Cyflwyniad i wirfoddoli
Ar y dudalen hon:
Beth yw gwirfoddoli?
Mae gwirfoddoli yn weithgaredd:
- A wneir yn wirfoddol, trwy ddewis
- A wneir er budd y cyhoedd/gymuned
- Nad yw’n cael ei wneud am elw ariannol
Mae lliaws o wahanol fathau o wirfoddoli sy’n ymdrin â phob math o weithgareddau. I lawer o bobl, mae gwirfoddoli yn golygu ymrwymo amser i fudiad penodol yn rheolaidd (rydyn ni’n galw hyn yn ‘wirfoddoli ffurfiol’). Fodd bynnag, gall cyfleoedd eraill fod yn llai strwythurol, fel cynorthwyo mewn digwyddiad untro, neu roi help heb dâl i unigolion ar lefel gymunedol. Bydd y math o wirfoddoli yn dibynnu ar yr angen sy’n cael sylw. Yn yr adran hon, byddwn ni’n canolbwyntio ar sut gall eich grŵp drefnu cyfleoedd gwirfoddoli ffurfiol i gefnogi gwaith eich mudiad.
Beth all gwirfoddolwyr ei wneud?
Gall gwirfoddolwyr ymgymryd ag amrediad eang o dasgau i helpu eich mudiad. Dyma rai enghreifftiau o’r mathau o weithgareddau y gallai gwirfoddolwyr eu gwneud:
- Tasgau gweinyddol/swyddfa
- Arlwyo/caffi
- Anerchiadau / digwyddiadau / bod yn llysgennad
- Codi arian
- Cynnal a chadw/garddio
- Marchnata
- Gwerthiannau/archebion ar-lein
- Derbynfa/gwerthu tocynnau
- Cyfryngau cymdeithasol
- Stiwardio
- Mentora/hyfforddi
Pwy all wirfoddoli?
Gall gwirfoddolwyr fod yn unrhyw oedran a dod o unrhyw gefndir. Gallant fod yn ifanc neu wedi ymddeol, yn astudio neu’n gweithio a chydag ystod o wahanol brofiadau, gwybodaeth a sgiliau y gallant eu cyflwyno i’ch mudiad.
Mae gan bob gwirfoddolwr ei resymau ei hun dros wirfoddoli. Gall y rhesymau hyn gynnwys cefnogi achos sy’n agos at ei galon, cwrdd â phobl eraill, defnyddio’i sgiliau neu brofiad i helpu pobl eraill, neu wneud rhywbeth newydd sbon.
Os yw eich mudiad yn cynnwys gwirfoddolwyr, mae’n arfer gorau i geisio cael gafael ar wirfoddolwyr o bob rhan o’ch cymuned sydd ag amrediad amrywiol o brofiadau a sgiliau. Wrth gynnwys gwirfoddolwyr, caiff mudiadau eu hannog i gynnwys pobl mewn modd rhagweithiol, gan geisio deall sut gall cyfleoedd gwirfoddoli fod mor gynhwysol a hygyrch â phosibl drwy gael gwared â rhwystrau a chynnig cymorth priodol.
Adnoddau eraill
I gael rhagarweiniad ar sut i fynd ati i wneud hyn yn eich mudiad, edrychwch ar ein taflen wybodaeth – Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn Gwirfoddoli.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio gwirfoddolwyr yn ein hadran Sut alla i ddod o hyd i wirfoddolwyr?