Cyflwyniad i wirfoddoli

Cartref » Help ac arweiniad » Gwirfoddoli » Cyflwyniad i wirfoddoli
Woman holding box of goods in charity shop

Beth yw gwirfoddoli?

Mae gwirfoddoli yn weithgaredd:

  • A wneir yn wirfoddol, trwy ddewis
  • A wneir er budd y cyhoedd/gymuned
  • Nad yw’n cael ei wneud am elw ariannol

Mae lliaws o wahanol fathau o wirfoddoli sy’n ymdrin â phob math o weithgareddau. I lawer o bobl, mae gwirfoddoli yn golygu ymrwymo amser i fudiad penodol yn rheolaidd (rydyn ni’n galw hyn yn ‘wirfoddoli ffurfiol’). Fodd bynnag, gall cyfleoedd eraill fod yn llai strwythurol, fel cynorthwyo mewn digwyddiad untro, neu roi help heb dâl i unigolion ar lefel gymunedol. Bydd y math o wirfoddoli yn dibynnu ar yr angen sy’n cael sylw. Yn yr adran hon, byddwn ni’n canolbwyntio ar sut gall eich grŵp drefnu cyfleoedd gwirfoddoli ffurfiol i gefnogi gwaith eich mudiad.

Beth all gwirfoddolwyr ei wneud?

Gall gwirfoddolwyr ymgymryd ag amrediad eang o dasgau i helpu eich mudiad. Dyma rai enghreifftiau o’r mathau o weithgareddau y gallai gwirfoddolwyr eu gwneud:

  • Tasgau gweinyddol/swyddfa
  • Arlwyo/caffi
  • Anerchiadau / digwyddiadau / bod yn llysgennad
  • Codi arian
  • Cynnal a chadw/garddio
  • Marchnata
  • Gwerthiannau/archebion ar-lein
  • Derbynfa/gwerthu tocynnau
  • Cyfryngau cymdeithasol
  • Stiwardio
  • Mentora/hyfforddi

Pwy all wirfoddoli?

Gall gwirfoddolwyr fod yn unrhyw oedran a dod o unrhyw gefndir. Gallant fod yn ifanc neu wedi ymddeol, yn astudio neu’n gweithio a chydag ystod o wahanol brofiadau, gwybodaeth a sgiliau y gallant eu cyflwyno i’ch mudiad.

Mae gan bob gwirfoddolwr ei resymau ei hun dros wirfoddoli. Gall y rhesymau hyn gynnwys cefnogi achos sy’n agos at ei galon, cwrdd â phobl eraill, defnyddio’i sgiliau neu brofiad i helpu pobl eraill, neu wneud rhywbeth newydd sbon.

Os yw eich mudiad yn cynnwys gwirfoddolwyr, mae’n arfer gorau i geisio cael gafael ar wirfoddolwyr o bob rhan o’ch cymuned sydd ag amrediad amrywiol o brofiadau a sgiliau. Wrth gynnwys gwirfoddolwyr, caiff mudiadau eu hannog i gynnwys pobl mewn modd rhagweithiol, gan geisio deall sut gall cyfleoedd gwirfoddoli fod mor gynhwysol a hygyrch â phosibl drwy gael gwared â rhwystrau a chynnig cymorth priodol.

Adnoddau eraill

I gael rhagarweiniad ar sut i fynd ati i wneud hyn yn eich mudiad, edrychwch ar ein taflen wybodaeth – Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn Gwirfoddoli.

Adnoddau eraill

Gellir cael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio gwirfoddolwyr yn ein hadran Sut alla i ddod o hyd i wirfoddolwyr?