Statws elusennol
Ar y dudalen hon
Ydyn ni’n mynd i sefydlu elusen?
Mae bod yn elusen yn golygu bod gan fudiad statws penodol. I fod yn elusen, rhaid i’ch grŵp fodloni dau ofyniad cyfreithiol allweddol –
- Rhaid i’ch grŵp weithredu ‘at ddibenion elusennol’ yn unig. Mae’r gyfraith yn nodi 13 diben a ystyrir yn rhai elusennol cyfreithiol The law sets out 13 purposes which are legally considered as being charitable
- Rhaid i’ch grŵp weithredu er budd y cyhoedd. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i weithgareddau eich grŵp fod o fudd i’r cyhoedd neu i gyfran digon mawr o’r cyhoedd. Rhaid bod modd hefyd o adnabod y budd a darparu tystiolaeth ohono
Os ydych chi’n ystyried sefydlu a chofrestru elusen, argymhellwn yn gryf eich bod yn darllen holl ganllawiau’r Comisiwn Elusennau (Saesneg yn unig) cyn dechrau eich cais.
Gallwch hefyd benderfynu sefydlu elusen fechan a’i chofrestru’n ddiweddarach, unwaith y bydd eich incwm yn cyrraedd y trothwy ar gyfer cofrestru elusen (£5,000 y flwyddyn ar hyn o bryd).
Efallai nad yw eich grŵp yn bodloni’r meini prawf ar gyfer dod yn elusen, ond gallwch barhau i weithredu er budd y gymuned mewn ffyrdd eraill.
Mae hwn yn faes manwl a byddwch chi siŵr o fod eisiau help i weithio drwy hwn. Bydd eich cyngor gwirfoddol sirol lleol (CVC) yn gallu eich cynorthwyo a rhoi gwybodaeth a chyngor i chi.
Ffynonellau eraill o wybodaeth
Mae gan y Comisiwn Elusennau ganllawiau amrywiol ar gyfer pobl sy’n ystyried sefydlu elusen:
Ai bod yn elusen yw’r opsiwn cywir (Saesneg yn unig)
Beth sy’n gwneud elusen (Saesneg yn unig)
Cofrestru fel elusen
Os yw eich grŵp yn dymuno elwa ar statws elusennol, mae gofynion ychwanegol o ran y cofrestru y bydd angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt.
Bydd grwpiau sy’n sefydlu eu hunain fel Mudiad Corfforedig Elusennol yn cael ei gofrestru’n awtomatig gyda’r Comisiwn Elusennau (sef y rheoleiddiwr elusennau yng Nghymru a Lloegr) fel rhan o’r broses sefydlu.
Bydd angen i bob elusen arall gofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau:
- os oes gan yr elusen, neu os yw’r elusen yn disgwyl cael, incwm blynyddol o fwy na £5,000
- os nad yw’r elusen wedi’i hesemptio neu’n elusen a eithrir
Mae’r rhestr o elusennau sy’n elwa ar esemptiad neu eithriad yn un eithaf bychan, ond gellir gweld y manylion ar wefan y Comisiwn Elusennau yma:
Elusennau wedi’u hesemptio (Saesneg yn unig)
Elusennau a eithrir (Saesneg yn unig)
O dan y rheolau hyn, efallai y bydd angen i chi gofrestru eich elusen pan gaiff ei sefydlu’n gyntaf, neu’n ddiweddarach os bydd eich grŵp yn cyrraedd y trothwy incwm. Mae’n bwysig nodi, hyd yn oed os na fydd eich elusen yn cael ei chofrestru, bydd yn rhaid i chi barhau i ddilyn y gyfraith elusennau, a cheir rhagor o wybodaeth am hyn yn ein hadran Lywodraethu.
Gall cofrestru elusen fod yn broses anodd a dyrys, ond mae help ar gael gan eich cyngor gwirfoddol sirol lleol.
Ffynonellau eraill o wybodaeth
Canllawiau’r Comisiwn Elusennau ar sut i gofrestru elusen
Fideo am ddim LawWorks ar gofrestru elusen (Saesneg yn unig)