I gyflwyno ymgyrch effeithiol dros newid polisi yng Nghymru, mae angen meddwl yn ofalus cyn dechrau. Mae’n bwysig cael ‘gofynion’ eglur a deall beth yn gwmws rydych chi’n ceisio ei newid, yn ogystal â gwybod pwy yw’r unigolion penodol sydd â’r pŵer i weithredu’r newid rydych chi’n gofyn amdano.