Trosolwg
Mae pobl ifanc yng Nghymru eisiau mwy o gyfleoedd i wirfoddoli. Pan maen nhw’n cael cyfleoedd da, maen nhw nid yn unig yn ennill sgiliau a phrofiadau gwerthfawr, ond maen nhw hefyd yn cyfrannu’n helaeth at gymunedau ledled Cymru a thu hwnt.
Mae’r cwrs hwn ar gyfer mudiadau sydd eisiau cynnwys pobl ifanc mewn gwirfoddoli neu wella eu harfer presennol. Pa un a rydych chi’n newydd i wirfoddoli, eisiau ehangu’ch cynulleidfa i gynnwys pobl ifanc, neu dim ond eisiau sicrhau bod eich arfer presennol yn iawn, mae gan y cwrs hwn rywbeth i chi. Rydyn ni’n diffinio pobl ifanc yma fel rhai 14-25 oed ond gallwch chi addasu’r cyngor a’r syniadau i unrhyw oedran – mae llawer o’r dysgu yma yn arfer gorau i wirfoddolwyr o bob oed.
Please login.