DARLLENWCH Y TELERAU AC AMODAU HYN YN OFALUS CYN DEFNYDDIO’R WEFAN HON
Beth sydd yn y telerau hyn?
Mae’r telerau hyn yn dweud wrthych am y rheolau i ddefnyddio ein gwefannau:
https://knowledgehub.cymru/cy/
https://www.volunteering-wales.net
Cadwn bob hawl na fynegir yn benodol yn y telerau hyn.
Pwy ydym ni a sut i gysylltu â ni
Gweithredir y gwefannau gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, sef WCVA, (“ni”). Rydym wedi ein cofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan y rhif cwmni 00425299 a’n cofrestru’n elusen o dan y rhif elusen 218093. Mae ein swyddfa gofrestredig yn Nhŷ Baltig, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd CF10 5FH.
I gysylltu â ni, ebostiwch [email protected], ysgrifennwch at Gwefeistr, WCVA, Tŷ Baltig, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd CF10 5FH neu ffoniwch ein llinell gwasanaeth cwsmeriaid sef 0800 2888 329.
Wrth ddefnyddio ein gwefannau rydych yn derbyn y telerau hyn
Wrth ddefnyddio ein gwefannau, rydych yn cadarnhau’ch bod yn derbyn y telerau defnyddio hyn a’ch bod yn cytuno i gydymffurfio â nhw.
Os nad ydych yn cytuno â’r telerau hyn, rhaid i chi beidio â defnyddio ein gwefannau.
Fe’ch argymhellwn i argraffu copi o’r telerau hyn i gyfeirio atynt yn y dyfodol.
Ceir telerau eraill a all fod yn berthnasol i chi
Mae’r telerau defnyddio hyn yn cyfeirio at y telerau ychwanegol canlynol, sydd hefyd yn berthnasol i’ch defnydd o’n gwefannau:
Gallwn newid y telerau hyn
Mae’n bosib y byddwn yn newid y telerau hyn o bryd i’w gilydd. Bob tro rydych am ddefnyddio ein gwefannau, gwiriwch y telerau hyn i sicrhau’ch bod yn deall y telerau sydd mewn grym bryd hynny.
Gallwn newid ein gwefannau
Mae’n bosib y byddwn yn diweddaru ac yn newid ein gwefannau o bryd i’w gilydd.
Gallwn atal neu ddiddymu ein gwefannau
Mae ein gwefannau ar gael yn rhad ac am ddim.
Nid ydym yn gwarantu y bydd ein gwefannau, na’r cynnwys arnynt, ar gael bob amser nac yn ddi-dor. Mae’n bosib y byddwn yn atal neu’n diddymu neu’n cyfyngu argaeledd ein holl wefannau, neu ran ohonynt, am resymau busnes a gweithredol.
Chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod pawb sy’n defnyddio ein gwefannau drwy eich cysylltiad â’r rhyngrwyd yn ymwybodol o’r telerau defnyddio hyn a thelerau ac amodau perthnasol eraill, a’u bod yn cydymffurfio â nhw.
Rhaid i chi gadw manylion eich cyfrif yn ddiogel
Os ydych yn dewis cod adnabod defnyddiwr, cyfrinair neu unrhyw ddarn arall o wybodaeth fel rhan o’n gweithdrefnau diogelwch, neu os rhoddir y rhain i chi, rhaid i chi drin gwybodaeth o’r fath yn gyfrinachol. Rhaid i chi beidio â’i datgelu i drydydd parti.
Mae gennym yr hawl i ddiddymu unrhyw god neu gyfrinair adnabod defnyddiwr, ni waeth a yw’n un a ddewiswyd gennych chi neu’n un a ddarparwyd gennym ni, unrhyw bryd os yn ein barn resymol rydych wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ddarpariaethau yn y telerau defnyddio hyn.
Os ydych yn gwybod neu’n amau bod unrhyw un arall heblaw amdanoch chi yn gwybod eich cod neu’ch cyfrinair adnabod defnyddiwr, rhaid i chi roi gwybod i ni yn brydlon drwy ebostio [email protected]
Mae ein nodau masnach wedi’u cofrestru
Mae Cyfranogaeth Cymru a Participation Cymru yn nodau masnach cofrestredig i WCVA. Ni chaniateir i chi eu defnyddio heb ein cymeradwyaeth, onid ydynt yn rhan o ddeunydd yr ydych yn ei ddefnyddio fel a ganiateir o dan Sut y cewch ddefnyddio deunydd ar ein gwefannau.
Sut y cewch ddefnyddio deunydd ar ein gwefannau
Oni nodir yn wahanol, ni yw perchennog neu drwyddedai pob hawl eiddo deallusol ar ein gwefannau, ac yn y deunydd a gyhoeddir arnynt. Gwarchodir y gweithiau hynny gan ddeddfau a chytuniadau hawlfraint o amgylch y byd. Cedwir pob hawl o’r fath. Ni chaniateir copïo nac ail drawsyrru logos, deunydd graffeg na delweddau ar wefan WCVA heb ein caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw ac nid yw’r caniatâd a roddir isod yn ymestyn i ddyluniad na gosodiad ein gwefannau ac ni cheir eu copïo’n llawn nac yn rhannol.
Yn amodol ar yr eithriadau a nodir uchod, cewch argraffu fel copi caled, lawrlwytho i ddisg galed leol neu ddefnyddio unrhyw ddeunydd ar ein gwefannau ar yr amod bod hynny at eich defnydd personol chi neu ar gael i eraill yn eich mudiad chi’n unig.
Caniateir i gopïau gael eu cyflenwi i drydydd parti ar yr amod eu bod at eu defnydd personol; na fyddant yn cael eu cyflenwi fel rhan o waith neu gyhoeddiad arall, ac na fyddant yn cael eu cyflenwi’n uniongyrchol yn gyfnewid am elw masnachol. Mae cyflenwi copi i drydydd parti yn amodol ar eu hysbysu o’r ffaith bod y telerau hyn yr un mor weithredol yn eu hachos hwythau.
Rhaid i chi beidio ag addasu’r copïau papur na digidol o ddeunyddiau yr ydych wedi’u hargraffu neu eu lawrlwytho mewn unrhyw ffordd, a rhaid i chi beidio â defnyddio delweddau, ffotograffau, dilyniannau fideo neu sain neu unrhyw ddeunyddiau graffeg heb unrhyw destun sy’n mynd gyda nhw. Caniateir cyfieithu ar yr amod eich bod yn derbyn cyfrifoldeb llawn am gywirdeb y cyfieithiad.
Rhaid bob amser gydnabod ein statws (a statws unrhyw gyfranwyr a nodir) fel awduron y cynnwys ar ein gwefannau. Rhaid cadw pob hysbysiad hawlfraint a pherchnogol yn gyflawn, a rhaid atgynhyrchu ein cyfeiriad a’n manylion cyswllt.
Nid yw’r caniatâd i atgynhyrchu ein deunydd hawlfraint yn ymestyn i unrhyw ddeunydd ar y gwefannau sydd wedi’i nodi fel hawlfraint trydydd parti. Rhaid cael caniatâd uniongyrchol deiliad yr hawlfraint berthnasol i atgynhyrchu deunydd o’r fath.
Os ydych yn argraffu, yn copïo neu’n lawrlwytho unrhyw ran o’n gwefannau yn groes i’r telerau defnyddio hyn, bydd eich hawl i ddefnyddio ein gwefannau yn darfod ar unwaith a rhaid i chi, yn ôl ein dewis ni, ddychwelyd neu ddinistrio unrhyw gopïau o’r deunyddiau yr ydych wedi’u gwneud.
Byddem yn barod i ystyried ceisiadau am ganiatâd i ddefnyddio deunydd o’n gwefannau sydd y tu hwnt i delerau’r caniatâd a nodir uchod. Rhaid gwneud cais o’r fath yn ysgrifenedig ymlaen llaw a’i gyfeirio at [email protected]
Peidiwch â dibynnu ar wybodaeth ar y gwefannau
Darperir y cynnwys ar ein gwefannau er gwybodaeth yn unig. Ni fwriedir iddo fod yn gyngor y dylech ddibynnu arno. Rhaid i chi gael cyngor proffesiynol neu arbenigol cyn penderfynu gweithredu neu beidio â gweithredu ar sail y cynnwys ar ein gwefannau. Ni dderbyniwn gyfrifoldeb am wallau, hepgoriadau, datganiadau camarweiniol nac am ganlyniadau hynny.
Er ein bod yn ymdrechu’n rhesymol i ddiweddaru’r wybodaeth ar ein gwefannau, nid ydym yn honni nac yn gwarantu, boed yn ddiamwys neu’n ymhlyg, fod y cynnwys ar ein gwefannau yn gywir, yn gyflawn nac wedi’i ddiweddaru.
Nid yw cyfeiriad at unrhyw fudiad, cwmni neu unigolyn ar ein gwefannau, neu unrhyw wefannau eraill y mae dolen atynt, yn golygu ein bod yn cymeradwyo nac yn gwarantu eu henw da na’u gallu.
Nid ydym yn gyfrifol am wefannau yr ydym yn darparu dolenni atynt
Pan fo ein gwefannau yn cynnwys dolenni at wefannau eraill ac adnoddau a ddarperir gan drydydd partïon, darperir y dolenni hyn er gwybodaeth yn unig. Nid yw darparu dolenni o’r fath yn golygu ein bod yn cymeradwyo gwefannau’r dolenni hynny nac unrhyw wybodaeth a gewch chi ohonynt.
Nid oes gennym reolaeth dros gynnwys y gwefannau na’r adnoddau hynny.
Nid ydym yn cymeradwyo cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr
Gall ein gwefannau gynnwys gwybodaeth a deunyddiau a lanlwythir gan ddefnyddwyr eraill o’r gwefannau. Nid ydym wedi gwirio na chymeradwyo’r wybodaeth na’r deunyddiau hyn ac ni dderbyniwn gyfrifoldeb am unrhyw wallau, hepgoriadau neu anghywirdeb mewn deunydd a gyflwynir. Nid yw’r farn a fynegir gan ddefnyddwyr eraill ar ein gwefannau yn cynrychioli ein barn na’n gwerthoedd ni.
Os hoffech gwyno ynghylch gwybodaeth a deunyddiau a lanlwythir gan ddefnyddwyr eraill cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a nodir ar dudalen 1 yn y telerau hyn.
Ein cyfrifoldeb am golled neu ddifrod a ddaw i’ch rhan chi
I’r graddau llawnaf a ganiateir gan y gyfraith, rydym yn gwrthod pob cyfrifoldeb am hawliau sy’n codi o ddefnydd o’n gwefannau, neu’n gysylltiedig â’u defnyddio, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) hawliau sy’n codi o oedi, toriad neu anallu i gael at y gwefannau a defnyddio unrhyw gynnwys ar ein gwefannau neu ddibynnu arno. Nid ydym yn gwrthod nac yn cyfyngu mewn unrhyw ffordd ein cyfrifoldeb i chi pan fyddai gwneud hynny’n anghyfreithlon. Mae hyn yn cynnwys cyfrifoldeb am farwolaeth neu anaf personol a achosir gan ein hesgeulustod neu esgeulustod ein cyflogeion, ein hasiantau neu ein his-gontractwyr ac am dwyll neu gamliwio twyllodrus.
Lanlwytho cynnwys i’n gwefannau
Pryd bynnag rydych yn defnyddio nodwedd sy’n eich galluogi i lanlwytho cynnwys i’n gwefannau, neu i gysylltu â defnyddwyr eraill o’n gwefannau, rhaid i chi gydymffurfio â’r safonau cynnwys a nodir yn ein Polisi Defnydd Derbyniol.
Rydych yn gwarantu bod unrhyw gyfraniad o’r fath yn cydymffurfio â’r safonau hynny, a byddwch yn atebol i ni ac yn ein hindemnio os torrir y warant honno mewn unrhyw ffordd. Golyga hyn y byddwch yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod a ddaw i’n rhan ni o ganlyniad i dorri’ch gwarant.
Os ydych yn lanlwytho cynnwys i’n gwefannau, ystyriwn nad yw’r cynnwys hwn yn gyfrinachol a’i fod yn amherchnogol. Byddwch yn cadw’ch holl hawliau perchnogaeth i’ch cynnwys, ond bydd yn ofynnol i chi roi trwydded gyfyngedig i ni a defnyddwyr eraill o’n gwefannau i ddefnyddio, storio a chopïo’r cynnwys hwnnw ac i’w ddosbarthu a’i wneud ar gael i drydydd partïon.
Mae gennym hefyd yr hawl i ddatgelu eich hunaniaeth i unrhyw drydydd parti sy’n hawlio bod unrhyw gynnwys a bostiwyd neu a lanlwythwyd gennych chi i’n gwefannau yn torri eu hawliau eiddo deallusol, neu eu hawl i breifatrwydd.
Cadwn yr hawl i hepgor, atal neu olygu unrhyw ddeunydd a gyflwynir a dileu unrhyw beth rydych yn ei roi ar ein gwefannau os, yn ein barn ni, nad yw’ch cynnwys yn cydymffurfio â’r safonau cynnwys a nodir yn ein Polisi Defnydd Derbyniol.
Chi, a chi yn unig, sy’n gyfrifol am ddiogelu’ch cynnwys a chreu copi wrth gefn ohono.
Nid ydym yn gyfrifol am feirysau a rhaid i chi beidio â’u cyflwyno
Nid ydym yn gwarantu y bydd ein gwefannau yn ddiogel nac yn rhydd rhag bygiau na feirysau.
Chi sy’n gyfrifol am ffurfweddu eich technoleg gwybodaeth, eich rhaglenni cyfrifiadurol a’ch llwyfan i gael at ein gwefannau. Dylech ddefnyddio’ch meddalwedd eich hun i warchod rhag feirysau.
Rhaid i chi beidio â chamddefnyddio ein gwefannau drwy gyflwyno feirysau, trojans, mwydod, bomiau rhesymeg neu ddeunydd arall sy’n faleisus neu’n dechnolegol niweidiol. Rhaid i chi beidio â cheisio cael mynediad heb awdurdod at ein gwefannau, y gweinyddion y mae ein gwefannau yn cael eu storio arnynt nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata sy’n gysylltiedig â’n gwefannau. Rhaid i chi beidio ag ymosod ar ein gwefannau drwy ymosodiad gwrthod gwasanaeth nac ymosodiad gwrthod gwasanaeth wedi’i ddosbarthu. Os ydych yn torri’r ddarpariaeth hon, byddech yn cyflawni trosedd o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Byddwn yn rhoi gwybod am unrhyw doriad o’r fath i awdurdodau gorfodi’r gyfraith berthnasol a byddwn yn cydweithredu â’r awdurdodau hynny trwy ddatgelu eich hunaniaeth iddynt hwy. Mewn achos o’r fath, bydd eich hawl i ddefnyddio ein gwefannau yn darfod ar unwaith.
Rheolau ynglŷn â darparu dolenni at ein gwefannau
Cewch greu dolenni at ein gwefannau ar yr amod eich bod yn rhoi gwybod i ni yn ysgrifenedig cyn creu’r ddolen a’ch bod yn darparu dolen at ein gwefannau mewn ffordd deg a chyfreithlon nad yw’n niweidio ein henw da nac yn manteisio arno.
Rhaid i chi beidio â sefydlu dolen mewn ffordd sy’n awgrymu unrhyw fath o gysylltiad, cymeradwyaeth neu ardystiad ar ein rhan ni pan nad yw hynny’n bodoli.
Rhaid i chi beidio â sefydlu dolen at ein gwefannau ar unrhyw wefan nad ydych yn berchen arni.
Cadwn yr hawl i dynnu caniatâd creu dolen yn ôl heb rybudd.
Rhaid i’r wefan sy’n cynnwys y ddolen gydymffurfio ym mhob agwedd â’r safonau cynnwys a nodir yn ein Polisi Defnydd Derbyniol.
Y Gymraeg
Rydym yn fudiad i Gymru gyfan ac yn hyrwyddo ac yn annog y defnydd o’r Gymraeg. Mae ein gwefannau yn galluogi defnyddwyr proffil i lanlwytho gwybodaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg ac anogwn hyn yn gryf. Os nad oes gennych wasanaeth cyfieithu ond hoffech lanlwytho gwybodaeth yn ddwyieithog cysylltwch â ni i gael gwybodaeth drwy ebostio [email protected].
Deddfau pa wlad sy’n llywodraethu unrhyw anghydfodau?
Llywodraethir y telerau defnyddio hyn, eu cynnwys a’u ffurfiant (gan gynnwys unrhyw anghydfodau neu hawliau digontract) gan gyfraith Cymru a Lloegr. Cytunwn ni’n dau i awdurdodaeth lwyr llysoedd Cymru a Lloegr.
Hysbysiad Preifatrwydd Cefnogi Trydydd Sector Cymru 25 Mawrth 2026
Mae data personol yn golygu unrhyw wybodaeth am unigolyn y gellir ei defnyddio i adnabod y person hwnnw. Nid yw’n cynnwys data lle nad oes modd adnabod unigolyn (data dienw).
Efallai y byddwn yn casglu, yn defnyddio, yn storio ac yn trosglwyddo gwahanol fathau o ddata personol. Os hoffech weld sut mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio, gan gynnwys ar gyfer gwasanaethau penodol, ewch i’r adran Defnyddio eich data personol ar waelod yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn.
Cronfeydd data
Mae’r Cronfeydd data yn ein galluogi i reoli sut rydym yn cyfathrebu â phobl a sefydliadau sy’n dymuno clywed gennym. Gan ddefnyddio’r data personol yn y Cronfeydd data, gallwn anfon cyfathrebiadau a fydd, yn ein barn ni, o ddiddordeb i chi drwy e-bost, ffôn, SMS, post, cyfryngau cymdeithasol a sianeli digidol eraill. Mae defnyddio’r Cronfeydd data yn osgoi dyblygu diangen ac yn eich galluogi i reoli’r cyfathrebiadau rydych chi’n eu cael gan TSSW neu ei aelodau.
Rydym hefyd yn defnyddio’r Cronfeydd data i ddarparu gwybodaeth a dadansoddiadau. Mae hyn yn ein helpu i wneud y canlynol:
Marchnata trydydd parti
Ni fyddwn yn rhannu eich data personol ag unrhyw drydydd parti at ddibenion marchnata.
Optio allan
Gallwch ofyn i ni neu drydydd parti roi’r gorau i anfon negeseuon marchnata atoch chi unrhyw bryd drwy ddilyn y dolenni optio allan ar unrhyw neges farchnata a anfonir atoch chi neu drwy gysylltu â ni.Pan fyddwch yn dewis optio allan rhag derbyn y negeseuon marchnata hyn, ni fydd hyn yn berthnasol i ddata personol a ddarperir i ni o ganlyniad i dderbyn ein gwasanaethau ac at y dibenion hynny.
Os na fyddwch chi’n darparu data personol
Pan fydd angen i ni gasglu data personol yn ôl y gyfraith, neu o dan delerau contract sydd gennym gyda chi, ac na fyddwch chi’n darparu’r data hwnnw pan ofynnir amdano, efallai na fyddwn yn gallu cyflawni’r contract sydd gennym neu rydym yn ceisio ymrwymo iddo gyda chi (er enghraifft, i ddarparu gwasanaethau i chi). Yn yr achos hwn, efallai y bydd yn rhaid i ni ganslo gwasanaeth sydd gennych gyda ni ond byddwn yn rhoi gwybod i chi os bydd hyn yn digwydd ar y pryd.
Rydym yn defnyddio dulliau gwahanol i gasglu data gennych chi ac amdanoch chi, gan gynnwys drwy’r canlynol:
Efallai y byddwn yn rhannu eich data personol â’r trydydd partïon canlynol:
Rydym yn mynnu bod pob trydydd parti yn parchu diogelwch eich data personol ac yn ei drin yn unol â’r gyfraith. Nid ydym yn caniatáu i’n darparwyr gwasanaethau trydydd parti ddefnyddio eich data personol at eu dibenion eu hunain a dim ond at ddibenion penodol ac yn unol â’n cyfarwyddiadau ni y byddant yn cael prosesu eich data personol.
Adroddiadau
Efallai y byddwn yn paratoi adroddiadau o’r Cronfeydd data ac yn eu rhannu â Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, byrddau iechyd, y Comisiwn Elusennau a sefydliadau tebyg yn ôl yr angen. Efallai y bydd yr adroddiadau hyn yn cael eu cyhoeddi hefyd.
Mae’r adroddiadau’n cael eu paratoi gan ddefnyddio Data Cyfunol (fel y’i diffinnir ymhellach yn yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn). Ni ddarperir eich gwybodaeth bersonol er mwyn llunio adroddiad ac ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol â’r cyrff hyn. Gall aelodau TSSW benodi ymchwilydd allanol i’n helpu gyda’r gwaith hwn, a fyddai’n gallu cael mynediad at y Data Cyfunol sydd yn y Cronfeydd Data.
Rydym wedi rhoi mesurau diogelwch priodol ar waith i atal eich data personol rhag cael ei golli’n ddamweiniol, ei ddefnyddio neu ei gyrchu mewn ffordd heb awdurdod, ei newid neu ei ddatgelu. Ar ben hynny, rydym yn cyfyngu ar fynediad at eich data personol i aelodau TSSW, cyflogeion, asiantau, contractwyr a thrydydd partïon eraill y mae angen busnes iddynt wybod. Dim ond ar ein cyfarwyddiadau ni y byddant yn prosesu eich data personol ac mae dyletswydd cyfrinachedd arnynt.
Rydym wedi rhoi gweithdrefnau ar waith i ddelio ag unrhyw amheuaeth o dorri diogelwch data personol a byddwn yn rhoi gwybod i chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol am achos o dorri amodau lle mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.
Byddwn ond yn cadw eich data personol am gyn hired ag sy’n rhesymol angenrheidiol i gyflawni’r dibenion y casglwyd y data ar eu cyfer, gan gynnwys at ddibenion bodloni unrhyw ofynion cyfreithiol, rheoleiddiol, treth, cyfrifyddu neu adrodd. Efallai y byddwn yn cadw eich data personol am gyfnod hirach os bydd cwyn neu os byddwn yn credu’n rhesymol bod posibilrwydd o ymgyfreitha mewn cysylltiad â’n perthynas â chi.
Er mwyn penderfynu ar y cyfnod cadw priodol ar gyfer data personol, rydym yn ystyried maint, natur a sensitifrwydd y data personol, y risg bosibl o niwed o ddefnyddio neu ddatgelu eich data personol heb awdurdod, y dibenion rydym yn prosesu eich data personol ar eu cyfer ac a allwn gyflawni’r dibenion hynny drwy ddulliau eraill, a’r gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol, treth a chyfrifyddu perthnasol, neu ofynion eraill.
Mewn rhai amgylchiadau, gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol: cymerwch gip ar eich hawliau cyfreithiol isod i gael rhagor o wybodaeth.
Er bod y Cronfeydd data’n cael eu rheoli gan CGGC, mae’r wybodaeth yn y Cronfeydd data’n cael ei chadw ar ran holl aelodau TSSW. Rydym yn rheolwyr data ar y cyd ar gyfer y data personol sydd yn y Cronfeydd data.
Rydym wedi ymrwymo i Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth sy’n llywodraethu ein perthynas mewn cysylltiad â’r Cronfeydd data a’r gwasanaethau. Mae pob aelod o TSSW sydd wedi ymrwymo i’r Memorandwm hwn wedi penodi cyswllt sy’n gyfrifol am unrhyw ddata personol sy’n cael ei rannu o dan y Memorandwm, ac am gydymffurfio ag ef.
Dim ond pan fydd cyfraith diogelu data y DU yn caniatáu i ni wneud hynny y byddwn ni’n defnyddio eich data personol. Yn fwyaf cyffredin, rydym yn prosesu eich data personol at y dibenion a ddisgrifir yn yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn, ar sail y rhesymau cyfreithiol canlynol:
O dan rai amgylchiadau, mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:
Os ydych chi’n dymuno arfer unrhyw un o’r hawliau a nodir uchod, cysylltwch â ni.
Does dim angen talu ffi fel arfer
Ni fydd yn rhaid i chi dalu ffi i gael mynediad at eich data personol (nac i arfer unrhyw un o’ch hawliau eraill). Fodd bynnag, mae’n bosibl y byddwn yn codi ffi resymol os tybir bod eich cais yn amlwg yn ddi-sail, yn ailadroddus neu’n ormodol. Neu, gallem wrthod cydymffurfio â’ch cais yn yr amgylchiadau hyn.
Beth fyddwn ni ei angen gennych chi
Mae’n bosibl y bydd angen i ni ofyn am wybodaeth benodol gennych i’n helpu i gadarnhau pwy ydych chi ac i sicrhau bod gennych chi hawl i weld eich data personol (neu i arfer unrhyw rai o’ch hawliau eraill). Mesur diogelwch yw hwn i sicrhau nad yw data personol yn cael ei ddatgelu i unrhyw un nad oes ganddo’r hawl i’w gael. Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn cysylltu â chi i ofyn am ragor o wybodaeth ynghylch eich cais i gyflymu ein hymateb.
Terfyn amser i ymateb
Rydym yn ceisio ymateb i bob cais dilys o fewn mis. O bryd i’w gilydd, gallai gymryd mwy na mis i ni os yw eich cais yn arbennig o gymhleth neu os ydych wedi gwneud nifer o geisiadau. Yn yr achos hwn, byddwn yn eich hysbysu ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi.
Cwynion
Mae gennych chi’r hawl i gwyno unrhyw bryd wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), awdurdod goruchwylio’r DU ar gyfer materion sy’n ymwneud â diogelu data (www.ico.org.uk). Fodd bynnag, byddem yn gwerthfawrogi’r cyfle i ddelio â’r hyn sy’n eich poeni cyn i chi gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd, felly cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.
Gobeithio bod yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn wedi bod yn ddefnyddiol o ran sut rydym yn defnyddio data personol a’ch hawliau mewn perthynas â data personol o’r fath. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau cysylltwch â ni:
Atodiad 1 – Defnyddio eich data personol
Rydym wedi grwpio’r data personol a ddefnyddiwn gyda’i gilydd fel a ganlyn:
Rydym hefyd yn casglu, yn defnyddio ac yn rhannu Data Cyfunol fel data ystadegol neu ddemograffig at unrhyw ddiben. Gall Data Cyfunol ddeillio o’ch data personol, ond nid yw’n cael ei ystyried yn ddata personol yn gyfreithiol gan na fydd y data hwn yn datgelu pwy ydych chi’n uniongyrchol nac yn anuniongyrchol. Fodd bynnag, os byddwn yn cyfuno neu’n cysylltu Data Cyfunol â data personol er mwyn iddo allu adnabod unigolyn yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, byddwn yn trin y data cyfunol fel data personol. Byddai hwn yn cael ei ddefnyddio yn unol â’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn.
Dibenion defnyddio eich data personol – pob llwyfan a gwasanaeth (Gwirfoddoli Cymru, Hwb Gwybodaeth, CRM, Cyllido Cymru ac infoengine)
Rydym wedi rhoi disgrifiad isod o’r holl ffyrdd y gallwn ddefnyddio eich data personol.
| Diben/Gweithgaredd | Math o ddata |
| Eich cofrestru chi fel defnyddiwr, gwirfoddolwr neu eich cyfrif | (a) Adnabod (b) Cyswllt |
| Crynhoi eich data personol at ddibenion gwerthuso ac adroddiadau dadansoddeg | (a) Adnabod (b) Sensitif (c) Cyswllt |
| Prosesu a rheoli taliadau | (a) Adnabod (b) Cyswllt |
| Rheoli ein perthynas â chi a fydd yn cynnwys: (a) Rhoi gwybod i chi am newidiadau i’n telerau (b) Gofyn i chi roi adolygiad neu gymryd rhan mewn arolwg (c) Darparu ar gyfer unrhyw ofynion penodol a allai fod gennych | (a) Adnabod (b) Sensitif (c) Cyswllt |
| Gweinyddu a diogelu ein busnes, ein gwefannau a’r systemau rydym yn eu defnyddio i ddarparu ein gwasanaethau i chi (gan gynnwys datrys problemau, dadansoddi data, profi, cynnal a chadw systemau, cefnogi, adrodd a lletya data) | (a) Adnabod (b) Cyswllt (c) Technegol |
| Darparu cynnwys perthnasol ar y wefan i chi | (a) Adnabod (b) Cyswllt (d) Defnydd (e) Technegol |
| Defnyddio dadansoddeg data i wella ein gwefan, ein gwasanaethau, ein marchnata, ein cysylltiadau â chleientiaid a phrofiadau | (a) Technegol (b) Defnydd |
| Gwneud awgrymiadau ac argymhellion i chi am wasanaethau a allai fod o ddiddordeb i chi | (a) Adnabod (b) Cyswllt (c) Technegol (d) Defnydd |
| Prosesu a rheoli’r cynlluniau aelodaeth sydd gennych gydag unrhyw un o aelodau TSSW | (a) Adnabod (b) Cyswllt |
| Creu astudiaethau achos | (a) Adnabod (b) Cyswllt |
Is-broseswyr a benodwyd
| Pwrpas prosesu | Is-broseswyr a benodwyd |
| Lletya darparwyr | SalesForce Third Eye Vision (3EV) Ipswich Software Limited |
Gwasanaethau a llwyfannau penodol
Yn ogystal â’r tabl uchod, mae’r pyrth a’r gwasanaethau canlynol yn defnyddio gwybodaeth bersonol, naill ai gennych chi neu o’r Gronfa Ddata, i ddarparu eu gwasanaethau i chi, neu ar gyfer eu gofynion unigol eu hunain:
Mae rhagor o wybodaeth am bob llwyfan a gwasanaeth ar gael isod.
Caiff gwybodaeth bersonol ei phrosesu pan fyddwch yn gwneud ymholiad gyda ni (Rhyngweithio) at ddibenion cofnodi’r rhyngweithio ac at ddibenion adrodd. Os ydych chi’n archebu lle mewn digwyddiad, yna bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio i reoli’r digwyddiad ac at ddibenion adrodd.
Mae gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu pan fyddwch yn defnyddio gwefan infoengine i greu cofnod. Bydd hefyd angen cyfeiriad e-bost i greu rhestr fer fel y gallwn ni anfon diweddariadau i’ch rhestr fer atoch chi. Rhaid i ni gadw’r wybodaeth hon er mwyn darparu’r gwasanaeth diweddariadau hwn.
Os ydych chi’n penderfynu nad ydych chi eisiau cael diweddariadau i’ch rhestr fer mwyach, cysylltwch ag [email protected] neu ysgrifennwch at: infoengine, PAVO, Uned 30, Ystad Ddiwydiannol Heol Ddole, Llandrindod, Powys, LD1 6DF, a byddwn yn tynnu eich manylion cyswllt oddi ar y system.