moesegol ac ystyrlon â’r cyhoedd a phobl sy’n defnyddio gwasanaethau. Maent yn safonau clir sydd wedi’u cynllunio i’w defnyddio gan weithwyr proffesiynol ac ymarferwyr mewn ystod o leoliadau, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i, swyddogion y llywodraeth, llunwyr polisi, gweinyddwyr cyhoeddus, cyrff sy’n darparu gwasanaethau ac ymarferwyr ymgysylltu.

Mae’r canllaw gwerthuso hwn yn cynnig gwybodaeth syml i alluogi ymarferwyr yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru i werthuso eu gwaith ac mae’n eistedd ochr yn ochr â’r pecyn cymorth Gwerthuso Gwaith Ymgysylltu. Mae’r pecyn cymorth yn darparu canllawiau penodol clir ynghylch sut i werthuso gweithgareddau ymgysylltu ac mae’r canllaw hwn yn canolbwyntio ar bob agwedd ar waith gwerthuso.

Bydd chwiliadau ar-lein am ‘dechnegau gwerthuso’ yn datgelu amrywiaeth dryslyd o fframweithiau, offer a chyfarwyddiadau a all ymddangos yn gymhleth. Hefyd, wrth chwilio am arweiniad ar werthuso, gall fod yn anodd dod o hyd i wybodaeth nad yw’n gysylltiedig â dull, offeryn, theori newid penodol neu wedi’i hanelu at sector penodol.

Dylai gwaith gwerthuso gynnwys cymunedau sydd wedi cymryd rhan mewn prosiectau neu weithgareddau, ond bydd y modd y gwneir hyn yn amrywio yn ôl y gwaith dan sylw, y cyfleoedd ynghlwm â’r gwaith a chyfyngiadau a therfynau’r prosiect sy’n cael ei werthuso.

Diolchiadau

Ariannwyd y canllaw hwn gan CLlLC a’i reoli gan CGGC a gomisiynodd C.A.R.P. Collaborations i’w ddatblygu. Rydym yn ddiolchgar i’r ymarferwyr a ymatebodd i’r ddogfen ddrafft drwy e-bost, i’r Co-Pro Lab Cymru am gynnal sgwrs ar-lein gydag ymarferwyr ynghylch pwrpas a fformat y canllaw ac i’r mudiadau a’r unigolion hynny a oedd yn gallu cynnig enghreifftiau o’u gwaith gwerthuso.

Lawrlwytho adnoddau