Buddsoddi cymunedol

Trosolwg

Beth yw ‘buddsoddi cymunedol’?

Mae buddsoddi cymunedol yn ddull y gall cymunedau ei ddefnyddio i fuddsoddi cyfalaf mewn mentrau busnes sy’n creu budd cymdeithasol a chymunedol. Mae’n fwy na modd o godi arian ar gyfer eich mudiad; mae’n ymwneud â chynnwys a grymuso cymunedau, a hybu cymunedau i fuddsoddi ynddyn nhw eu hunain.

Drwy ddefnyddio pŵer buddsoddi cymunedau cyfan, gellir codi symiau mawr o arian heb orfod troi at y sector preifat neu unigolion cyfoethog, sydd yn aml yn peri i’r cyfoeth neu’r budd ariannol gael ei dynnu o’r cymunedau sydd ei angen fwyaf. Yn aml, bydd cynlluniau buddsoddi cymunedol yn gweithredu mewn sectorau neu feysydd lle mae methiant cyson yn y farchnad, fel tafarndai gwledig lleol, cynlluniau band eang cymunedol neu leoliadau chwaraeon cymunedol.

Oherwydd eu strwythurau cyfreithiol sy’n eiddo i’r gymuned, caiff busnesau cymunedol eu hymwreiddio yng nghyfansoddiad eu cymunedau, gan sicrhau ffyddlondeb cwsmeriaid a sefydlu model busnes sy’n ymateb i anghenion y gymuned ehangach ac yn eu diwallu. Yn aml, bydd gan fusnesau cymunedol sy’n eiddo i gymunedau sydd wedi buddsoddi ynddyn nhw fodelau busnes mwy cynaliadwy gan eu bod yn meithrin cydberthynas ac ymrwymiad gwahanol â’u cwsmeriaid.

Lluniodd Sefydliad Plunkett adroddiad blynyddol ar gyflwr y sector tafarndai cymunedol a amlygodd fod 100% o fwy na 100 o dafarndai cymunedol ledled y DU wedi goroesi yn 2019, gan ddangos model busnes cynaliadwy a gwahanol ffordd o wneud busnes.

Nid yw buddsoddi cymunedol yn syniad newydd, ond gwelwyd diddordeb newydd yn ystod y deng mlynedd diwethaf mewn defnyddio buddsoddi cymunedol i gyllido mentrau cymunedol amrywiol. Un o’r ffyrdd mwyaf cyffredin i fentrau busnes godi cyfalaf drwy fuddsoddi cymunedol yw drwy werthu cyfranddaliadau neu fondiau (gweler isod am ragor o wybodaeth am y rhain).

Mae chwilio am fuddsoddiad gan gymuned neu fuddsoddiad cymunedol yn cyflwyno llawer mwy o fuddion na mynd i’r farchnad fenthyca brif ffrwd, oherwydd mae buddsoddiad cymunedol yn rhoi’r cyfle i’w fuddsoddwyr gael
rheolaeth ddemocrataidd neu lais yn y busnes cymunedol ac mae’n meithrin cydberthynas hirdymor â’i fuddsoddwyr, fel cwsmeriaid, gwirfoddolwyr a buddsoddwyr, ar gyfer mentrau newydd yn y dyfodol.

Pa fathau o fentrau busnes sy’n addas i’w cyllido gan fuddsoddiad cymunedol?

Gellir defnyddio buddsoddiad cymunedol i gyllido unrhyw fenter sy’n gallu creu elw ariannol a chymdeithasol digon deniadol ar y buddsoddiad. Mae’r rhestr o bosibiliadau bron yn ddiddiwedd.

Gall y rhan fwyaf o gynhyrchion a gwasanaethau elwa ar fuddsoddiad cymunedol, cyhyd â bod gennych chi gefnogaeth eich cymuned a pharodrwydd i fuddsoddi yn ei dyfodol hirdymor. Ceir rhai enghreifftiau isod a dolenni i rai eraill ar ddiwedd y daflen.

Ailgylchu gwastraff

Gellid gwella cyfraddau ailgylchu gwastraff yn fawr drwy gynnwys cymunedau ym mherchenogaeth gweithfeydd ailgylchu gwastraff.

Ymddiriedolaethau tir cymunedol

Gellir gwneud tai fforddiadwy yn fwy fforddiadwy os caiff y tir ei brynu a’i berchenogi gan y gymuned.

Amaethyddiaeth â chymorth y gymuned

Mae amaethyddiaeth â chymorth y gymuned yn dangos gwerth sefydlu cysylltiadau uniongyrchol rhwng cynhyrchwyr a defnyddwyr, gan greu model busnes mwy cynaliadwy a chadarn

Trafnidiaeth gymunedol

Gallai buddsoddi cymunedol gael effaith fawr ar glybiau rhannu ceir a mentrau trafnidiaeth gymunedol eraill. Mae rhai grwpiau eisoes yn ymchwilio i’r posibilrwydd o ddefnyddio buddsoddi cymunedol i gyllido’r gwaith o ddatblygu gwasanaethau rheilffordd newydd.

Mentrau carbon isel

Mae llawer o fentrau lleihau carbon yn fwy hyfyw yn economaidd
os bydd niferoedd mawr o bobl yn eu mabwysiadu.

Gallai cynlluniau carbon isel wedi’u graddio i faint cymunedau ddarparu inswleiddio gwell mewn cartrefi, cynlluniau gwres ac ynni cyfunol, a dulliau cynhyrchu trydan domestig ar raddfa fwy.

Cyfleusterau cymunedol

Mae rhai ardaloedd trefol yn ei chael hi’n anodd denu meddygon teulu, deintyddion, meithrinfeydd a mathau eraill o wasanaethau cyhoeddus am fod cost gymharol uchel yr eiddo’n rhwystr iddynt.

Mae cyfleusterau a berchenogir gan gymuned yn fwy tebygol o ddenu gwirfoddolwyr i gynorthwyo gyda’r gwaith o redeg y cyfleusterau, ac mae aelodau’n fwy tebygol o fod yn gwsmeriaid sy’n dychwelyd gan fod ganddyn nhw fudd yn llwyddiant y cyfleuster. Gall hyn alluogi cyfleusterau cymunedol i leihau rhent lle y bo’n berthnasol neu ailfuddsoddi eu helw mewn gwelliannau cyfalaf.

Tafarndai cymunedol

Fel siopau pentref a swyddfeydd post, mae tafarndai mewn perygl o gau mewn llawer o gymunedau.

Gallai buddsoddiad a pherchenogaeth gymunedol alluogi’r mentrau hyn i fod yn hyfyw unwaith eto, drwy ymwreiddio eu cwsmeriaid o fewn eu strwythur cyfreithiol, a rhoi rheolaeth a llais i gwsmeriaid ar sut y caiff gwasanaethau lleol eu rhedeg a’u cynllunio. Like village shops and post offices, pubs are in danger of closure in many communities.

Mae enghreiffitau di-ri yng Nghymru o gymunedau sy’n dod ynghyd i achub tafarn gan ddefnyddio’r model buddsoddi cymunedol, drwy leihau’r atebolrwydd am ddyledion, peidio ag alinio â bragdai a’r cysylltedd â’i gwsmeriaid, sydd yn eu tro yn cynyddu gwerthiannau ac yn lleihau’r colledion yn sgil gwastraffu stoc ac ati.

Cyfleustodau cymunedol

Mae cymunedau eisoes yn berchen ar rwydweithiau ceblau band eang y genhedlaeth nesaf mewn rhai gwledydd Ewropeaidd, a gallai hyn gael ei gyflwyno yn y DU drwy fuddsoddi cymunedol.

Gallai hyn fod yn boblogaidd iawn mewn cymunedau gwledig lle ceir ychydig iawn o wasanaethau band eang.

Ynni cymunedol

Mae potensial buddsoddi cymunedol wedi’i ddangos yn glir yn y sector ynni adnewyddadwy, ac mae’r diolch am hynny yn bennaf i waith arloesol Awel Coop, Egni Coop, Gower Regeneration ac Energy4All.

Gyda’i gilydd, maen nhw wedi codi swm sylweddol o arian drwy fuddsoddi cymunedol ac wedi arloesi’r defnydd
o ddeddfwriaeth budd Cydweithredol a Chymunedol fel dull buddsoddi cymunedol.

Cyllid cymunedol

Mae’r sector cyllid cymunedol yn cynnwys undebau credyd, Sefydliadau Cyllid Datblygu Cymunedol (CDFI), y cynllun Rhyddhad Treth Buddsoddi Cymunedol (CITR), y Cynllun Buddsoddi mewn Mentrau (EIS), cronfeydd ariannol mentrau cymdeithasol a chronfeydd Cyfalaf Menter Datblygu Cymunedol (CDVC).

Nid yw’r sector cyllid cymunedol yn gwneud defnydd helaeth o fuddsoddi cymunedol ar hyn o bryd, ond mae mudiadau cyllid cymunedol yn elfennau allweddol o’r rhwydwaith o sefydliadau a allai, o gael eu cynllunio’n dda a chyda pholisïau ategol, gydweithio i ffurfio marchnad effeithiol ar gyfer buddsoddi cymdeithasol.

Iechyd a gofal cymdeithasol

Byddai buddsoddi cymunedol yn addas iawn i fudiadau iechyd a gofal cymdeithasol gan mai mudiadau dan berchnogaeth ddemocrataidd sydd fel arfer yn ymgymryd â’r rhain, lle mae gan ddefnyddwyr gwasanaethau a’u teuluoedd lais a rheolaeth dros y gwasanaethau sy’n effeithio arnyn nhw’n uniongyrchol.

Gall y strwythur cyfreithiol hwn hybu “gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar gleientiaid”, sydd wedi’u dylunio, eu datblygu a’u cyflenwi gan ddefnyddwyr gwasanaethau fel yr hyrwyddir yn egwyddorion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.

Beth yw ‘cyfranddaliadau’ a ‘bondiau’?

Mae cyfranddaliad yn hawl gyfreithiol i fod yn aelod a bod yn rhannol-berchen ar fudiad, yn gyfnewid am fuddsoddiad. Ceir gwahanol fathau o gyfranddaliadau gyda hawliau gwahanol, sy’n cael eu pennu’n rhannol gan y telerau ac amodau sy’n gysylltiedig â’r cyfranddaliadau (y cytundeb cyfranddaliadau) ac yn rhannol gan ffurf gorfforaethol gyfreithiol y mudiad ei hun.

There are only a few legal structures that can be used to issue shares, but the two that are usually most applicable for the third sector are the Community Interest Company (CIC) limited by shares and the Cooperative Community Benefit Society. Each of these bodies of corporate legislation affect the rights and duties of shareholders in different ways, some of which may be better suited to community share issues.

Mae bond yn fath o fenthyciad. Mae’n gytundeb cyfreithiol rhwng y sawl sy’n cyflwyno’r bond a’r prynwr, sydd fel arfer yn nodi swm y llog i’w dalu ar y benthyciad ar ddyddiadau penodedig a phryd y bydd y benthyciad yn cael ei ad-dalu’n llawn. Bydd mudiadau fel arfer yn dewis bondiau pan na fyddant yn gallu cynnig cyfranddaliadau neu pan fyddant yn amharod i wneud hynny.

Mae pobl yn eistedd o amgylch bwrdd gyda phapurau a graffiau

Beth yw’r dewis gorau, cyfranddaliadau neu fondiau?

Mae yna nifer o ffactorau i’w hystyried wrth benderfynu a ddylid cyflwyno cyfranddaliadau neu fondiau. Mae llawer yn dibynnu ar flaenoriaethau ac egwyddorion mudiad.

Mae’n well gan y rhan fwyaf o fudiadau gyfranddaliadau yn hytrach na bondiau, oherwydd mae cyfalaf cyfranddaliadau yn amyneddgar (hirdymor) ac yn fath mwy hyblyg o gyfalaf. Mae hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i’r mudiad o ran telerau ad-dalu, sy’n lleihau’r risg i’r mudiadau o ran taliadau llog a thynnu arian allan o gyfalaf cyfranddaliadau.

Yn yr achos hwn, gallai cyfranddaliadau cymunedol fod yn fwy addas i fusnesau newydd neu fusnesau lle mae angen cyfalaf hirach, mwy amyneddgar. Er ei bod yn haws codi’r arian i ddechrau wrth gyflwyno bondiau, mae’n rhaid i’r cynllun busnes ddangos y gallu i ad-dalu’r benthyciadau (neu gael benthyciad arall i ad-dalu’r buddsoddwyr cychwynnol) o fewn yr amser penodedig.

Ond, ni all rhai mudiadau gyflwyno cyfalaf cyfranddaliadau (gan gynnwys elusennau a mudiadau sydd wedi’u corffori fel cwmnïau cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfranddaliadau), neu nid ydynt yn barod i wneud hynny, ac felly bondiau yw’r unig ddewis sydd ar gael iddynt.

Gall pob math o fudiad gyflwyno bondiau, cyhyd â bod y rheoliadau sy’n llywodraethu hyrwyddiadau ariannol yn cael eu dilyn. Gallai’r syniad o godi cyfalaf gan eu cefnogwyr apelio i fudiadau eraill, fel cwmnïau cydweithredol gweithwyr, ond nid ydynt yn barod i gyfaddawdu egwyddorion rheolaeth y gweithwyr.

Mae bondiau yn ateb da i’r broblem hon, oherwydd nid oes unrhyw hawliau pleidleisio yn gysylltiedig â bondiau, ond gallent gynnig cyfranddaliadau caeedig sy’n targedu eu haelodaeth gyfredol neu grŵp caeedig o fuddsoddwyr o’r un meddwl.

Mae rhai mudiadau wedi cyflwyno cyfranddaliadau a bondiau, fel Awel Community Energy Coop. Gellir cynnig bondiau i annog cyfranddalwyr presennol i gynyddu eu buddsoddiad, er bod hynny am gyfnod dros dro a byrdymor.

Felly, beth yw’r gyfrinach i sefydlu cynllun buddsoddi cymunedol llwyddiannus?

Mae yna bedair elfen allweddol i bob cynnig buddsoddi cymunedol llwyddiannus:

  1. Yr achos busnes dros fuddsoddi
  1. Y gymuned
  1. Y ddogfen lywodraethu
  1. Y ddogfen gynnig

Ni ellir gwahanu’r un o’r elfennau hyn oddi wrth ei gilydd, a bydd gwendidau mewn unrhyw elfen unigol yn tanseilio cryfder cyffredinol y cynnig.

Byddwn yn edrych yn gyflym ar bob un o’r rhain yn eu tro:

  1. Yr achos busnes dros fuddsoddi

Mae buddsoddi cymunedol ond yn bosibl os gall y fenter weithio yn ôl model busnes. Gall modelau busnes amrywio, yn dibynnu ar y sector a’r cynnig buddsoddi. Mae angen i gytundeb benthyca’r buddsoddiad amlinellu sut mae’r busnes yn bwriadu gwneud arian ac ad-dalu cyfalaf y buddsoddwr mewn modd agored a thryloyw.

Noder, nid yw’n addas i fudiadau elusennol sy’n dibynnu ar grantiau, anrhegion a rhoddion fel eu prif ffynhonnell o incwm.

Mae rhai mudiadau cymunedol yn cymryd rhan mewn gweithgareddau y mae’n rhaid eu cyflawni, yn y bôn, drwy elusen, naill ai o bwrs y wlad neu o ffynonellau preifat. Fodd bynnag, mae yna amrediad cynyddol o wasanaethau cymunedol lle caiff y model busnes ei dderbyn yn llawn neu’n gyffredinol. Mae perchenogaeth a buddsoddi’n mynd law yn llaw i ffurfio cysylltiad cryf, sy’n cael cymunedau i gymryd rhan mewn mentrau sy’n fuddiol iddyn nhw. Gall buddsoddi cymunedol gryfhau’r model busnes, ond mae yna risg hefyd y bydd pobl yn colli eu harian, neu na fydd eu disgwyliadau’n cael eu bodloni.

Gan ystyried hyn, mae’n hollbwysig bod achos busnes cryf yn cael ei ddatblygu, ac un o’r ffyrdd gorau o wneud hynny yw ysgogi’r gymuned i fod yn berchen ar y fenter a’i rheoli. Mae cael aelodaeth ymrwymedig yn galluogi busnes i lywio’i achos busnes o’r cychwyn cyntaf. Mae’n galluogi’r busnes i ddeall tueddiadau gwario cleientiaid ac i lywio’r gwasanaethau, y gweithgareddau a’r cynnyrch y bydd y busnes yn eu datblygu. Mae achos busnes dros fuddsoddi cymunedol yn wahanol i’r hyn a ddefnyddir mewn cais dyledion, gan fod buddsoddwyr yn aml yn buddsoddi am eu bod yn credu mewn achos dyngarol penodol neu am eu bod eisiau achub ased neu wasanaeth o fewn eu cymuned.

Mae disgwyliadau buddsoddwyr yn wahanol i ddisgwyliadau cyfranddalwyr, oherwydd maen nhw’n buddsoddi’n aml gan wybod y bydd eu cyfalaf mewn perygl yn aml ac na fyddant o bosibl yn cael yr holl arian neu unrhyw ran o’r arian roedden nhw wedi’i fuddsoddi yn y fenter yn wreiddiol yn ôl. Hefyd, mae buddsoddwyr cymunedol yn derbyn yn aml y gallent orfod aros cymaint â phum mlynedd rhwng y pwynt y byddan nhw’n buddsoddi mewn menter gymunedol a’r adeg y bydd y fenter yn dod yn sefydlog ac yn dechrau cyflwyno elw iddynt ar eu buddsoddiad.

Mae hyn yn galluogi busnes cymunedol i fod yn hyblyg, yn enwedig yn nyddiau cynnar y busnes, gan ei fod yn rhannu’r risg, yn ogystal â’r buddion gyda’i aelodau. Fodd bynnag, wrth ymgymryd â phrosiect o’r fath, mae’n hollbwysig sicrhau bod gennych chi’r capasiti a’r adnoddau i gynnal cyfarfodydd cyhoeddus, cynnal ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd, anfon dogfennau cynnig yn uniongyrchol drwy’r post a phrosesu ceisiadau am gyfranddaliadau ac ymholiadau cysylltiedig.

Fodd bynnag, wrth ymgymryd â phrosiect o’r fath mae’n hollbwysig sicrhau bod gennych chi’r capasiti a’r adnoddau i gynnal cyfarfodydd cyhoeddus, cynnal ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd, anfon dogfennau cynnig yn uniongyrchol drwy’r post a phrosesu ceisiadau am gyfranddaliadau ac ymholiadau cysylltiedig.

Ceir rhagor o wybodaeth ym mhennod y Model Busnes yn y llawlyfr Cyfranddaliadau Cymunedol:

  1. Y gymuned

Fel y soniwyd ar ddechrau’r ddogfen hon, yng nghyd-destun buddsoddi cymunedol, mae angen i’r term ‘cymuned’ fod yn fwy na label am bobl sy’n byw yn yr un lle. Mae angen i gymuned olygu buddiannau a rennir, gwerthoedd a rennir a hunaniaeth a rennir hefyd.

Yn wir, ym maes byd-eang cysylltiadau electronig, mae mwyfwy o rithgymunedau yn seiliedig ar hunaniaeth yn hytrach na lle. Mae buddsoddi cymunedol yn dibynnu ar nodi ac ymgysylltu â chymuned darged mewn menter sy’n effeithio ar ansawdd bywyd y gymuned honno.

Ar ddechrau unrhyw ymgyrch buddsoddi cymunedol, mae’n bwysig eich bod yn mapio pwy yw eich cymuned ac yn deall beth allech chi ei gynnig i’r gymuned honno. Er enghraifft, gallai cynnig fferm ynni gwynt gymunedol hyrwyddo’r buddion amgylcheddol ehangach i actifyddion ynni cymunedol, gan hyrwyddo buddion cronfa fuddion gymunedol i bobl leol a allai elwa’n uniongyrchol ar gyfleoedd cyllido lleol o gynllun fferm wynt.

Mae’n hollbwysig eich bod chi’n deall eich cymuned(au) ar ddechrau unrhyw ymgyrch buddsoddi cymunedol, oherwydd bydd hyn yn llywio’ch prif negeseuon a’ch ymgyrch farchnata ar gyfer eich cynnig buddsoddi cymunedol.

  1. Y ddogfen lywodraethu

Mae buddsoddi cymunedol yn gweithio’n aml drwy werthu cyfranddaliadau mewn menter i bobl yn y gymuned. Mae’r bobl hyn, fel cyfranddalwyr, yn rheoli’r
fenter a chaiff eu hawliau fel cyfranddalwyr eu hymwreiddio yng nghyfansoddiad y fenter a elwir yn amlach na heb yn ‘ddogfen lywodraethu’.

Yn gyffredinol, mae dogfen lywodraethu’n gwneud dau beth: mae’n mynegi diben y mudiad, ei nodau a’i amcanion; ac mae’n disgrifio sut bydd y mudiad yn gweithredu. Os bydd mudiad yn bwriadu gwerthu cyfranddaliadau i aelodau, rhaid iddo fabwysiadu fformat cyfreithiol priodol ar gyfer ei ddogfen lywodraethu, naill ai fel cwmni neu fel cymdeithas gydweithredol neu gymdeithas budd cymunedol.

Os nad ydych chi’n syrthio i’r un o’r strwythurau hyn, gallai’r opsiynau gynnwys addasu eich strwythur neu sefydlu cwmni neu gymdeithas gyswllt.

Argymhellir eich bod yn cael cyngor gan gynghorydd busnes er mwyn edrych ar yr opsiynau, oherwydd mae gan y strwythurau amrywiol anfanteision penodol. Gallai eich Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol neu Cwmpas eich cynorthwyo gyda hyn.

  1. Y ddogfen gynnig

Mae’n rhaid i’r broses o wahodd pobl i fuddsoddi mewn menter ac wynebu’r risg o golli eu harian gael ei gwneud mewn modd cyfrifol ac, yn dibynnu ar y strwythur cyfreithiol, bydd hyn yn cael ei reoleiddio gan gyrff gwahanol. Y ddogfen gynnig yw’r term a ddefnyddir i gyfeirio at y gwahoddiad hwn i fuddsoddi, boed honno ar ffurf dogfen wedi ei hargraffu, gwefan, fideo neu hyd yn oed gyflwyniad mewn cyfarfod cyhoeddus.

Yn y rhan helaeth o amgylchiadau (ond nid ym mhob un), mae gwahodd aelodau o’r cyhoedd i fuddsoddi yn weithgaredd wedi’i reoleiddio, sydd wedi’i gynnwys yn Neddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (FSMA). Mae’n werth nodi os bydd angen i’ch dogfen gynnig gael ei rheoleiddio gan FSMA, gallai olygu cost gysylltiedig a allai fod yn swm sylweddol, oherwydd byddai angen i’r prosbectws gael ei lofnodi gan unigolyn/mudiad sy’n cael ei reoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA). Ond mae rhai mathau o hyrwyddiadau ariannol wedi’u heithrio o’r rheoliad (megis cymdeithasau budd cymunedol), neu’n syrthio y tu allan i gwmpas y Ddeddf, ond hyd yn oed heb reoleiddio statudol, gallai fod atebolrwydd cyfreithiol i fuddsoddwyr o hyd.

Gallai hyn fod yn wir os oedd y buddsoddwr wedi colli arian ar ôl dibynnu ar y ddogfen, gwybodaeth, neu gyngor wrth benderfynu ymrwymo i’r contract buddsoddi ac os oedd y golled oherwydd ffeithiau anghywir neu gamarweiniol, neu ddatganiad esgeulus. Mae’n hollbwysig felly bod yr holl wybodaeth sy’n cael ei darparu mewn dogfennau, fideos neu ar wefannau, mewn cyfarfodydd cyhoeddus, ac mewn unrhyw ddulliau cyfathrebu eraill â darpar fuddsoddwyr yn gywir ac nad yw’n gamarweiniol mewn unrhyw ffordd.

Un mater allweddol sy’n gysylltiedig â’r ddogfen gynnig yw a yw’r cyfalaf cyfranddaliadau’n cael ei ystyried yn gyfalaf y gellir ei ‘dynnu allan’ neu ei ‘drosglwyddo’, oherwydd mae’n rhaid i’r ddogfen gynnig nodi’n glir pa fath o gyfalaf cyfranddaliadau sy’n cael ei gynnig.

  • Mae cyfalaf cyfranddaliadau y gellir ei dynnu allan yn fath o gyfalaf cyfranddaliadau sy’n unigryw i Gymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol (gweler isod), lle caiff aelodau dynnu eu cyfalaf cyfranddaliadau allan, yn unol â’r telerau ac amodau a nodwyd yn rheolau’r gymdeithas. Fel arfer, bydd hyn yn cynnwys y cyfnod rhybudd lleiaf ar gyfer tynnu allan, a darpariaeth i’r cyfarwyddwr atal y cyfalaf cyfranddaliadau rhag cael ei dynnu allan pe bai hyn yn peryglu cyllid y gymdeithas yn eu tyb nhw.
  • Ni ellir tynnu cyfranddaliadau trosglwyddadwy allan o gymdeithas; yn hytrach, mae’n rhaid i’r aelod ddod o hyd i brynwr parod, am bris sy’n dderbyniol i’r ddwy ochr.

Ychydig iawn o gymdeithasau sy’n cynnig cyfranddaliadau trosglwyddadwy, yn bennaf oherwydd y problemau y bydd aelodau’n eu hwynebu pan fydd arnynt eisiau neu angen troi eu buddsoddiad yn elw neu o ran cadw buddsoddwyr o feddwl tebyg sy’n buddsoddi er mwyn cefnogi menter gymunedol yn hytrach nag er mwyn gwneud elw ariannol.

Mae ganddyn nhw farc safon cyfranddaliadau cymunedol hefyd, sef asesiad marc safon i sicrhau bod cynigion cyfranddaliadau cymunedol yn cael eu hyrwyddo yn unol ag arferion gorau a’r argymhellion rheoleiddio. Anogir unrhyw un sy’n datblygu cynnig cyfranddaliadau cymunedol i gysylltu â Cwmpas sydd ag ymarferwyr cyfranddaliadau cymunedol trwyddedig sy’n gallu cynorthwyo â’r broses hon ac asesu dogfennau buddsoddi cymunedol yn ogystal â dyfarnu’r marc safon.

Mae’r uned cyfranddaliadau cymunedol wedi creu Llawlyfr Cyfranddaliadau Cymunedol sy’n amlinellu sut y dylid paratoi a hyrwyddo cynigion cyfranddaliadau cymunedol i’r gymuned ehangach yn unol ag arferion gorau.

Gall y marc safon roi hyder i fuddsoddwyr fod diwydrwydd dyladwy ychwanegol wedi’i roi wrth lunio’ch cynnig, a gall rhai buddsoddwyr sefydliadol ofyn am hwn hefyd fel rhan o’u cynnig buddsoddi os ydych chi’n denu buddsoddiad sefydliadol.

Merch yn tynnu ar fwrdd gwyn mewn cyfarfod

A oes angen strwythur cyfreithiol penodol ar fudiad i sefydlu cynllun buddsoddi cymunedol?

Cynghorir yn gryf bod unrhyw fudiad sy’n bwriadu codi cyfalaf buddsoddi o’r gymuned yn dod yn endid corfforaethol drwy fabwysiadu ffurf gyfreithiol sy’n rhoi’r gallu a’r hyblygrwydd iddo gyflawni ei uchelgeisiau.

Gellir defnyddio tri phrif fath o ffurf gyfreithiol at ddibenion buddsoddi cymunedol:

  1. Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol (Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus oedd y cymdeithasau a gofrestrodd cyn 1 Awst 2014)
  1. Cwmnïau Budd Cymunedol
  1. Elusennau

Mae rhai mudiadau wedi defnyddio ffurfiau cyfreithiol eraill, megis cwmni cyfyngedig cyhoeddus neu gwmni cyfyngedig drwy warant, ond nid yw’r ffurfiau hyn yn cynnig unrhyw ddarpariaethau arbennig i ddiogelu buddiannau’r gymuned. Byddwn yn edrych ar bob un o’r tri phrif fath o ffurf gyfreithiol isod:

Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol

Ar ôl i Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 (y “Ddeddf”) ddod i rym ar 1 Awst 2014, nid yw’r endid cyfreithiol a elwir yn Gymdeithas Diwydiannol a Darbodus yn bodoli mwyach. Mae’r Ddeddf yn cydgyfnerthu deddfwriaeth diwydiannol a darbodus flaenorol, gan ddisodli ffurf gyfreithiol ‘cymdeithas diwydiannol a darbodus’ â dwy ffurf gyfreithiol newydd:

  1. Cymdeithas Gydweithredol
  1. Cymdeithas Budd Cymunedol

Mae Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol ar gyfer mudiadau sy’n gweithredu er budd eu haelodau neu’r gymuned ehangach. Maen nhw wedi eu cofrestru o dan y Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 yn hytrach na’r ddeddf cwmnïau.

Nodweddion Allweddol:

  1. Perchnogaeth Ddemocrataidd: Fel arfer, mae gan aelodau lais cyfartal wrth wneud penderfyniadau, yn aml gan ddilyn egwyddor un aelod, un bleidlais.
  1. Purpose-Driven: 
    • Mae Cymdeithasau Cydweithredol yn bodoli’n bennaf er budd eu haelodau drwy wasanaethau a rennir neu fasnach.
    • Mae Cymdeithasau Budd Cymunedol yn gweithredu er budd y gymuned ehangach yn hytrach nag aelodau penodol.
  1. Clo Asedau (ar gyfer Cymdeithasau Budd Cymunedol): Mae cymdeithasau budd cymunedol yn cynnwys clo asedau yn aml, sy’n golygu bod yn rhaid defnyddio’r asedau at ddibenion cymunedol ac ni cheir eu dosbarthu i aelodau.
  1. Profit Distribution: 
    • Gall cymdeithasau cydweithredol ddosbarthu elw i aelodau ar ffurf difidendau.

    • Cyllid a Buddsoddiad: Gallant godi cyfalaf drwy gyfranddaliadau cymunedol, gan ganiatáu i aelodau a chefnogwyr fuddsoddi a chynnal rheolaeth ddemocrataidd ar yr un pryd.
  1. Gwahaniaethau Allweddol o’u Cymharu â Chwmnïau ac Elusennau:
    Yn wahanol i elusennau, gall Cymdeithasau Cydweithredol ddosbarthu elw i aelodau.
    Yn wahanol i gwmnïau, fe’u llywodraethir gan fuddiannau’r aelodau yn hytrach nag enillion ariannol cyfranddalwyr.

Gwahaniaethau Allweddol o’u Cymharu â Chwmnïau ac Elusennau:

Gwahaniaethau Allweddol o’u Cymharu â Chwmnïau ac Elusennau:

Yn wahanol i gwmnïau, fe’u llywodraethir gan fuddiannau’r aelodau yn hytrach nag enillion ariannol cyfranddalwyr.

Mae’r dewis rhwng cofrestru fel cymdeithas gydweithredol neu fel cymdeithas budd cymunedol yn gymharol syml. Mae strwythurau cydweithredol yn fwyaf priodol i fudiadau y mae gan eu haelodau berthynas drafodaethol â’r mudiad, fel cwsmeriaid, cyflenwyr neu gyflogeion.

Mae strwythurau budd cymunedol yn fwy priodol i fudiadau sy’n ceisio cyflawni diben cymunedol ehangach ac nad oes ganddynt berthynas drafodaethol â’u haelodau.

Cwmnïau Budd Cymunedol

Gwnaeth deddfwriaeth ar Gwmnïau Budd Cymunedol (CIC), a gyflwynwyd yn 2005, ddarparu fframwaith rheoleiddio newydd ar gyfer llywodraethu’r tri phrif fath o gwmni:

  • Cwmni cyfyngedig drwy gyfranddaliadau
  • Cwmni cyfyngedig drwy warant
  • Cwmni cyfyngedig cyhoeddus.

Fel unrhyw gwmni arall sy’n gyfyngedig drwy warant, ni all cwmni CIC sy’n gyfyngedig drwy warant gyflwyno cyfranddaliadau, ond gall hyrwyddo gwerthiant bondiau a chynnig aelodaeth fel ystyriaeth ar wahân. Mae yna ddarpariaeth ar gyfer creu CIC sy’n gwmni cyfyngedig cyhoeddus.

Mae’r llywodraeth wedi rhoi llawer o’i hamser i alluogi cwmnïau CIC i fabwysiadu strwythur cwmni cyfyngedig drwy gyfranddaliadau, sy’n caniatáu buddsoddiad ecwiti gan unigolion, a diogelu buddiannau cymunedau ar yr un pryd. Cyflawnwyd hyn drwy’r darpariaethau penodol canlynol:

  1. Clo asedau sy’n rhwystro unrhyw asedau dros ben mewn CIC rhag cael eu dosbarthu i aelodau os bydd ClC yn cael ei werthu, ei ddiddymu neu ei uno
  1. Trothwy difidend dwbl sy’n atal CIC rhag dosbarthu mwy na 35% o’i elw i gyfranddalwyr mewn unrhyw flwyddyn unigol, ac sy’n cyfyngu’r cyfraddau difidend i gyfradd sylfaenol a 5%. Gellir trosglwyddo lwfansau difidend heb eu defnyddio i flynyddoedd i ddod, ond ni ellir dosbarthu mwy na’r trothwy o 35% mewn unrhyw flwyddyn unigol.

Mae yna amrediad o ofynion rheoleiddio eraill y mae’n rhaid i gwmnïau CIC eu bodloni, sy’n cynnwys pasio prawf budd cymunedol a llunio adroddiad budd cymunedol blynyddol. Gall CIC cyfyngedig drwy gyfranddaliadau fod â goblygiadau ariannu sylweddol. Y rheswm am hyn yw na fydd llawer o gyllidwyr, gan gynnwys y Loteri Genedlaethol, yn cyllido mudiadau sy’n talu difidendau i’w haelodau.

Elusennau

Fel ffurf gyfreithiol, nid yw elusennau’n cynnig llawer o gyfleoedd buddsoddi cymunedol. Gall elusennau gyflwyno bondiau, ac maen nhw’n gwneud hyn, ond ni allant gyflwyno cyfalaf cyfranddaliadau.

Mae elusennau sy’n cyflwyno bondiau a mathau eraill o ddyled wedi’u heithrio o’r rheoliad o dan y Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol.

Cyn dechrau codi cyfalaf drwy fondiau cymunedol, dylai elusennau ystyried yr effaith y gallai’r math hwn o hyrwyddiad ariannol ei chael ar eu gweithgareddau codi arian gwirfoddol.

Gallai annog rhoddwyr i ddod yn fuddsoddwyr gael effaith hirdymor ar eu cydberthynas â’r elusen. Y broblem gyda bondiau, a phob math arall o ddyled, yw bod yn rhaid ad-dalu’r cyfalaf yn y pen draw.

Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i’r elusen weithredu fel busnes a chreu digon o elw i ad-dalu’r cyfalaf. Yr unig ddewis arall yw i’r elusen ddod o hyd i roddwyr sy’n fodlon ad-dalu ei dyledion i ddeiliaid bondiau. O’r safbwynt hwn, ni all cyllid o fondiau byth fod yn ddatrysiad hirdymor i anghenion cyllido elusennau.

Sut ydych chi’n dewis pa ffurf gyfreithiol sydd orau?

Bydd penderfynu ar y ffurf gyfreithiol fwyaf priodol ar gyfer mudiad yn dibynnu i raddau helaeth ar ei ddiben a’i amcanion sylfaenol. I fudiadau sydd eisiau cyflawni amcanion elusennol, ac nad ydynt yn or-ddibynnol ar fasnach, yna’r ffurf elusennol sy’n debygol o fod yr un fwyaf priodol, er y bydd ond yn gallu sicrhau buddsoddiad cymunedol ar ffurf bondiau.

I fudiadau sy’n cael y rhan fwyaf o’u hincwm, os nad eu holl incwm, drwy fasnach, ac sydd hefyd ag amcanion cymunedol neu gymdeithasol clir, Cymdeithas neu CIC fydd y ffurf fwyaf priodol. Gellir defnyddio’r ddwy ffurf hyn i gyflwyno cyfranddaliadau neu fondiau, ac mae’r ddwy ffurf yn cefnogi model busnes i wneud elw.

Bydden ni bob amser yn argymell eich bod yn cael cyngor gan gynghorydd busnes cyn sefydlu eich strwythur cyfreithiol a’ch bod yn gwneud hynny unwaith y bydd eich model busnes wedi’i ddatblygu, oherwydd mae gan bob un o’r strwythurau gyfyngiadau posibl a allai effeithio ar y strwythur y byddwch chi’n ei fabwysiadu, e.e. os ydych chi eisiau cyflogi cyfarwyddwyr cwmni, eich model masnachu a sut rydych chi eisiau dosbarthu’r buddion.

Gall CIC cyfyngedig drwy gyfranddaliadau fod â goblygiadau ariannu sylweddol. Y rheswm am hyn yw na fydd llawer o gyllidwyr, gan gynnwys y Loteri Genedlaethol, yn cyllido mudiadau sy’n talu difidendau i’w haelodau.

Rheoli Risg

Mae’n hanfodol mabwysiadu dull rhagweithiol mewn sawl maes allweddol er mwyn lliniaru’r risgiau sy’n gysylltiedig â buddsoddi cymunedol yn effeithiol.

Ymgysylltu â rhanddeiliaid yn gynnar drwy gynnal ymgyngoriadau cyhoeddus a sicrhau y deellir anghenion a disgwyliadau’r gymuned yn glir. Mae hyn yn helpu i atal camddealltwriaeth ac yn meithrin ymrwymiad hirdymor.

Datblygu achos busnes cryf a thryloyw sy’n amlinellu rhagamcanion ariannol realistig, yn nodi risgiau posibl, ac yn darparu llwybr clir ar gyfer ad-dalu neu elw ar fuddsoddiad. Mae’r tryloywder hwn yn datblygu ymddiriedaeth gyda buddsoddwyr.

Sicrhau bod strwythur cyfreithiol y mudiad yn gadarn, gyda mesurau diogelu fel clo asedau i ddiogelu asedau cymunedol a thelerau wedi’u diffinio’n glir ar gyfer cyfalaf cyfranddaliadau (p’un a ellir ei dynnu allan neu ei drosglwyddo).

Gweithredu arferion llywodraethu cryf drwy gael tîm rheoli sydd wedi ei strwythuro’n dda a phroses glir ar gyfer gwneud penderfyniadau, gan sicrhau bod gan y gymuned lais gwirioneddol yn y fenter.

Sefydlu cynllun rheoli risg sy’n cynnwys trefniadau wrth gefn ar gyfer heriau annisgwyl, fel newidiadau yng nghyflyrau’r farchnad neu rwystrau gweithredol, ac adolygu’r model busnes yn rheolaidd er mwyn addasu i unrhyw newidiadau yn yr amgylchedd allanol.

Casgliad

Mae buddsoddi cymunedol yn gweithio orau pan fydd yn gweithio gyda chymuned benodol, ar brosiect gydag amcanion y gellir eu cyflawni a phroffil risg isel. Os yw eich syniad yn ymwneud â chanlyniadau cymdeithasol yn unig, efallai y byddai’n well ei redeg fel prosiect elusennol.

Mae buddsoddi cymunedol yn ymwneud ag elw ariannol yn ogystal ag elw cymdeithasol.

Gwybodaeth bellach

Gall y ffynonellau canlynol roi gwybodaeth bellach i chi am beth yw buddsoddi cymunedol a sut y gallai weithio i chi.

Cyfranddaliadau Cymunedol

Cwmpas – Community Shares

Mae Community Shares yn brosiect ymchwil sy’n edrych ar botensial cyfranddaliadau a bondiau cymunedol fel ffordd o ddenu buddsoddiad ychwanegol, ac mae ei wefan yn cynnig adnoddau, taflenni ffeithiau a manylion astudiaethau achos.

Cyfranddaliadau a Bondiau Cymunedol

Cyfranddaliadau a Bondiau Cymunedol

Mae The sharpest tool in the box yn gyhoeddiad gan Gymdeithas yr Ymddiriedolaethau Datblygu (DTA) sy’n edrych ar faterion sy’n ymwneud â chyfranddaliadau a bondiau, sut i’w trefnu, ac ati.

Cyfranddaliadau Cymunedol: Canllaw Ymarferydd i Lywodraethu a Dogfennau Cynnig

Mae Community Shares: Practitioner’s guide to governance and offer documents yn cynnig canllawiau ar gynigion cyfranddaliadau cymunedol ac yn darparu offer fel rhestrau gwirio a allai fod yn ddefnyddiol i chi.

Simply Legal – Co-operatives UK

Mae Simply Legal yn darparu gwybodaeth am ffurfiau cyfreithiol ar gyfer mentrau