Image: appraisal meeting in action

Cynllunio sut i recriwtio ymddiriedolwyr

Recriwtio, dewis ac ymgynefino’r bobl sydd ar eich bwrdd neu bwyllgor rheoli yw un o’r prosesau pwysicaf y gall mudiad gwirfoddol ymgymryd â hi.

Bydd bwrdd cytbwys ac amrywiol yn rhoi cyfeiriad ac yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu’r mudiad.

Cyn i chi recriwtio ymddiriedolwyr newydd, byddai’n syniad da i sicrhau eich bod yn gwybod beth yw eich nodau ar gyfer y broses recriwtio. Dyma rai awgrymiadau:

  • Meddyliwch am sgiliau a phrofiadau eich ymddiriedolwyr presennol a nodwch unrhyw fylchau sydd angen i chi eu llenwi.
  • Gwiriwch y cyfnod swydd ar gyfer eich ymddiriedolwyr. Gwnewch yn siŵr bod eich ymddiriedolwyr yn gwybod am ba hyd y disgwylir iddyn nhw fod yn rhan o’ch bwrdd.
  • Gwiriwch eich dogfen lywodraethu ar gyfer y broses benodi neu ethol ffurfiol.
  • Cytunwch ar sut byddwch chi’n penderfynu:
    • ai’r ymddiriedolwr newydd yw’r unigolyn gorau
    • a yw eich bwrdd yn addas iddo ef neu hi
    • a yw’r broses recriwtio yn gofyn am gyfweliad neu gyfarfod â’r cadeirydd
    • a ddylai’r rheini â diddordeb ac sy’n edrych yn addawol arsylwi ar gyfarfod bwrdd cyn ymrwymo i’r rôl.

Y broses recriwtio

Mae Reach Volunteering wedi datblygu cylchred recriwtio ymddiriedolwyr (Saesneg yn unig) sy’n adnodd defnyddiol i’ch helpu chi yn eich cynllun i recriwtio ymddiriedolwyr.

Wrth greu’r broses ar gyfer penodi ymddiriedolwyr newydd, bydd angen i chi ddilyn y gofynion yn eich dogfen lywodraethu, ond yn unol â hyn, argymhellir eich bod yn dilyn proses recriwtio agored, gan hysbysebu eich rolau a dewis eich ymddiriedolwyr ar sail eu sgiliau a’u profiad.

Gallwch chi hysbysebu eich rolau ymddiriedolwyr gwag am ddim ar wefan Gwirfoddoli Cymru.

Advice about recruiting trustees is available to voluntary organisations through the network of local voluntary councils (CVCs).

Contact

Ffynonellau eraill o gymorth

Mae gan Reach amrywiaeth o ganllawiau i helpu gyda recriwtio ymddiriedolwyr. Become a trustee a Board recruitment