Gwerth gwirfoddoli: sut i fesur effaith economaidd a gwerth cymdeithasol
Mae’r dudalen wybodaeth hon yn esbonio arwyddocâd a gwerth amlochrog gwirfoddoli, gan archwilio sut mae’n cyfrannu at gymunedau, yr amgylchedd a’r economi.
Mae deall sut i fesur yr effaith hon yn bwysig i ddangos y gwir fudd sydd ynghlwm wrth wirfoddoli, i gefnogi recriwtio gwirfoddolwyr a boddhad gwirfoddolwyr, ac i gryfhau ceisiadau am gyllid. Trwy roi cyfrif am y costau ariannol a’r manteision cymdeithasol, gall mudiadau fynegi’n well y rôl hanfodol y mae gwirfoddolwyr yn ei chwarae wrth alluogi mudiad neu brosiect i gyflawni ei amcanion.
Ar y dudalen hon
- Beth yw gwir ‘werth gwirfoddoli’?
- Beth yw effaith economaidd gwirfoddoli yn y DU?
- Dangos effaith cyfranogiad gwirfoddolwyr
- Cyfrifo cost gwirfoddoli
- Gwerth economaidd gwirfoddoli
- Gwerth cymdeithasol gwirfoddoli
- Rhoi cyfrif am amser gwirfoddolwyr
- Rhagor o wybodaeth
Beth yw gwir werth gwirfoddoli?
Mae’r cyfraniad y mae gwirfoddoli yn ei wneud at gymdeithas yn ymestyn ymhell y tu hwnt i ffigurau ariannol syml. Mae’n adeiladu cyfalaf cymdeithasol, yn meithrin cynhwysiant, ac yn cefnogi cymunedau a’r amgylchedd. Er mwyn deall yr holl werth y mae’n ei roi, dylid ystyried y canlynol,
- Y mewnbwn: Yr amser a roddir a’r ymdrech a wneir gan wirfoddolwyr.
- Yr allbwn cymdeithasol: Y newidiadau uniongyrchol a wneir yn y gymuned, i fuddiolwyr neu’r amgylchedd
- Y budd personol: Gwelliannau i les gwirfoddolwyr a rhagolygon ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol.
Er mwyn helpu i ddod â hyn yn fyw o fewn cyd-destun iechyd a gofal cymdeithasol, efallai yr hoffech edrych ar bapur Comisiwn Bevan ar werthoedd a gwerth gwirfoddoli
Beth yw effaith economaidd gwirfoddoli yn y DU?
Er ei bod yn anodd nodi pob budd, mae ymchwil o 2022 yn tynnu sylw at raddfa enfawr y sector. Roedd gwirfoddoli a rhoddion gyda’i gilydd gwerth £23 biliwn, gan gynrychioli 0.8% o gyfanswm cynnyrch domestig gros y DU. I roi hyn mewn persbectif, roedd y cyfraniad hwn yn fwy na’r sectorau chwaraeon a gamblo gyda’i gilydd (£18.4bn). Mae’r adroddiad llawn ar gael yma.
Yng nghyd-destun Cymru, ceir ymchwil sy’n edrych ar gyfraniad mudiadau gwirfoddol i’r agenda atal iechyd a gofal.
Dangos effaith cyfranogiad gwirfoddolwyr
Mae gallu dangos effaith cyfranogiad gwirfoddolwyr yn werthfawr at sawl diben. Mae’n hynod fuddiol ar gyfer ceisiadau am gyllid, ac wrth recriwtio staff, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr newydd, a all fod yn ceisio deall y gwahaniaeth a wneir gan fudiad y maen nhw’n bwriadu rhoi eu hamser iddo. Gall defnyddio cymysgedd o rifau a straeon alluogi mudiadau i ddangos ehangder a dyfnder yr effaith a geir.
Cyfeirir at y ddwy ffordd hyn o gasglu data yn aml fel;
- Meintiol (rhifiadol): Cyfrifo gwerth economaidd a data ‘cyfrifadwy’ i fodloni gofynion cyllido h.y. nifer y gwirfoddolwyr, nifer yr oriau a wirfoddolwyd
- Ansoddol (disgrifiadol): Defnyddio astudiaethau achos a thystebau gan wirfoddolwyr, defnyddwyr gwasanaeth neu staff i ddangos ‘ochr ddynol’ yr effaith h.y. y gwahaniaeth a wnaeth gwirfoddoli i unigolyn neu achos penodol
Cyfrifo cost gwirfoddoli
Er bod gwirfoddolwyr yn rhoi o’u hamser am ddim, mae yna gostau ynghlwm wrth eu cynnwys. Mae cost gwirfoddoli yn amrywio yn dibynnu ar y math o fudiad dan sylw a’i faint, ffurfioldeb neu anffurfioldeb gwirfoddoli a natur y rolau yr ymgymerir â nhw. Wrth gyfrifo’r gost, cofiwch roi cyfrif am y canlynol:
- Cynllunio a rheoli: y buddsoddiad a wneir i gynllunio ar gyfer gwirfoddolwyr, datblygu staff, gorbenion parhaus ar gyfer diogelwch gwirfoddolwyr, offer ar gyfer gwirfoddolwyr, costau yswiriant a gweithgareddau rheoli gwirfoddolwyr. Gallai hyn hefyd gynnwys safonau ansawdd fel Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr
- Recriwtio gwirfoddolwyr: costau prosesau recriwtio a fydd yn cynnwys amser staff, costau sy’n gysylltiedig â gwiriadau cyn gwirfoddoli a hyfforddiant cynefino
- Cynhwysiant gwirfoddolwyr: costau sy’n gysylltiedig ag addasiadau rhesymol
- Dulliau o gadw gwirfoddolwyr a sicrhau eu boddhad: treuliau gwirfoddolwyr, hyfforddiant, datblygu, cymorth, amser goruchwylio a gweithgareddau dathlu
Mesur gwerth economaidd gwirfoddoli
Mae gwerth cymdeithasol yn ffordd o ddeall gwerth go iawn y newidiadau sy’n digwydd ym mywydau pobl. Tra bod gwerth economaidd yn canolbwyntio ar arian, mae gwerth cymdeithasol yn canolbwyntio ar bobl, lles, a gwydnwch cymunedol.
Mae’r Trydydd Sector yng Nghymru yn cynhyrchu llawer iawn o werth cymdeithasol. Trwy ei fesur, gallwn ddangos yn falch sut mae gwirfoddolwyr yn creu newid ystyrlon ac yn cynhyrchu arbedion ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus trwy leihau’r galw—er enghraifft, trwy wella iechyd meddwl neu helpu’r henoed i aros yn annibynnol.
Pam mae’n bwysig yng Nghymru
Yng Nghymru, mae gennym gyfle unigryw i gael ein cydnabod am yr effaith hon. Mae ein gwaith yn cefnogi’n uniongyrchol ddau ddarn allweddol o ddeddfwriaeth:
- Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru): Profi sut mae gwirfoddoli yn cyfrannu at Gymru fwy gwydn, iachach a mwy cyfartal.
- Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru): Tynnu sylw at y rôl hanfodol y mae’r sector gwirfoddol yn ei chwarae mewn gofal ataliol a chymorth cymunedol.
Sut i nodi gwerth cymdeithasol
Oherwydd bod gwerth cymdeithasol yn ymwneud â “newid”, mae’n cael ei nodi orau trwy edrych ar ganlyniadau gwirfoddoli, yn hytrach na dim ond nifer yr oriau:
- Ar gyfer y gwirfoddolwr: Gwell hyder, llai o ynysu, neu sgiliau newydd.
- Ar gyfer y buddiolwr: Gwell canlyniadau iechyd, mwy o ddiogelwch, neu well mynediad at wasanaethau.
- Ar gyfer y mudiad: Cyrhaeddiad ehangach a’r gallu i gynnig cymorth arbenigol na fyddai’n bosibl trwy staff cyflogedig yn unig.
Trwy symud y ffocws o ‘beth mae gwirfoddolwyr yn ei wneud’ i ‘beth sy’n newid oherwydd eu bod yn ei wneud’, gallwch chi adrodd stori llawer mwy pwerus i’ch rhanddeiliaid a’ch cyllidwyr.
Methodoleg gyffredin: Enillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (SROI)
Yr offeryn mwyaf cyffredin ar gyfer mesur gwerth cymdeithasol yw SROI. Mae’r fethodoleg hon yn trosi canlyniadau cymdeithasol ac amgylcheddol yn gymhareb ariannol. Er enghraifft, mae SROI o £3:£1 yn golygu bod £3 o werth cymdeithasol yn cael ei greu am bob £1 a fuddsoddir mewn prosiect gwirfoddoli.

Mesur gwerth economaidd gwirfoddoli
Gofynnir i fudiadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr ddarparu manylion am werth economaidd gwirfoddoli i gael cyllid ac at ddibenion monitro neu i ddangos arbedion, gwerth ychwanegol ac effaith.
Bydd gofyn i fudiadau sy’n contractio i ddarparu gwasanaethau gyfrifo gwerth economaidd gwirfoddoli a bydd rhai cyllidwyr yn gofyn am ddadansoddiad o amser gwirfoddolwyr fel ased ariannol.
Mae arfer da wrth reoli gwirfoddolwyr yn ei gwneud yn glir bod gwirfoddolwyr yn wahanol i staff a bod yr amser maen nhw’n ei roi yn wahanol.
Byddai’n ddefnyddiol i chi ddarllen Dogfen CGGC-TUC i gael eich arwain gan yr egwyddorion yn y siarter.
Mae rhai ceisiadau am gyllid yn ei gwneud yn ofynnol i fesur gwerth gwirfoddoli. Dylai’r canllawiau isod eich helpu i wneud hyn.
Rhoi cyfrif am amser gwirfoddolwyr
Mae cyfrifo’r gwerth sydd ynghlwm wrth amser gwirfoddoli yn caniatáu i chi ddangos yr Enillion ar Fuddsoddiad (ROI) ar gyfer eich prosiect. Trwy gymharu’r oriau sydd wedi’u cyfrannu â chost wirioneddol rheoli’r rhaglen, gallwch chi ddeall y gwerth penodol a gynhyrchir am bob £1 a fuddsoddir yn eich prosiect gwirfoddoli.
Dewis dull cyfrifo
Oherwydd bod rolau gwirfoddolwyr yn amrywio’n sylweddol, gall pennu un gyfradd yr awr fod yn heriol. Erbyn hyn, mae llawer o gyllidwyr yn annog prosiectau i edrych ar amser gwirfoddolwyr fel ased ariannol, gan bennu cyfradd fesul awr i dasgau wrth wneud cais am gyllid.
Er mwyn sicrhau bod eich mudiad yn parhau i fod yn dryloyw ac yn gyson, dylech ddewis un broses i’w dilyn ar gyfer eich holl fesuriadau:
- Cyfraddau sy’n benodol i rôl: Defnyddiwch raddfa gyflog y Cyd-gyngor Cenedlaethol i baru tasgau gwirfoddoli i gyfradd yr awr ar gyfer rôl broffesiynol ‘debyg’.
- Cyfartaleddau rhanbarthol: Cymhwyswch enillion canolrifol gros yr awr ar gyfer Cymru (neu eich rhanbarth penodol) ar draws eich holl sylfaen gwirfoddolwyr. Sylwch fod y cyfraddau hyn yn aml yn amrywio yn ôl rhanbarth, felly efallai y bydd yn ddefnyddiol adolygu’r ‘canolrifau rhanbarthol’ penodol a ddarperir ar gyfer eich ardal leol. Stats Cymru
- Isafsymiau safonol: Defnyddiwch yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw ar gyfer yr holl oriau gwirfoddoli i ddarparu amcangyfrif clir, ceidwadol.
Pa feincnod bynnag rydych chi’n ei ddewis, mae’n bwysig ei gymhwyso’n gyson ac yn dryloyw. Mae hyn yn eich galluogi i ddarparu darlun clir, gonest o’r gwerth y mae eich tîm yn ei greu, gan ei gwneud hi’n haws rhannu’r effaith rydych chi’n ei chael â chyllidwyr a’r gymuned ehangach.
Wyddoch chi?
Ar hyn o bryd mae gwahanol gyllidwyr yn gwneud ceisiadau gwahanol o ran sut maent yn disgwyl i fudiad gyflwyno gwerth gwirfoddoli. Mae rhai yn mynnu bod gwerth ariannol yn cael ei roi, ac mae rhai yn derbyn amser gwirfoddolwyr fel arian cyfatebol. Mae’n allweddol darllen canllawiau’r cyllidwr yn ofalus.
Angen rhywfaint o gymorth?
Gwybodaeth Bellach
Mae Gwerth Cymdeithasol Cymru, sy’n rhan o Gyngor Gwirfoddol Sirol Mantell Gwynedd, yn darparu gwasanaethau cynghori, ymgynghori a chymorth gwerth cymdeithasol i fudiadau’r trydydd sector ledled Gwynedd a thu hwnt.