Parod ar gyfer grantiau rhestr wirio
Mae llawer o resymau pam y gall grant gael ei wrthod, ac ymhlith y rhai mwyaf cyffredin yw cymhwysedd mudiad neu fethu â bodloni meini prawf y grant.
Mae’r rhestr wirio syml hon wedi’i chynllunio i’ch helpu i wirio’ch cais a sicrhau eich bod wedi cynnwys yr wybodaeth y gofynnwyd amdani a’ch bod wedi rhoi disgrifiad clir o’ch gwaith. Isod mae rhai o’r pethau cyffredin sy’n cael eu hepgor mewn ceisiadau a all olygu bod eich gwaith caled yn mynd i’r bin.
Cofiwch bob amser mai dim ond un fath o ffynhonnell gyllid yw grantiau; er eu bod yn dda ar gyfer cyllido cynlluniau peilot a phrosiectau penodol, mae’n anoddach eu sicrhau ar gyfer costau sefydliadol craidd. Mae’n werth mynd ar drywydd ffynonellau eraill, fel rhoddion, codi arian cymunedol, incwm wedi’i hunan-gynhyrchu a nawdd corfforaethol hefyd.
| 0 | Cyn gwneud cais – a oes trefn ar bethau? | Wedi’i gyflawni | Nodiadau |
| A yw ffurflenni blynyddol wedi’u cyflwyno i’r awdurdodau perthnasol – e.e. y Comisiwn Elusennau/Tŷ’r Cwmnïau? | |||
| A yw manylion ymddiriedolwr/cyfarwyddwr yn gywir? | |||
| Ydy eich cyfrifon wedi’u cyflwyno? | |||
| A oes gan eich mudiad bolisïau/gweithdrefnau perthnasol ar waith? E.e. Diogelu, Y Gymraeg, Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. | |||
| A oes unrhyw gyhoeddusrwydd niweidiol wedi bod am yr Elusen? | |||
| Os ‘oes’ yw’r ateb i’r uchod, peidiwch ag anwybyddu’r ffaith – dywedwch wrth y cyllidwr y rheswm am hyn – peidiwch â gadael iddyn nhw ddarganfod nad yw rhywbeth wedi’i gyflawni | |||
| 1 | Cymhwysedd | ||
| Ydych chi wedi cadarnhau bod eich mudiad yn gymwys i wneud cais? Bydd rhai ond yn cyllido mudiadau nad ydynt yn elusennau, neu bydd ganddynt gyfyngiadau incwm/rhanbarthol ac ati | |||
| A yw’ch dogfen llywodraethu yn rhoi’r pwerau i chi gyflawni’r hyn yr ydych chi’n gwneud cais amdano? | |||
| A oes cyfyngiadau ar ba mor aml y gallwch chi wneud cais i’r cyllidwr? Mae gan lawer o gyllidwyr derfyn amser ac ni allwch ailymgeisio o fewn y terfyn amser hwnnw | |||
| A yw’ch Dogfen Llywodraethu yn caniatáu i chi wneud cais am gyllid? Gall fod cyfyngiadau ar rai mudiadau o ran pwy y gallant wneud cais iddo e.e.: Eglwysi yn peidio â gwneud cais am gyllid y Loteri | |||
| Ydy gwybodaeth gyswllt y cyllidwr ar gael? Ydych chi wedi cysylltu i sôn wrthynt am eich syniad, er mwyn sicrhau ei fod o ddiddordeb iddynt? | |||
| 2 | Meini prawf | ||
| A yw’ch prosiect/mudiad yn cyd-fynd â diben y grant yr ydych chi’n gwneud cais amdano? A hefyd yn cyd-fynd â’ch nodau’ch hun? | |||
| Ydych chi wedi gwirio’r meini prawf diweddaraf ar gyfer yr ariannwr? Gallant newid eu meini prawf heb rybudd. | |||
| Ydych chi wedi gwirio am unrhyw eithriadau? Er enghraifft, efallai eu bod yn cyllido prosiectau cyfalaf (e.e. adeiladau a gwrthrychau ffisegol) yn unig, neu eu bod ond yn cyllido costau refeniw (e.e. costau staffio neu weithgareddau). | |||
| 3 | Disgrifiad o’r prosiect | ||
| A yw nodau ac amcanion y prosiect yn glir ac yn realistig? | |||
| Ydych chi wedi rhoi disgrifiad clir a thryloyw o ran yr hyn yr ydych chi eisiau ei wneud a sut y byddwch chi’n gwario’r arian? | |||
| Ydych chi wedi osgoi jargon ac iaith dechnegol? | |||
| Ydych chi wedi’i gwneud yn glir pwy fydd yn elwa ar hyn a sut; gan gynnwys faint o bobl? | |||
| A yw’r cais yn creu ymdeimlad o frys? | |||
| 4 | Dangos Angen | ||
| Ydy’r prosiect yn dangos sut mae o fantais i bobl – nid dim ond y mudiad? | |||
| Ydych chi wedi dangos yr angen gan y gymuned a’u hymgysylltu â’r broses gynllunio – tystiolaeth o arolwg, grwpiau defnyddwyr, ymgynghori er enghraifft? | |||
| A yw’r prosiect yn ymdrin yn glir â’r angen yr ydych chi wedi’i amlygu? | |||
| Oes gennych ystadegau a ffeithiau caled i gefnogi unrhyw honiadau? Er enghraifft, Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, data’r Cyfrifiad, Asesiad o Anghenion Iechyd | |||
| Allwch chi ddangos sut mae’r prosiect yn cyd-fynd â mentrau a strategaethau lleol eraill ac yn osgoi dyblygu? | |||
| 5 | Cynllunio | ||
| A yw’r prosiect yn cyd-fynd â gwaith arall y mudiad yn ychwanegu gwerth at yr hyn yr ydych chi eisoes yn ei gyflawni? | |||
| Pwy fydd yn rheoli ac yn cyflawni’r prosiect? | |||
| Mae grantiau fel arfer yn cymryd 3 mis neu fwy i’w dyfarnu; sicrhewch fod digon o amser i gael y grant cyn bod angen i chi wario’r arian. Nid yw cyllidwyr yn hoffi grantiau ôl-weithredol | |||
| Ydych chi wedi nodi sut y bydd y prosiect yn parhau unwaith y bydd y grant yn dod i ben? | |||
| 6 | Gwerthusiadau | ||
| Ydych chi wedi disgrifio’n glir sut y byddwch chi’n mesur y newid y mae’r prosiect yn ei wneud? Pa ddulliau fydd yn cael eu defnyddio a sut y bydd canfyddiadau’n cael eu hadrodd arnynt? | |||
| Sut byddwch chi’n defnyddio’r hyn yr ydych chi wedi’i ddysgu o’r gwerthusiad i wella gwasanaethau yn y dyfodol? | |||
| 7 | Cyflwyniad | ||
| Ydych chi wedi cael rhywun i brawfddarllen y cais am gywirdeb gan sicrhau ei fod yn gwneud synnwyr i rywun o’r tu allan i’r mudiad? | |||
| A yw’r cais yn edrych yn apelgar? Ydych chi wedi cynnwys delweddau (lle y caniateir hynny) a lliw; cofiwch nad oes rhaid i chi gyflwyno’ch apêl fel llythyr bob amser. | |||
| A yw’r cais yn dilyn canllawiau’r cyllidwyr o ran hyd a chynnwys? | |||
| 8 | Ffurflenni Cais | ||
| A oes gan yr ariannwr ffurflen gais benodol; ydych chi wedi defnyddio’r un gywir? | |||
| Ydych chi wedi ateb pob cwestiwn (Oni bai eu bod yn ddewisol)? Darllenwch y canllawiau ar gyfer awgrymiadau ar ba wybodaeth maen nhw eisiau i’ch ateb ei chynnwys. Mae gan lawer o gwestiynau is-gwestiynau y dylech ymdrin â nhw. | |||
| Ydych chi wedi cadw at eu terfynau geiriau? Defnyddiwch y canllawiau terfyn geiriau ar faint o wybodaeth yr ydych chi’n ei rhoi. E.e. mae ateb 500 gair yn annhebygol o sgorio’n dda os ydych chi’n ysgrifennu cwta 50 gair; bydd yn brin o’r manylion maen nhw’n chwilio amdanynt. | |||
| Ydych chi wedi atodi unrhyw ffurflenni neu ddogfennau ychwanegol y maent yn gofyn amdanynt? | |||
| 9 | Amseriad | ||
| Ydych chi’n cyflwyno mewn pryd i gyrraedd y dyddiad cau? | |||
| A oes angen i’r prosiect ddechrau cyn y byddai grant yn cael ei dalu (mae gan y mwyafrif amserlen 3 mis o leiaf) | |||
| 10 | Costau/Cyllid | ||
| Ydych chi wedi gosod cyllideb glir, ac a yw’n adio’n gywir? | |||
| A yw’r costau yn realistig ac a allwch chi eu cyfiawnhau / cael dyfynbrisiau ar gyfer eitemau o wariant mawr? | |||
| A yw’r prosiect yn cynrychioli gwerth da am arian? Er enghraifft, allwch chi roi cost / buddiolwr? | |||
| Allwch chi gyflawni am y swm o arian y gofynnwyd amdano? ac a yw’r holl gostau/gorbenion (e.e. costau rheoli neu sefydliadol y mae eu hangen arnoch i gynnal y prosiect) wedi’u cynnwys (lle y caniateir hynny)? | |||
| Ydych chi wedi gallu darparu unrhyw arian cyfatebol neu wedi cael cyfraniad amser gan wirfoddolwyr | |||
| Os oes gan eich mudiad swm mawr mewn cronfeydd wrth gefn (er enghraifft dros 12 mis o gostau cynnal), esboniwch pam. Peidiwch ag osgoi esbonio gan yn aml, y gall hwn fod yn rheswm dros wrthod |
Cwpl o awgrymiadau olaf:
Ewch ar wefan y Comisiwn Elusennau i ddysgu am yr Ymddiriedolaeth yr ydych chi’n gwneud cais iddi, edrychwch ar eu cyfrifon i weld pwy maen nhw’n eu cyllido, a maint y grantiau a ddyfarnwyd yn y gorffennol.
Ystyriwch beth sy’n gwneud eich cais chi yn fwy teilwng nag un gan fudiad tebyg.