Recriwtio ymddiriedolwyr
Ar y dudalen hon
Cynllunio sut i recriwtio ymddiriedolwyr
Recriwtio, dewis ac ymgynefino’r bobl sydd ar eich bwrdd neu bwyllgor rheoli yw un o’r prosesau pwysicaf y gall mudiad gwirfoddol ymgymryd â hi.
Bydd bwrdd cytbwys ac amrywiol yn rhoi cyfeiriad ac yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu’r mudiad.
Cyn i chi recriwtio ymddiriedolwyr newydd, byddai’n syniad da i sicrhau eich bod yn gwybod beth yw eich nodau ar gyfer y broses recriwtio. Dyma rai awgrymiadau:
- Meddyliwch am sgiliau a phrofiadau eich ymddiriedolwyr presennol a nodwch unrhyw fylchau sydd angen i chi eu llenwi.
- Gwiriwch y cyfnod swydd ar gyfer eich ymddiriedolwyr. Gwnewch yn siŵr bod eich ymddiriedolwyr yn gwybod am ba hyd y disgwylir iddyn nhw fod yn rhan o’ch bwrdd.
- Gwiriwch eich dogfen lywodraethu ar gyfer y broses benodi neu ethol ffurfiol.
- Cytunwch ar sut byddwch chi’n penderfynu:
- ai’r ymddiriedolwr newydd yw’r unigolyn gorau
- a yw eich bwrdd yn addas iddo ef neu hi
- a yw’r broses recriwtio yn gofyn am gyfweliad neu gyfarfod â’r cadeirydd
- a ddylai’r rheini â diddordeb ac sy’n edrych yn addawol arsylwi ar gyfarfod bwrdd cyn ymrwymo i’r rôl.
Y broses recriwtio
Mae Reach Volunteering wedi datblygu cylchred recriwtio ymddiriedolwyr (Saesneg yn unig) sy’n adnodd defnyddiol i’ch helpu chi yn eich cynllun i recriwtio ymddiriedolwyr.
Wrth greu’r broses ar gyfer penodi ymddiriedolwyr newydd, bydd angen i chi ddilyn y gofynion yn eich dogfen lywodraethu, ond yn unol â hyn, argymhellir eich bod yn dilyn proses recriwtio agored, gan hysbysebu eich rolau a dewis eich ymddiriedolwyr ar sail eu sgiliau a’u profiad.
Gallwch chi hysbysebu eich rolau ymddiriedolwyr gwag am ddim ar wefan Gwirfoddoli Cymru.
Ffynonellau eraill o gymorth
Mae Getting on Board (Saesneg yn unig) yn elusen recriwtio ac amrywiaeth ymddiriedolwyr. Mae ganddyn nhw amrediad o ganllawiau i helpu gyda recriwtio ymddiriedolwyr.