Eich brand chi yw’r ddelwedd sy’n cynrychioli eich mudiad ac yn ei wahaniaethu oddi wrth elusennau eraill. Dylai brand gyfleu neges eich elusen yn glir i gefnogwyr a noddwyr posibl. Mewn cymdeithas sydd ag obsesiwn am ddelwedd, mae brandio’n fusnes mawr. Mae brand cydlynol sy’n cael ei gyfleu’n dda yn hanfodol i barhad mudiad.