Cartref » Help ac arweiniad » Diogelu » Rôl y Bwrdd

Pwy sy’n gyfrifol am ddiogelu?

Fel arfer, byddai’r Bwrdd yn cymeradwyo penodi Unigolyn/Swyddog Diogelu Penodol (DSP) i ysgwyddo’r cyfrifoldeb bob dydd dros ddiogelu gweithredol. Efallai y byddant yn gofyn i’r DSP lunio polisi diogelu, sicrhau bod staff a gwirfoddolwyr yn cael mynediad at yr hyfforddiant diogelu sydd ei angen arnynt, ac i fod yn bwynt cyswllt, yn y mwyafrif o achosion, i bobl fynd ato i leisio’u pryderon. Dylai fod yn gwbl amlwg pwy y disgwylir iddo gyflwyno adroddiad diogelu i’r awdurdod lleol. Gall y Bwrdd ofyn i gael dirprwy i’r DSP, gall ofyn am ddilyswr adnabod ar gyfer ymdrin â gwiriadau’r DBS, gofyn i Brif Swyddogion Gweithredol a rheolwyr gael goruchwyliaeth briodol o rolau, ond y Bwrdd fydd yn cadw’r cyfrifoldeb dros sicrhau bod yr hyn a gytunwyd arno, mewn polisi ac yn ymarferol, yn cael ei gyflawni. Nhw hefyd yw’r penderfynwyr terfynol mewn amgylchiadau cymhleth, fel arfer yn dilyn gwybodaeth ac arweiniad gan eu staff dynodedig.

Efallai y bydd y Bwrdd yn dymuno penodi rhywun i rôl aelod bwrdd diogelu arweiniol (LSBM). Nid yw hyn yn lleihau cyfrifoldebau diogelu gweddill y Bwrdd; yn hytrach, mae’n caniatáu i un aelod hyrwyddo diogelu o fewn y mudiad gyda’r Bwrdd. Gall yr LSBM sicrhau bod diogelu yn cael digon o flaenoriaeth ac amser ar agendâu Bwrdd, sicrhau ei fod yn cael ei adnoddu’n briodol, bod materion cymhleth yn dod gerbron y Bwrdd, a sicrhau bod trosolwg strategol o weithgareddau diogelu yn y mudiad. Gall hefyd gynorthwyo’r DSP neu fod yn rhywun i’r DSP daflu syniadau ato, a gyda’i gilydd, efallai y byddant yn rhannu’r cylch gwaith i drafod sefyllfaoedd diogelu. Gall yr LSBM hefyd fod yn esiampl i ddatblygu diwylliant diogelu ar draws eich mudiad.

Cymuned Ymarfer Diogelu CGGC

Mae CGGC yn cynnig Cymuned Ymarfer Diogelu sy’n agored i bawb â chyfrifoldeb diogelu penodol o fewn eu mudiad. Mae croeso i DSPs ac aelodau arweiniol ymuno â ni am gyfarfodydd ar Zoom i glywed gan siaradwyr ar amrediad o bynciau a chael diweddariadau o bob rhan o’r maes diogelu.

E-bostiwch ni

Adnoddau eraill

Image: trustees meeting

Diogelu Cyfrifoldebau i Ymddiriedolwyr

Edrychwch ar ein cwrs e-ddysgu am ddim, Cyfrifoldebau Diogelu i Ymddiriedolwyr, sy’n rhoi cyflwyniad i’r pwnc hwn.

Diogelu Cyfrifoldebau i Ymddiriedolwyr

Offeryn Hunanasesu Diogelu

Gall eich Bwrdd Ymddiriedolwyr ddefnyddio ein Hadnodd Hunanasesu Diogelu a fydd yn eich helpu i wneud yn siŵr eich bod yn ymdrin â phopeth sydd eu hangen ar gyfer llywodraethu diogelu da.

Offeryn Hunanasesu Diogelu
Image: smiling safeguarding officer

Rôl y Swyddog Diogelu

Mae cwrs e-ddysgu am ddim ar gael ar Rôl y Swyddog Diogelu i egluro beth allai’r rôl ei gynnwys, y cyfrifoldebau a’r gydymffurfiaeth gyfreithiol.

Rôl y Swyddog Diogelu

Ffynonellau eraill o gymorth

Canllaw pum munud ar gyfer ymddiriedolwyr elusennol

Mae’r Comisiwn Elusennau wedi cynhyrchu canllaw pum munud a fideo ategol (Saesneg yn unig) fel cyflwyniad i gyfrifoldebau diogelu ymddiriedolwyr.

Gweld

Datblygu diwylliant diogelu

Mae pob diwylliant yn dueddol o gael ei arwain gan benderfynwyr, felly gwnewch yn siŵr bod eich Ymddiriedolwyr / Bwrdd / Cyfarwyddwyr / pwyllgor yn cynnwys pobl priodol a bod ganddyn nhw’r sgiliau i arwain eich mudiad. Sicrhewch fod eu hymddygiad yn seiliedig ar arferion da a’i bod hi’n amlwg eu bod nhw’n ymrwymedig i hyrwyddo pwysigrwydd diogelu, oherwydd nhw fydd yn gosod yr esiampl i weddill y mudiad.

I helpu pobl i deimlo’n ddiogel o fewn eich mudiad, mae’n bwysig meithrin diwylliant o ddiogelu, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys a’u cynorthwyo a lle y maen nhw’n teimlo y gallant leisio pryderon, neu heriau, pryd bynnag y mae angen iddyn nhw wneud hynny.

Mae’n helpu i fod yn agored ac yn dryloyw ynghylch eich polisïau a gweithdrefnau, felly efallai yr hoffech chi wneud rhan ohonynt neu bob rhan ohonynt yn hygyrch (ar eich gwefan, cyfryngau cymdeithasol neu ar daflenni i staff/gwirfoddolwyr) a’u cyfathrebu’n eang, yn enwedig ymhlith eich defnyddwyr gwasanaethau. Rhannwch eich negeseuon a’ch ymrwymiad i ddiogelu cyn gynted â phosibl gyda chysylltiadau newydd.

  • Ewch ati i greu amgylchedd croesawgar, positif a hawdd mynd ato sy’n atalion, yn barod ac yn rhagweithiol
  • Peidiwch ag aros i rywun ofyn i chi neu i rywbeth fynd o’i le cyn meddwl am ddiogelu

Recriwtio Bwrdd

Dylai Bwrdd gynnwys pobl briodol i wneud penderfyniadau dros y mudiad a fydd yn cadw at y nodau a bennwyd, yn ei gadw’n ddiddyled ac yn cadw pobl yn ddiogel. Yn ddelfrydol, dylai Bwrdd gynnwys amrywiaeth eang o sgiliau a dulliau gweithredu amrywiol a fydd yn fuddiol i’w prosesau penderfynu a, lle y bo angen, yn herio’r rheolwyr. Mae recriwtio ymddiriedolwyr yn dasg ddifrifol a dylai gynnwys sicrhau nad yw unrhyw unigolyn yn anghymwys i ddod yn ymddiriedolwr.

Os yw gwaith eich mudiad yn golygu y bydd y Bwrdd yn gwneud penderfyniadau lles a fydd yn effeithio ar fuddiolwyr sy’n blant neu’n oedolion, neu os ydych chi’n ddarparwr gweithgaredd sylweddol a reoleiddir, mae eich Ymddiriedolwyr yn gymwys i gael gwiriadau DBS manylach (yn unig). Gellir cael rhagor o wybodaeth am hyn yn ein hadran ar y DBS.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am y rheolau ynghylch anghymhwysiad awtomatig ymddiriedolwyr yma.

Adrodd digwyddiadau difrifol

Fel rhan o’i dyletswyddau fel elusen gofrestredig, mae’r Comisiwn Elusennau yn disgwyl i’r Bwrdd gyflwyno adroddiadau iddynt ynghylch unrhyw ddigwyddiadau difrifol. Mae hyn yn cynnwys adrodd digwyddiadau sy’n ymwneud â niwed i unigolyn yn sgil camau neu ddiffyg camau a gymerwyd gan yr elusen. Gall fod asiantaethau a phartneriaid eraill a fyddai’n disgwyl cael eu hysbysu’n ffurfiol o ddigwyddiad diogelu, fel yswirwyr, cyllidwyr mawr, a chyrff ymchwilio/rheoleiddio, yn dibynnu ar eich gwaith. Mae’n hawdd iawn i sïon fynd ar led drwy gyfryngau cymdeithasol ac mae’n well o lawer i’ch mudiad hysbysu cyrff eraill yn gyntaf cyn iddynt glywed o ffynonellau eraill (llai cywir). Os nad ydych chi’n siŵr a ddylech chi wneud adroddiad ar ddigwyddiad difrifol, cynghorir chi i gysylltu â’r Comisiwn Elusennau mor gynnar â phosibl a gofyn am eu harweiniad.

Mae rhagor o wybodaeth gan y Comisiwn Elusennau am sut i adrodd digwyddiad difrifol yma (Saesneg yn unig).

Mae’r Comisiwn Elusennau yn dal Bwrdd elusen yn gyfrifol gyda’i gilydd yn y pen draw am y trefniadau diogelu o fewn eu mudiad. Rhaid i’r Bwrdd sicrhau bod ganddyn nhw’r trosolwg i deimlo’n hyderus eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu ac o fewn rheswm i gadw pobl yn ddiogel. Dylent ofyn am adroddiadau rheolaidd a sicrhau eu bod yn cael gwybod am ddigwyddiadau difrifol heb aros am gyfarfodydd sydd wedi’u trefnu.