Adeiladu diwylliant o wirfaddoli: Pecyn cymorth

Datblygwyd y pecyn cymorth hwn drwy brosiect dan arweiniad Mind Casnewydd (Mind yng Ngwent bellach) a archwiliodd sut y gellir rhoi gwirfoddolwyr wrth wraidd dylunio, darparu a gwneud penderfyniadau gwasanaethau.

Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i weinyddu gan CGGC drwy Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru (VWSG), gweithiodd y prosiect gyda gwirfoddolwyr ifanc ledled Gwent i gryfhau llywodraethu gwirfoddolwyr, datblygu dulliau cefnogi cyfoedion, creu cyfleoedd dilyniant i wirfoddolwyr, a rhannu dysgu gyda’r sector gwirfoddol ehangach.

Wedi’i ddatblygu trwy gymunedau ymarfer sy’n cynnwys mudliadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr, gwirfoddolwyr a phobl ifanc, mae’r pecyn cymorth hwn yn darparu fframwaith ymarferol ar gyfer adeiladu diwylliant gwirfoddoli sydd wedi’i wreiddio.

Mae’n cynnwys offeryn hunanasesu, canllawiau ac enghreifftiau o arfer da sy’n cwmpasu meysydd fel llais gwirfoddolwyr, cyfathrebu, hyblygrwydd, pwrpas, cysylltiad a gwerthfawrogiad.

Wrth greu’r pecyn cymorth hunanasesu hwn, roedd y cysyniad o ddiwylliant yn thema gyffredin yn drafodaethau gyda gweithwyr proffesiynol a phobl ifanc. Roedd y cysyniad o wirfoddoli wedi gwreiddio yng nghalon y mudiad lle mae’n digwydd yn ymddangos yn ganolog i’n syniadau ar y ffordd orau o weithio gyda gwirfoddolwyr.

I ddechrau, fe wnaethom ni gynnwys hyn fel ystyriaeth allweddol o’r offeryn hunanasesu, fodd bynnag, fe sylweddolon ni’n fuan, yn hytrach na bod yn ystyriaeth allweddol, mai adeiladu’r diwylliant gwirfoddoli hwn oedd y ddelfryd yr oeddem i gyd yn gweithio tuag ato.

Efallai y byddwch yn gweld bod rhai awgrymiadau yn y ddogfen hon yn cwmpasu llawer o egwyddorion gwirfoddoli. Y peth gwych am weithio i ddod o hyd i ffyrdd o sicrhau bod eich gwirfoddolwyr yn cael profiad cadarnhaol o wirfoddoli yn eich mudiad yw y bydd yn aml fanteision annisgwyl.

Mae hyn yn golygu, trwy weithredu dim ond ychydig o syniadau o’r pecyn cymorth hwn, y gallech weld llawer mwy o
welliannau ym mhrofiad eich gwirfoddolwyr na dim ond y rhai yr oeddech yn bwriadu eu cyflawni.

Lawrlwytho adnoddau