Rhestr o’r prif dermau
Gall yr iaith a ddefnyddir mewn rheolaeth ariannol fod yn eithaf anodd, oherwydd mae gan lawer o dermau ystyron penodol iawn a gallant fod yn eithaf technegol. Rydyn ni wedi dwyn ynghyd y prif dermau y byddwch chi’n eu gweld yn y canllawiau hyn, a gwybodaeth arall sy’n ymwneud â rheolaeth ariannol, ac wedi rhoi diffiniad syml. Noder bod gan rai o’r termau hyn ystyron penodol iawn a gall ddibynnu ar amgylchiadau penodol, ond diben y diffiniadau a roddir yn yr adran hon yw rhoi cyflwyniad i chi i’r pwnc hwn.
Adennill costau llawn – ffordd o gostio eich gweithgareddau neu brosiect sy’n galluogi mudiadau gwirfoddol i adennill eu gorbenion sefydliadol, a rennir ymhlith eu prosiectau gwahanol.
Arian wrth gefn – arian a roddir o’r neilltu i dalu am gostau eitemau/digwyddiadau posibl na ragwelwyd.
Ased – eitem o werth sy’n eiddo i’r mudiad ac yn cael ei rheoli ganddo.
Ased anniriaethol – ased heb ymddangosiad ffisegol. Ymhlith yr enghreifftiau, mae eiddo deallusol, adnabod brand ac enw da, cydberthnasau ac ewyllys da.
Ased sefydlog – eitem werthfawr o werth parhaus nad yw’n cael ei defnyddio at ddibenion gweithredu mewn un cyfnod cyfrifyddu blynyddol: mae’n cynnwys tir, adeiladau, peiriannau a cherbydau.
Asedau cyfredol – naill ai arian parod neu bethau y gellir eu troi’n arian parod o fewn cyfnod byr o amser, fel buddsoddiadau tymor byr, stociau masnachol a dyledwyr.
Asedau cyfredol net – y gwahaniaeth rhwng asedau cyfredol a rhwymedigaethau cyfredol (edrych ar yr hyn sydd gennych chi ar hyn sydd angen i chi dalu amdano yn y tymor byr). Os yw’r rhwymedigaethau cyfredol yn fwy na’r asedau cyfredol, yn rhwymedigaethau cyfredol net yw hyn.
Asedau diriaethol – asedau ag ymddangosiad ffisegol. Ymhlith yr enghreifftiau mae peiriannau, adeiladau a cherbydau.
Asedau net – y gwahaniaeth rhwng asedau sefydlog a chyfredol (y pethau sy’n eiddo i chi) a chyfanswm y rhwymedigaethau (y pethau sydd angen i chi dalu amdanynt). Os yw’r rhwymedigaethau’n fwy na’r asedau, yna rhwymedigaethau net yw hyn.
Balansau – yr arian sydd wedi cronni o arian dros ben mewn cyfnodau cyfrifyddu dilynol.
Credydwyr – unigolyn neu fudiad y mae arian yn ddyledus iddo ac (yn y fantolen) cyfanswm symiau o’r fath.
Cronfeydd wrth gefn – rydyn ni’n defnyddio’r term cronfeydd wrth gefn i olygu arian sydd gan eich mudiad y gellir ei wario ar unrhyw un o weithgareddau eich mudiad. (Nid yw’r diffiniad yn cynnwys cyllid cyfyngedig – gweler isod). I gyfrifo faint o gronfeydd wrth gefn sydd gennych chi, nodwch gyfanswm cyllid y mudiad a thynnwch unrhyw gyllid cyfyngedig, asedau sefydlog ac arian sydd eisoes wedi’i roi o’r neilltu ar gyfer gweithgareddau yn y dyfodol oddi wrtho.
Cyfalaf gweithio – cyfalaf sydd ar gael o un dydd i’r llall ar gyfer gweithrediad y mudiad. Y cyfalaf yw eich asedau cyfredol minws eich rhwymedigaethau cyfredol.
Cyfnod cyfrifyddu – cyfnod o amser a ddefnyddir i nodi ac adrodd gwybodaeth ariannol. Y cyfnod cyfrifyddu mawr yw’r flwyddyn ariannol 12 mis. Mae cyfnodau cyfrifyddu blynyddol y sector cyhoeddus yn rhedeg o 1 Ebrill i 31 Mawrth, ond gall cyfnod cyfrifyddu blynyddol fod yn unrhyw 12 mis.
Cyfrif incwm a gwariant – datganiad sy’n dangos pa warged neu ddiffyg sydd wedi’i wneud gan fudiad dros gyfnod cyfrifyddu, a sut mae wedi’i gymhwyso. Yn achos cwmnïau masnachol, gelwir hyn yn gyfrif elw a cholled. Yn y cyfrifon blynyddol, bydd hwn yn cael ei gynnwys fel arfer o fewn y datganiad o weithgareddau ariannol.
Cyllid anghyfyngedig – adnoddau yw’r rhain y gellir eu gwario ar unrhyw beth sy’n ychwanegu at ddiben y mudiad.
Cyllid cyfyngedig – cyllid lle mae’r rhoddwyr wedi nodi’n gwmws sut dylai’r adnoddau gael eu defnyddio a lle nad oes gan y mudiad y pŵer i amrywio’r dymuniadau hynny.
Cyllideb – rhaglen weithredu flynyddol mudiad, a ddiffinnir o ran arian.
Cynllun costau – rhestr o elfennau prosiect yn nodi’r costau sy’n gysylltiedig â phob un.
Datganiad o weithgareddau ariannol – un datganiad cyfrifyddu sy’n dadansoddi’r holl adnoddau a gwariant cyfalaf ac incwm, ac sy’n cynnwys cysoniad o’r holl symudiadau yng nghronfeydd y mudiad, gan nodi’r incwm a dderbyniwyd at ddibenion penodol.
Dibrisiad – y gwerth y mae ased yn ei golli am ba bynnag reswm; neu ddileu gwerth ased sefydlog dros ei fywyd defnyddiol. Rhaid i bob ased diriaethol gael ei ddibrisio.
Diffyg – byddai eich mudiad mewn diffyg pe bai ei wariant yn fwy na’i incwm mewn unrhyw gyfnod cyfrifyddu.
Dyledwr – unigolyn neu fudiad y mae arnyn nhw arian i chi ac (yn y fantolen) cyfanswm yr arian sy’n ddyledus yn y modd hwn.
Gorddrafft banc – blaenswm a roddir i alluogi mudiad i allu rheoli’r llif arian yn y tymor byr. Rhaid ad-dalu gorddrafftiau ar alwad.
Gwarged – byddai eich mudiad mewn gwared pe bai ei incwm yn fwy na’i wariant mewn unrhyw gyfnod cyfrifyddu.
Gwariant cyfalaf – gwariant ar gaffaeliad asedau.
Gwariant cyfredol – gwariant ar eitemau bob dydd fel y gyflogres, prynu nwyddau a gwasanaethau, rhent a chynnal a chadw asedau.
Incwm cyfalaf – y cyllid sy’n dod i mewn y byddwch chi’n ei ddefnyddio i dalu am eich gwariant cyfalaf.
Llif arian – patrwm incwm a gwariant mudiad, a’r effaith ar ei falansau ariannol; (arian i mewn ac allan). Mae ‘llif arian positif’ yn golygu bod mwy o arian yn dod i mewn i fudiad nag sydd yn mynd allan. Mae ‘llif arian negyddol’ yn golygu i’r gwrthwyneb: mae mwy o arian yn mynd allan nag sydd yn dod i mewn.
Mantolen – datganiad sy’n dangos, ar bwynt penodol o amser, asedau a rhwymedigaethau mudiad, eu gwerth, a sut y talwyd amdanynt.
Rhagdaliadau – incwm rydych chi wedi’i dderbyn cyn oedd yn ddyledus ar gyfer gwasanaethau a fydd yn cael eu darparu mewn cyfnod cyfrifyddu diweddarach. Rhwymedigaeth gyfredol yw hon.
Rhagolwg llif arian – dogfen sy’n nodi rhagolygon o statws arian parod mudiad, gan ddangos yr arian y mae’n disgwyl ei dderbyn neu ei dalu allan. Mae datganiad llif arian yn dangos pryd fydd balansau yn debygol o fod o dan fwy o straen, pan fydd angen gorddrafft banc neu gyllid tymor byr arall.
Rhwymedigaethau – goblygiadau ariannol mudiad i bartïon eraill.
Rhwymedigaethau cyfredol – y symiau o arian sy’n ddyledus gan y mudiad y bydd angen eu talu yn y dyfodol agos, fel arfer, o fewn blwyddyn – gan gynnwys credydwyr a gorddrafftiau banc.
Stociau – eitemau a gedwir i’w troi’n arian parod yn ddiweddarach, gan gynnwys deunyddiau, nwyddau gorffenedig, cydrannau, rhannau y prynwyd i mewn a gwaith sydd ar droed. Mae’r rhain wedi’u cynnwys yn yr asedau cyfredol.
Taliadau ymlaen llaw – symiau rydych chi wedi’u talu allan i bobl eraill o incwm blwyddyn cyfredol er budd blwyddyn i ddod. Ased cyfredol yw hwn.