Cartref » Help ac arweiniad » Diogelu » Hanfodion diogelu

Beth yw diogelu?

Diogelu yw’r term rydyn ni’n ei ddefnyddio i olygu’r gwaith rydyn ni’n ei wneud bob dydd i gadw pobl yn ddiogel ac atal digwyddiadau sy’n ymwneud â niwed, esgeulustod a chamdriniaeth.

Mae diogelu yn ymwneud â chymryd camau ataliol i gadw pobl yn ddiogel, a chael gweithdrefnau priodol ar waith i ymateb i ddigwyddiad ar ôl iddo ddigwydd. Dylai pob grŵp gwirfoddol fod yn meddwl am ddiogelu eu staff, gwirfoddolwyr a’r holl bobl y maen nhw’n dod i gysylltiad â nhw yn eu mudiad. Mae ystyriaethau arbennig yn berthnasol i’r grwpiau hynny sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc a/neu oedolion mewn perygl.

Yn yr adran hon, byddwn ni’n eich tywys drwy’r gofynion diogelu ac yn darparu rhai dolenni defnyddiol at adnoddau a ffynonellau o gymorth.

Mae CGGC hefyd yn darparu gwasanaeth ymholiadau am ddim sy’n cynnig cyngor a gwybodaeth gyfrinachol un i un gan ein Swyddog Diogelu. Gallwch gysylltu â ni drwy anfon e-bost atom yn uniongyrchol

E-bostiwch ni

Mae diogelu yn berthnasol i bob grŵp gwirfoddol

Mae pob mudiad gwirfoddol yn dibynnu ar bobl sy’n dod ynghyd ac yn rhoi o’u hamser i wireddu prosiectau. Er mwyn sicrhau ei fod yn ddiogel i bawb gymryd rhan, dylid cytuno ar nifer o fesurau rhesymol a’u rhoi ar waith. Bydd rhai mesurau’n ataliol, ac eraill yn ymatebol – “beth os yw hyn yn digwydd?” – a gellir ystyried llawer o gamau cyn i chi “agor eich drysau”.

Dylai diogelu fod yn ystyriaeth allweddol wrth redeg eich mudiad a’ch gweithgareddau, ac mae canllawiau ar gael gan Lywodraeth Cymru a’r Comisiwn Elusennau ar hyn;

  • Noda Llywodraeth Cymru fod cyfrifoldeb ar bawb i ddiogelu, sy’n golygu bod gan bob un ohonom ni rôl i’w chwarae, waeth pa mor fach, i gadw pobl yn ddiogel. Mae mudiadau cymunedol a gwirfoddol a grwpiau ffydd, chwaraeon a chymdeithasol yn cynnwys ac yn ymhél â llawer o bobl mewn amgylchiadau anodd ac yn aml yn gwybod mwy amdanyn nhw a’u hanghenion nag asiantaethau mwy ffurfiol. Gwnaeth Llywodraeth Cymru ryddhau cod ymarfer diogelu yn 2022 i gynorthwyo pob mudiad i roi mesurau diogelu ar waith.
  • Mae’r Comisiwn Elusennau hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd diogelu. Yn ôl y Comisiwn, mae gan bob elusen a phob mudiad sy’n gweithredu er budd elusennol rôl mewn diogelu’r holl bobl sy’n dod i gysylltiad â nhw, nid dim ond y rheini a fyddai, yn draddodiadol, yn cael eu hystyried yn bobl mewn perygl. Mae hwn yn fodel defnyddiol i bob mudiad gwirfoddol, yn enwedig y rheini a allai fod yn gobeithio cael statws elusen rhywbryd. Mae’r Comisiwn yn cyflwyno amrywiaeth o ganllawiau i ymddiriedolwyr (a’r rheini sy’n rhedeg mudiadau). Y bobl hyn gyda’i gilydd, sef y rhai sy’n gwneud penderfyniadau dros y mudiad, sy’n atebol am ddiogelu yn y pen draw.

Mae’n bosibl na fydd llawer o fudiadau gwirfoddol yn canolbwyntio’n uniongyrchol ar anghenion pobl; gallech fod yn cefnogi lloches anifeiliaid neu’n ymwneud â’r amgylchedd. Ond, rydych chi’n debygol o fod â gwirfoddolwyr, ac o bosibl staff, ac yn debygol o fod yn ymgysylltu â’r cyhoedd mewn rhyw fodd. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi ystyried diogelu.

Mae cyngor ar ddiogelu ar gael i sefydliadau gwirfoddol drwy’r rhwydwaith o gynghorau gwirfoddol lleol (CVCs).  

Cysylltu

Adnoddau Cysylltiedig

Cyflwyniad i Ddiogelu yn y Sector Gwirfoddol (Cymru)

Mae ein cwrs e-ddysgu am ddim yn rhoi rhagor o wybodaeth am y fframwaith rheoleiddio ac agweddau allweddol ar ddiogelu mewn mudiadau.

Cyflwyniad i Ddiogelu yn y Sector Gwirfoddol (Cymru)

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

Cod Ymarfer Diogelu Llywodraeth Cymru

Y prif ddarn o ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i ddiogelu yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, (‘y Ddeddf’) a ddaeth i rym yn 2016. Mae’r ddeddf hon yn ein cynnwys ni i gyd yn y ddyletswydd llesiant, sy’n cynnwys diogelu pobl rhag camdriniaeth a niwed.

Mae Cod Ymarfer Diogelu Llywodraeth Cymru ar gael yma – Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl

Gweld Deddfwriaeth

I gael adnoddau ynghylch y Ddeddf, gan gynnwys Hanfodion a chanllawiau hawdd eu darllen, ewch i:
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Ceir gwybodaeth am ddiogelu plant ac oedolion yn Rhan 7 y Ddeddf
gydag amrywiaeth o gyfrolau canllaw statudol