Benthyciadau
Wedi diweddaru Medi 2025.
Trosolwg
- Beth yw benthyciad?
- A yw cyllid drwy fenthyciadau’n briodol i’ch mudiad chi?
- Manteision ac anfanteision
- Darparwyr cyllid drwy fenthyciadau
Mae gallu’r sector gwirfoddol i gael cyllid drwy fenthyciadau, a hygyrchedd y cyllid hwnnw i’r sector wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Gall benthyciadau fod yn fuddiol i fudiadau’r sector gwirfoddol mewn sawl ffordd, ond nid ydynt yn briodol i bob mudiad. Nod y daflen wybodaeth hon yw cynnig trosolwg byr ar gyllid benthyciadau er mwyn helpu mudiadau i benderfynu a yw’n briodol iddynt.
Beth yw benthyciad?
Trafodiad ariannol yw benthyciad lle mae un parti (y rhoddwr) yn cytuno i roi swm o arian i barti arall (y benthyciwr) gyda’r disgwyliad y bydd yn cael ei ad-dalu’n llawn. Gall rhoddwr ofyn am daliadau llog ar ben swm y benthyciad gwreiddiol.
Fel arfer, caiff telerau ac amodau trafodiad benthyciad eu nodi ar ffurf contract. Bydd y contract fel arfer yn nodi’r telerau ar gyfer ad-dalu, gan gynnwys unrhyw ffioedd trefnu, y swm sy’n ddyledus, y cyfraddau llog y cytunwyd arnynt a’r dyddiadau y mae ad-daliad yn ddyledus.
Yn syml, ffordd arall o gyllido mudiad yw benthyciadau, ac ni ddylid eu hystyried yn rhywbeth i gymryd lle grantiau.
A yw cyllid drwy fenthyciadau’n briodol i’ch mudiad chi?
Yn yr un modd â phob math o ddulliau creu incwm, dylai mudiadau feddwl yn strategol am ymgymryd â gweithgaredd newydd e.e. cael benthyciad.
Cyn ystyried gwneud cais am fenthyciad, dylai mudiadau fod mewn sefyllfa lle mae cynlluniau busnes ac ariannol trwyadl wedi dangos gallu’r mudiad i greu digon o incwm i dalu unrhyw ad-daliadau posibl ar fenthyciad.
Gellir defnyddio’r tri phwynt trafod isod i gynorthwyo mudiad i benderfynu a yw cyllid drwy fenthyciad yn opsiwn:
1. Ar gyfer beth fydd y benthyciad yn cael ei ddefnyddio?
Gall cyllid drwy fenthyciad gael ei ddefnyddio at amryw o ddibenion, gan gynnwys:
- Prynu eiddo, tir, peiriannau neu gyfarpar
- Adnewyddu eiddo sy’n bodoli eisoes
- Rheoli problemau llif arian a chylchoedd incwm o grantiau
- Sefydlu prosiectau neu fentrau newydd
- Buddsoddi yn nhwf y mudiad
2. Pa fudd a gaiff y mudiad o’r benthyciad?
Dylai mudiad sy’n ystyried cyllid drwy fenthyciad fod yn glir ynghylch diben y benthyciad:
- A fydd y benthyciad yn galluogi’r mudiad i gyflawni ei nodau a’i amcanion yn well?
- A fydd y benthyciad yn helpu i wella’r gwasanaethau a ddarperir neu i gyrraedd mwy o fuddiolwyr?
- A fydd y benthyciad yn cyfrannu at gynaliadwyedd y mudiad yn y dyfodol drwy roi cyfleoedd i gynhyrchu mwy o incwm?
3. A yw’r mudiad wedi rhoi strwythurau a systemau priodol ar waith?
Dylai mudiad allu profi bod ganddo’r gallu i gael benthyciad a’i ad-dalu:
- A yw dogfen lywodraethu’r mudiad yn ei alluogi i fenthyg arian ac i gynnig asedau fel sicrwydd o bosibl?
- A oes gan y mudiad systemau ariannol cadarn ar waith i reoli buddsoddiad o’r fath?
- A yw’r mudiad wedi’i gorffori er mwyn diogelu’r ymddiriedolwyr neu’r cyfarwyddwyr rhag unrhyw atebolrwydd personol a allai fod yn gysylltiedig â’r benthyciad?
- Bydd yn rhaid i chi dalu’r benthyciad gydag incwm anghyfyngedig y byddwch yn ei gynhyrchu, fwy na thebyg. Mae dod o hyd i gyllidwr a fydd yn caniatáu grant i ad-dalu benthyciad yn brin iawn
Manteision ac anfanteision
Mae manteision ac anfanteision ynghlwm wrth ddefnyddio benthyciadau fel modd o gyllido mudiad. Dylid ystyried y rhain hefyd cyn cymryd unrhyw gamau:
Manteision
- Gellir eu trefnu’n gyflymach na grantiau – mae’r prosesau ymgeisio a phenderfynu’n llawer cyflymach fel arfer
- Nid ydynt mor gystadleuol â chyllid grant – gellir cymeradwyo ceisiadau am fenthyciad yn ôl eu teilyngdod yn hytrach nag yn ôl pa mor agos y maen nhw’n bodloni meini prawf cyllidwr
- Maen nhw’n fwy hyblyg na chyllid grant – gellir teilwra ceisiadau am fenthyciad i’r hyn sy’n diwallu anghenion y mudiad orau, yn hytrach na meini prawf cyllidwr grant
- Llai o fonitro ac adrodd sy’n ymwneud ag allbynnau na chyllid grant – fodd bynnag, gallai darparu gwybodaeth ariannol amserol fod yn un o amodau’r benthyciad
- Fel arfer, caiff benthyciadau eu talu ymlaen llaw, nid ar ffurf rhandaliadau neu ôl-daliadau fel cyllid grant
Anfanteision
- Mae’n rhaid i chi ei ad-dalu
- Cyfraddau llog amrywiol
- Gall fod angen talu ffioedd trefnu uchel weithiau
- Ysgwyddo’r cyfrifoldeb am gytundeb wedi’i rwymo’n gyfreithiol
- Cynnig ased fel sicrwydd
Darparwyr cyllid drwy fenthyciadau
Ar wahân i fenthycwyr masnachol y stryd fawr, mae nifer mawr o fudiadau’n cynnig benthyciadau sydd wedi’u teilwra ar gyfer mudiadau’r sector gwirfoddol. Mae llawer o ymddiriedolaethau elusennol mawr hefyd wedi dechrau arbrofi gyda chynnig cyllid drwy fenthyciadau yn ddiweddar.
Efallai y byddwch hefyd am ystyried moeseg eich mudiad a’r math o fenthyciwr rydych yn mynd iddo. Er enghraifft, os ydych yn elusen amgylcheddol, a fyddwch yn cael benthyciad gan fanc sy’n buddsoddi mewn ecsbloetio olew a nwy?
Isod rhestrir rhai darparwyr sy’n cynnig cyllid drwy fenthyciad yn benodol ar gyfer y sector gwirfoddol. Gellir cael rhagor o wybodaeth am bob mudiad drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt isod:
Ffôn: 020 7526 3434
Charities Aid Foundation – Venturesome
Ffôn: 0207 832 3026
Ffôn: 01732 774 050
Co-operative & Community Finance
Ffôn: 01179 166 750
Ffôn: 0800 587 4140
Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru – CGGC
Ffôn: 0300 111 0124
Ffôn: 0800 328 2181
Ffôn: 0845 140 1000