Sported – Adroddiadau ymchwil

Nod Prosiect Gwirfoddoli Strategol Cymru, sy’n cael ei gyl­lido gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA), yw gwella gallu ac effaith gwirfoddoli ar lefel bwrdd, ymddiriedolwr a rheolaeth ar gyfer grwpiau cymunedol ledled Cymru sy’n darparu chwaraeon a gweithgared­dau corfforol.

Mae’n cynnwys dau gam: yn gyntaf, deall ac adrodd ar y tirlun gwirfoddoli ar y lefel hon o fewn grw­piau cymunedol yng Nghymru, ac, yn ail, darparu cyfres o argymhellion i randdeiliaid o fewn y sector ar y ffordd orau o sicrhau cynnydd o’r fath mewn gallu ac effaith.

Drwy wneud hynny, mae’r prosiect yn ceisio cysylltu â, a chefnogi, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodra­eth Cymru. Yn benodol, mae’r prosiect yn canolbwyntio ar sgiliau a datblygiad gwirfoddolwyr (Cymru lewyrchus), sector gwirfoddoli cynhwysol a hygyrch (Cymru fwy cyfar­tal), a chymuned wirfoddol sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod cymunedau lleol yn ogystal â chymryd rhan mewn chwar­aeon a hamdden (Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu).

Mae’r adroddiad ymchwil hwn yn cynrychioli canfyddi­adau cam cyntaf y prosiect. Mae’n amlinellu pwy sy’n gwirfoddoli ar lefel bwrdd, ymddiriedolwr a rheolaeth mewn grwpiau cymunedol sy’n darparu chwaraeon a gweithgareddau corfforol yng Nghymru, yr heriau sy’n wynebu gwirfoddolwyr – neu’r rhai sydd eisiau gwirfoddoli – ar y lefel hon, a’r llwybrau i wirfoddoli yn y swyddogae­thau hyn. Mae’n cloi drwy edrych ar yr hyn sy’n gweithio’n dda ar hyn o bryd i ddiwallu anghenion swyddogaethau o’r fath a’r gwirfoddolwyr sy’n eu llenwi. Mae’n seiliedig ar ymchwil sylfaenol gadarn a manwl a gynhaliwyd gyda rhanddeiliaid ar draws y sectorau chwaraeon cymunedol a’r sectorau gwirfoddol ehangach yng Nghymru, gan gyn­rychioli adborth gan y rhai sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r swyddogaethau hanfodol hyn, neu’n eu cefnogi, ar gyfer grwpiau cymunedol ledled y wlad.

Nododd yr ymchwil bedair thema allweddol yn ymwneud â’r tirlun gwirfoddoli ar lefel bwrdd, ymddiriedolwr neu reolaeth a’r grwpiau cymunedol sy’n darparu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru.


Lawrlwytho adnoddau