Dechrau arni

Cartref » Help ac arweiniad » Cyllido eich mudiad » Dechrau arni

Pwy sy’n gyfrifol am godi arian?

Yn y pen draw, saif y cyfrifoldeb am godi arian yn effeithiol gydag aelodau eich Bwrdd ymddiriedolwyr neu bwyllgor rheoli.

Efallai eich bod yn cyflogi staff neu’n dirprwyo gwirfoddolwyr unigol i wneud gwaith codi arian. Ond dyletswydd y Bwrdd Ymddiriedolwyr yw sicrhau bod gan eich mudiad yr adnoddau sydd ei angen arno i gyflawni ei nodau a’i amcanion. Mae hwn yn gyfrifoldeb cyfreithiol i unigolion sy’n rhedeg elusen neu gwmni cyfyngedig, ond mae’r rhwymedigaeth yn gymwys i’r holl aelodau pwyllgor mewn mudiadau gwirfoddol a chymunedol.

Mae’r Comisiwn Elusennau wedi llunio canllaw defnyddiol i gynorthwyo ymddiriedolwyr gyda’u cyfrifoldebau o ran codi arian. Edrychwch ar Charity fundraising: a guide to trustee duties (Codi arian i elusennau: canllaw i ddyletswyddau ymddiriedolwyr) (Saesneg yn unig)

Deall strategaeth codi arian

Waeth beth yw maint eich mudiad, byddwch chi’n rhoi’r cyfle gorau i chi’ch hun i lwyddo drwy fynd ati i gynhyrchu incwm mewn modd strategol. Hynny yw, dylech lunio cynllun ar gyfer y tymor byr, y tymor canolig a’r hirdymor, gan greu ymdeimlad bod pawb yn mynd i’r un cyfeiriad o ran codi arian a sicrhau y bydd amser ac adnoddau gwerthfawr yn cael eu defnyddio’n effeithiol.

Bydd datblygu strategaeth codi arian, hyd yn oed un byr, yn eich helpu i wneud hyn. Mae angen i’ch strategaeth codi arian gefnogi nodau eich mudiad ac mae angen iddi gyd-fynd â dull cyffredinol eich mudiad o gynllunio’n strategol. (Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y broses gyffredinol o gynllunio busnes, gallwch chi ganfod hyn yn ein hadran cynllunio strategol a busnes).

Dylai eich strategaeth codi arian ymdrin â 3 phrif faes – eich sefyllfa bresennol, yr hyn rydych chi am ei gyflawni a’r dulliau y byddwch chi’n eu defnyddio i gyflawni hyn. Gallwch chi wneud hon mor fanwl ag y dymunwch. Y flaenoriaeth yma yw bod y strategaeth yn ddefnyddiol a bod modd ei defnyddio.

Ble ydym ni nawr?

Er mwyn llunio strategaeth codi arian effeithiol, mae angen i chi ddechrau drwy edrych ar sefyllfa bresennol eich mudiad, yn fewnol ac yn allanol. Hynny yw, dylech chi edrych ar yr adnoddau sydd gennych chi (staff, gwirfoddolwyr, cyllideb, cefnogwyr y gwyddys amdanynt, cyrhaeddiad ar gyfryngau cymdeithasol, gwefan) a deall sut y bydd cryfderau a gwendidau eich mudiad yn effeithio ar eich gallu i godi arian. Mae hefyd angen i chi fod yn ymwybodol o’r amgylchedd rydych chi’n cynhyrchu incwm ynddo a’r risgiau a chyfleoedd sy’n bodoli. Bydd yr wybodaeth hon yn sicrhau y gallwch chi wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch pa weithgareddau sy’n debygol o fod yn fwy llwyddiannus.

Ble ydym ni eisiau bod?

Bydd angen i chi fod yn eglur ynghylch yr hyn rydych chi eisiau ei gyflawni o’ch ymdrechion codi arian, a dylai hyn gael ei nodi fel nod codi arian. Dylech chi amlinellu pam rydych chi’n codi arian a chynnwys trosolwg o’r prosiectau neu ddatblygiadau penodol rydych chi’n bwriadu eu cefnogi. Dylech chi hefyd ystyried a ydych chi’n gobeithio denu cefnogwyr newydd neu gynhyrchu incwm o ffynonellau newydd (amrywio eich ffrydiau incwm).

Dyma rai enghreifftiau o nodau codi arian –

  • Darparu cyllid ar gyfer xxx prosiect 3 blynedd
  • Sefydlu grŵp ‘Cyfeillion…’ sy’n cynhyrchu £2,000 y flwyddyn i gefnogi costau craidd

Byddwch chi’n manylu ar sut byddwch chi’n cyflawni’r nodau hyn yn rhan nesaf eich cynllun.

Sut ydym ni’n mynd i gyflawni hyn?

Yn y rhan hon, dylai eich strategaeth nodi manylion y gweithgareddau codi arian y byddwch chi’n eu gwneud a sut byddwch chi’n gwneud y gweithgaredd. Yn hytrach na dewis gweithgaredd codi arian ar hap am ei fod yn swnio’n dda, meddyliwch am faint fyddai’n ei gostio i’w wneud, pwy fyddai’n cymryd rhan, faint byddai’r bobl hyn yn debygol o wario/rhoi, beth fyddent yn mwynhau ei wneud, pa bethau eraill sy’n digwydd ar yr un pryd?

Bydd y penderfyniadau y byddwch chi’n eu gwneud ynghylch y gweithgareddau codi arian y byddwch chi’n eu gwneud yn cael eu llywio gan y dadansoddiad y gwnaethoch chi o’ch mudiad a’r hinsawdd rydych chi’n gweithredu o’i fewn. Byddwch yn realistig ynghylch y mathau o weithgareddau y byddwch chi’n penderfynu mynd ati i’w gwneud a graddfa’r gweithgareddau hyn, gan ystyried yr amser, y gost a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i’w cyflawni.

Cyn ymrwymo i unrhyw weithgareddau codi arian, cofiwch wirio dogfen lywodraethu eich mudiad, oherwydd gallai fod cyfyngiadau ar y math o weithgaredd cynhyrchu incwm y gallwch chi ei wneud (er enghraifft, caiff buddsoddiadau eu cyfyngu’n aml gan gymalau mewn dogfennau llywodraethu).

Unwaith rydych chi wedi penderfynu ar y gweithgareddau codi arian, dylech wneud cynllun prosiect manwl sy’n nodi pa dasgau sydd angen eu gwneud, gan bwy ac erbyn pryd. Dylech hefyd osod eich targedau ar gyfer y gweithgaredd codi arian a nodi ffyrdd o fonitro a ydych chi ar y llwybr cywir. Bydd hefyd angen i chi greu cyllideb ar gyfer eich gweithgareddau codi arian. Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud hyn yn ein hadran ar Gyllidebau a rhagolygon.

Datblygu strategaeth codi arian

Mae gennym hefyd gwrs e-ddysgu am ddim ‘Datblygu strategaeth codi arian’ sy’n mynd â chi drwy’r broses ac yn rhoi rhai syniadau i chi ar yr offer cynllunio busnes y gallwch eu defnyddio wrth adeiladu eich strategaeth.

Datblygu strategaeth codi arian

Dod i adnabod eich cefnogwyr (rhoddwyr)

Mae canolbwyntio ar bobl yn rhan annatod o gynhyrchu incwm yn llwyddiannus. Mae’n bwysig eich bod yn dod i adnabod eich cefnogwyr (pwy ydyn nhw a beth sy’n eu cymell) fel y gallwch chi gyfathrebu â nhw’n effeithiol a chadw eu cefnogaeth.

Er mai nod cyffredinol codi arian yw dod ag arian i mewn i’ch mudiad, nid yw gofyn am arian er mwyn gofyn (i fod yn sinigaidd) yn mynd i ysbrydoli pobl i roi arian i chi. Mae dull codi arian da yn meithrin cysylltiad â’r rhoddwr, yn creu pont rhwng eich mudiad a’u gwerthoedd a’u gallu i effeithio ar newid er mwyn byw’r gwerthoedd hynny. Nid yw pawb eisiau na’n gallu gweithio neu wirfoddoli i elusen, ond mae rhoi arian neu nwyddau yn ffordd y gall rhywun gyfrannu at yr achos(ion) sy’n agos at ei galon; ei achos ‘ef’. Pan fyddwch chi’n deall gwerthoedd a chymhellion eich rhoddwyr, gallwch chi gynllunio eich negeseuon codi arian yn unol â hynny.

Bydd dod i adnabod eich rhoddwyr neu’r bobl rydych chi’n credu y gallai ddod yn rhoddwyr hefyd yn eich helpu i benderfynu ar ba weithgareddau codi arian i roi cynnig arnynt. Ai gwragedd ydyn nhw’n bennaf, neu bobl dros 55 oed? Defnyddiwch adnoddau syml fel cyfryngau cymdeithasol ac arolygon byr i ganfod sut maen nhw’n hoffi treulio’u hamser, sut maen nhw’n hoffi derbyn cyfathrebiadau a beth maen nhw’n ei hoffi a ddim yn ei hoffi’n gyffredinol. Bydd hyn yn eich helpu i gynllunio gweithgareddau codi arian a fydd yn apelio atyn nhw. Er enghraifft, pe baech chi’n canfod bod llawer o’ch cefnogwyr hefyd yn frwd am rygbi, gallech chi ganolbwyntio ar ddod o hyd i wobrau sy’n ymwneud â rygbi ar gyfer ocsiwn dawel. Pe bai nhw’n hoffi mynd i fwytai a rhoi cynnig ar fwydydd newydd, gallech chi gynllunio digwyddiad gyda chogydd gwadd.

Cefnogwch eich pobl codi arian

Mae’r bobl sy’n gwneud eich gweithgareddau codi arian hefyd yn bwysig. Rhowch gymaint o amser a chymorth â phosibl i bwy bynnag sy’n codi arian i chi. Sicrhewch fod ganddyn nhw fynediad at yr wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i gynllunio gweithgareddau da, a gwnewch yn siŵr nad ydynt yn gweithio ar eu pen eu hunain. Yn aml, mae codi arian yn rhywbeth cyhoeddus iawn i’w wneud a gall fod yn anodd (yn enwedig mewn amgylcheddau economaidd anodd), felly mae angen i’r bobl sy’n ei wneud wybod bod ganddyn nhw gefnogaeth yr holl fudiad. Wedi’r cwbl, bydd canlyniadau eu gwaith nhw o fudd i’r holl fudiad.

Sgiliau codi arian

Mae nifer o sgiliau, y gellir eu trosglwyddo o feysydd gwaith eraill, sy’n gallu cyfrannu at weithgareddau codi arian llwyddiannus. Nid oes angen i chi gael un person sy’n meddu ar yr holl sgiliau hyn – defnyddiwch sgiliau pobl ar draws eich mudiad i gael y canlyniadau sydd eu hangen arnoch chi.

Dyma rai o’r sgiliau allweddol sy’n cyfrannu at weithgareddau codi arian da:

  • Rheoli cydberthnasau: waeth a ydynt yn gyllidwyr, busnesau, unigolion neu’n wirfoddolwyr, mae magu cydberthynas â phobl a mudiadau yn sgil craidd sydd ei angen i godi arian yn dda.
  • Cyfathrebiadau a marchnata: bydd gallu cyfathrebu effaith eich gwaith yn effeithiol (i’r bobl gywir, ar yr adeg gywir, yn y modd cywir) yn gwneud unrhyw dasg codi arian yn fwy effeithiol
  • Gwerthu: er nad ydyn ni eisiau meddwl am godi arian yn y modd hwn, mae’r rheini â phrofiad o werthu yn gwneud codwyr arian da. Yn yr un modd ag y mae gwerthu yn ymwneud ag egluro sut bydd eich cynnyrch yn diwallu anghenion/gofynion rhywun, mae codi arian yn ymwneud ag egluro sut bydd cefnogi eich elusen yn helpu i fodloni gwerthoedd rhywun.
  • Digidol: mae sgiliau digidol yn berthnasol i bob agwedd o godi arian, gan gynnwys ffyrdd o weithio, dulliau o godi arian a chyfathrebu. Gweler rhagor o wybodaeth yn ein hadran Digidol isod.
  • Cyllidebu: Bydd angen i’ch gweithgareddau codi arian gael eu costio a’u cyflawni’n briodol o fewn cyllideb gytunedig. Bydd angen i’ch cyllideb adlewyrchu’r ffaith y bydd yn cymryd amser i weithgareddau codi arian gyflawni canlyniadau ac na fyddwch, o bosibl, yn adennill costau ar unwaith. Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am sut i fynd ati i gyllidebu yn ein hadran Cyllidebu a rhagweld

Digidol

Nid yw codi arian yn wahanol i unrhyw agwedd arall o reoli’ch mudiad – mae ffyrdd o ddefnyddio digidol a fydd yn cael effeithiau positif o ran amser, cost ac adnoddau eraill. Mae digidol yn ymwneud â sut rydych chi’n trefnu’r gwaith codi arian yn fewnol a sut rydych chi’n cyfathrebu â’ch rhoddwyr. Gall hefyd eich helpu i greu ffyrdd o alluogi pobl i roi i’ch mudiad, er enghraifft, drwy ddefnyddio seilwaith digidol ffisegol fel dyfeisiau rhoi di-arian neu ddefnyddio Facebook i roi er mwyn creu mwy o gyfleoedd i’ch cefnogwyr roi.

Gall mynd ati mewn modd digidol gefnogi ffyrdd di-ri o godi arian, ond os ydych chi’n barod i ddysgu mwy am godi arian ar-lein yn benodol, mae gennym ni arweinlyfr sydd wedi’i ddatblygu gan Local Giving.

Canllaw codi arian ar-lein

Mae ein Canllaw Codi Arian Ar-lein yn darparu gwybodaeth am bynciau fel llwyfannau codi arian ar-lein, hyrwyddo eich achos ac ymgysylltu â rhoddwyr rheolaidd gyda thasgau i chi weithio arnynt i wella eich ymarfer.

View resource

Rhodd Cymorth

Rhodd Cymorth yw’r cynllun gan Lywodraeth y DU sy’n caniatáu i elusennau hawlio 25c ychwanegol am bob £1 a roddir gan drethdalwyr y DU. Nid oes angen i chi fod yn elusen gofrestredig i hawlio Rhodd Cymorth. Ni ellir hawlio Rhodd Cymorth pan nad yw’r rhodd wedi dod o’r rhoddwr yn uniongyrchol, neu pan fydd rhywbeth wedi’i dderbyn yn gyfnewid am y ‘rhodd’, er enghraifft, tocynnau i ddigwyddiad codi arian.

Nid yw Rhodd Cymorth yn costio’r un geiniog i’w hawlio, ond mae tasgau gweinyddol i’w cyflawni, felly dylid cadw amser ar gyfer hyn. Mae mwy na £500 miliwn y flwyddyn o Rodd Cymorth yn mynd heb ei hawlio, felly mae’n bendant yn gyfle y dylid manteisio arno os gallwch chi roi’r prosesau cywir ar waith.

Introduction to Gift Aid

For more information about Gift Aid, look at our guidance.

View resource

Cod Ymarfer Codi Arian

Mae’r Cod Ymarfer Codi Arian yn gosod y safonau sy’n gymwys i weithgareddau codi arian a wneir gan bob sefydliad elusennol a chodwyr arian trydydd parti yn y DU. Mae’r Cod yn amlinellu gofynion cyfreithiol ac arferion da o ran codi arian, ac yn eich cyfeirio at ddeddfwriaethau a chanllawiau eraill (e.e. ynghylch gamblo mewn perthynas â loterïau elusennol). Yn ogystal â darparu’r fframwaith hwnnw er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn codi arian mewn modd cyfreithiol, gall y Cod eich helpu i fireinio syniadau os nad ydych chi’n sicr o ba weithgareddau codi arian i roi cynnig arnynt.

Caiff y Cod ei reoli gan y Rheoleiddiwr Codi Arian. Mae’r Rheoleiddiwr yn gyfrifol am godi arian da ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Nhw sy’n ymdrin â chwynion ynghylch codi arian, ac maen nhw’n rhoi cyngor ac arweiniad ar arferion da (gwefan Saesneg yn unig).