Sported – Adroddiad datrysiadau

Nod Prosiect Gwirfoddoli Strategol Cymru, sy’n cael ei gyl­lido gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), yw gwella gallu ac effaith gwirfoddoli ar lefel bwrdd, ymddiriedolwr a rheolaeth ar gyfer grwpiau cymunedol ledled Cymru sy’n darparu chwaraeon a gweithgared­dau corfforol.

Mae’n cynnwys dau gam: yn gyntaf, deall ac adrodd ar y tirlun gwirfoddoli ar y lefel hon o fewn grw­piau cymunedol yng Nghymru, ac, yn ail, darparu cyfres o argymhellion i randdeiliaid o fewn y sector ar y ffordd orau o sicrhau cynnydd o’r fath mewn gallu ac effaith.

Drwy wneud hynny, mae’r prosiect yn ceisio cysylltu â, a chefnogi, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodra­eth Cymru. Yn benodol, mae’r prosiect yn canolbwyntio ar sgiliau a datblygiad gwirfoddolwyr (Cymru lewyrchus), sector gwirfoddoli cynhwysol a hygyrch (Cymru fwy cyfar­tal), a chymuned wirfoddol sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod cymunedau lleol yn ogystal â chymryd rhan mewn chwar­aeon a hamdden (Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu).

Mae’r adroddiad hwn yn manylu ar ganfyddiadau cam dau o’r prosiect, gan ddarparu datrysiadau ymarferol a chynaliadwy i’r heriau sy’n wynebu gwirfoddoli ar lefel bwrdd, ymddiriedolwr a rheolaeth o fewn chwaraeon
cymunedol yng Nghymru.

Mae’r datrysiadau hyn yn seiliedig ar ymchwil gadarn a gynhaliwyd gyda grwpiau cymunedol a rhanddeiliaid strategol ar draws y sector gwirfoddol yn ystod cam cyntaf y WSVP.

Mae’r adroddiad wedi’i strwythuro ar sail pum maes allweddol gwirfoddoli: Recriwtio, uwchsgilio, gwobrwyo a chydnabod, effeithlonrwydd ac arloesi a grymuso llwybrau i bobl ifanc a grwpiau ar y cyrion. Mae’r datrysiadau a amlinellir ym mhob maes wedi cael eu dadansoddi yn ôl eu perthnasedd tebygol i’r lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol fel bod y mudiadau sy’n gweithredu ar y lefelau gwahanol hynny’n gallu gweithredu’r argymhellion yn haws.

Lawrlwytho adnoddau