Mae twyll yn golygu camddefnyddio asedau rhywun arall yn fwriadol er budd preifat. Gellir cyflawni twyll yn erbyn unigolyn neu fudiad. Gall ddigwydd ar-lein, wyneb yn wyneb, neu drwy waith papur a gall amrywio o ran y swm o ychydig o bunnoedd sydd wedi’u dwyn o flwch arian mân i filoedd o bunnoedd a gafwyd drwy dwyll grantiau.