Academi Iechyd a Gofal Bwrdd Iechyd Addysgu Powys – Cynorthwyo Gwirfoddolwyr a Gofalwyr

Cafodd y prosiect ei gyllido gan Lywodraeth Cymru drwy Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru CGGC, i adeiladu ar waith a gafodd ei wneud yn 2021 yn llunio’r adroddiad Dyfodol Gwirfoddoli ym Mhowys, y Strategaeth Wirfoddoli gysylltiedig, a’r cynnig ar gyfer cwmpas a swyddogaeth yr Ysgol Gwirfoddolwyr a Gofalwyr newydd-sefydledig sy’n eistedd o fewn Academi Iechyd a Gofal Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Bydd yr ysgol yn cynorthwyo gwirfoddolwyr a gofalwyr i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth drwy addysg, hyfforddiant a chymorth datblygu, nid yn unig i unigolion ond hefyd i fudiadau sy’n cynorthwyo neu’n cynnwys gwirfoddolwyr a gofalwyr.

Lawrlwytho adnoddau