Pam mae rheolaeth ariannol mor bwysig?

Cartref » Help ac arweiniad » Rheoli arian a chyllidebau » Pam mae rheolaeth ariannol mor bwysig?

Pam mae rheolaeth ariannol mor bwysig?

Menywod yn eistedd o amgylch gliniadur

Mae angen i fudiadau gwirfoddol roi ffyrdd o reoli eu cyllid ar waith am nifer o resymau:

  • I gydymffurfio â’ch dyletswyddau cyfreithiol i ddiogelu asedau’r mudiad
  • I gydymffurfio â gofynion adrodd cyfreithiol (i elusennau a grwpiau gwirfoddol sydd â ffurf gyfreithiol a reoleiddir)
  • I wneud yn siŵr bod gennych chi ddigon o arian i dalu eich biliau (ac aros yn ddiddyled)
  • I wneud yn siŵr bod eich incwm a’ch gwariant yn berthnasol i ddiben eich mudiad
  • I ddeall eich cyllid fel y gallwch chi gynllunio ar gyfer y dyfodol a gwneud penderfyniadau
  • I ddiogelu eich mudiad rhag camgymeriadau
  • I ddiogelu eich mudiad rhag twyll
  • I ddiogelu ymddiriedolwyr rhag atebolrwydd personol yr eir iddo
  • I fodloni gofynion pobl eraill – fel eich banc neu gyllidwr
  • I gadw eich enw da ymhlith pobl sy’n rhoi rhoddion i chi ac ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol

Y prif feysydd y bydd angen i chi roi sylw iddynt yw creu system o reolaethau ariannol, cadw cofnodion, cyllidebu a chyfrifon.

Er y gall agweddau o’r rheolaeth ariannol bob dydd, fel cadw cyfrifon, gael eu dirprwyo i wirfoddolwr, gweithiwr sy’n cael ei dalu neu hyd yn oed i gwmni cyfrifyddu, mae’n bwysig cofio mai’r ymddiriedolwyr sy’n parhau i fod â chyfrifoldeb cyffredinol dros gywirdeb ac effeithiolrwydd y systemau a’r cofnodion ariannol. Bydd angen i ymddiriedolwyr gymeradwyo’r cyfrifon ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol (ac ymdrin ag unrhyw ofynion adrodd cyfreithiol). Mae’n hanfodol bod ymddiriedolwyr yn hyderus bod yr wybodaeth o fewn y cyfrifon yn ddibynadwy ac yn gywir.

Gwybodaeth arall

Mae’r Comisiwn Elusennau wedi cynhyrchu canllaw byr a fideo ategol i helpu ymddiriedolwyr i ymgymryd â’u cyfrifoldebau rheolaeth ariannol.

Darganfod mwy