Rydym wrth ein boddau fod gwirfoddolwyr am gymryd rhan yn y mudiad hwn, ac rydym yn ceisio sicrhau bod y profiad gwirfoddoli yn un pleserus a gwerth chweil. Rydym yn ceisio gwneud pethau’n iawn, ond o bryd i’w gilydd, rydym yn cymryd cam gwag wrth gwrdd â disgwyliadau ein gwirfoddolwyr. Rydym felly’n croesawu sylwadau ar sut byddai modd gwella’r profiad o wirfoddoli gyda ni. Fodd bynnag, os nad yw mater yn cael ei ddatrys i’ch boddhad mae gennych chi hawl i wneud cwyn. Nid yw gwneud cwyn yn eich atal rhag parhau yn wirfoddolwr gyda’r mudiad hwn.