Gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Ar y tudalen hon
Deall gwiriadau’r DBS
Gwiriad DBS yw proses a bennir gan y gyfraith sy’n caniatáu i gyflogwr, neu rywun sy’n lleoli gwirfoddolwr, ofyn i weld cofnod troseddol yr unigolyn. Gellir dim ond gwneud hyn os bydd y rôl y bydd yr unigolyn hwnnw yn ei gwneud drosoch chi/eich mudiad yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd fel eithriad i’r Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr.
Mae gwiriad DBS yn rhoi gwybodaeth am hanes troseddol gwirfoddolwr ar yr adeg honno. IGall helpu mudiadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr i bennu a yw rhywun yn ymgeisydd addas i’r rôl y mae’n gwneud cais amdani, ond rhaid i’r gwiriadau a wneir fod yn briodol i’r rôl. Mae gwahanol fathau o wiriadau DBS ar gael sy’n datgelu lefelau gwahanol o wybodaeth, ac mae’n drosedd i wneud cais am wiriad DBS os nad yw’r rôl yn gymwys i gael un. Dylid ystyried yn ofalus a oes angen cynnal gwiriad neu a yw mesurau diogelu eraill yn rhoi digon o ddiogelwch.
Os ydych chi’n gosod rhywun mewn rôl a ddiffinnir fel gweithgaredd a reoleiddir (gweler yma – mae’r ddolen yn Saesneg yn unig ond mae’r taflenni sy’n ymwneud â Chymru ar gael yn Gymraeg a Saesneg), mae’r mudiad yn gyfrifol am wirio nad yw’n ymddangos ar y rhestrau gwahardd drwy wiriad DBS manylach, a gosodir dyletswydd gyfreithiol ar y mudiad i atgyfeirio i’r DBS.
Ni ddylid defnyddio gwiriadau’r DBS fel ymarferiad ticio blwch ‘rhag ofn’ yn unig. Mae gennym ni amrediad o daflenni gwybodaeth sy’n rhoi rhagor o fanylion ar sut i fynd ati i gael gwiriadau’r DBS:
Adnoddau eraill
Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a Recriwtio Mwy Diogel
Mae DBS a Recriwtio mwy Diogel yn egluro sut i ddefnyddio gwiriadau’r DBS fel rhan o’ch dull o fynd ati i ddiogelu a recriwtio’n fwy diogel.
Gwiriadau’r DBS a hanes Euogfarnau
Mae Gwiriadau’r DBS a hanes Euogfarnau yn edrych ar sut i asesu risg canlyniadau gwiriad DBS.