Cartref » Help ac arweiniad » Sefydlu grŵp » Dechrau arni

Dechrau arni

Ar y dudalen hon

Group of smiling people sit around each other

Troi syniad yn weithred

Os ydych chi’n ystyried sefydlu grŵp newydd, y peth cyntaf y dylech chi ei wneud yw ychydig o waith ymchwil cyn i chi ddechrau. Dyma rai cwestiynau allweddol y bydd angen i chi feddwl amdanynt:

  • A oes yna wir angen am eich grŵp ac a oes tystiolaeth i gefnogi hyn?
  • Beth mae pobl eraill eisoes yn ei wneud yn eich ardal leol?
  • Beth sy’n eich cymell i sefydlu eich grŵp?
  • A oes gennych chi’r amser a’r ymrwymiad i sefydlu a rhedeg y grŵp?
  • Sut byddwch chi’n cael pobl eraill i gymryd rhan mewn rhedeg a chefnogi’r grŵp?

Ffynonellau eraill o wybodaeth

NCVO – Penderfynu sefydlu mudiad elusennol newydd (Saesneg yn unig)

Gweld adnodd

Beth yw diben eich grŵp?

Mae’n bwysig iawn eich bod chi’n nodi diben eich grŵp yn glir ar y dechrau. Mae hyn yn bwysig oherwydd bydd diben eich grŵp yn dylanwadu ar y strwythur a ddewisir a’r math o fudiad y gallai ddatblygu i fod, er enghraifft, a allai gael ei alw’n ‘elusen’ neu beidio.

Dylech ddechrau drwy weithio trwy eich syniadau er mwyn sicrhau eich bod wedi nodi diben eich grŵp yn glir. Meddyliwch am y gwahaniaeth y mae eich grŵp yn mynd i’w wneud. Bydd angen i chi fod yn glir ynghylch y canlynol:

  • BETH mae eich grŵp yn mynd i’w wneud
  • BLE ydych chi eisiau ei wneud
  • PWY fydd yn elwa
  • A SUT

Yn ddelfrydol ar y pwynt hwnt, dylech chi nodi hyn ar bapur a llunio cynllun syml sy’n egluro’r hyn rydych chi eisiau ei wneud, pam eich bod eisiau ei wneud a sut byddwch chi’n ei wneud. Bydd yr wybodaeth hon yn llywio eich gwaith a bydd hefyd yn dylanwadu ar y dewisiadau y byddwch chi’n eu gwneud ynghylch strwythur eich grŵp. Unwaith y bydd eich grŵp ar waith, byddem yn argymell eich bod yn datblygu’r cynllun hwn i fod yn ddogfen ehangach, y byddwn ni’n ei galw’n gynllun busnes. Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am hyn yn yr adran Rhedeg eich mudiad.