Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cydnabod gwerth gwirfoddoli am resymau iechyd, budd cymdeithasol ac fel ffordd o ddatblygu sgiliau a phrofiad.
Nod y canllaw hwn yw rhoi trosolwg o’r hyn y gallai fod angen i chi ei wybod, ac mae’n darparu atebion i rai o’r cwestiynau a allai fod gan fudiadau a gwirfoddolwyr.