Cartref » Help ac arweiniad » Cyllido eich mudiad » Cyllid cynaliadwy

Cyllid cynaliadwy

Ar y dudalen hon

Jar of donations

Beth mae cyllid cynaliadwy yn ei olygu?

Er mwyn i’ch mudiad gwirfoddol oroesi, ffynnu a pharatoi ar gyfer y dyfodol, mae angen i chi gael cyllid cynaliadwy. Yr hyn rydyn ni’n ei olygu wrth hynny yw sicrhau eich bod yn gallu cael a chynhyrchu ffrydiau incwm dibynadwy sy’n galluogi eich mudiad i gyflawni ei ddiben yn y tymor byr a’r hirdymor.

Gall cynhyrchu incwm ar gyfer eich mudiad fod yn hynod anodd, ond os ewch chi ati mewn modd cynlluniedig sy’n ystyried pob agwedd, gan sicrhau mai cyllid cynaliadwy yw eich nod yn y pen draw, bydd gennych chi siawns well o sicrhau hyfywedd ariannol eich mudiad.

Yr allwedd i wneud hyn yw datblygu cymysgedd o gyllid mewn dwy ffordd:

  1. Dod â chyllid i mewn o ffynonellau lluosog. Mae hyn yn golygu defnyddio amrywiaeth o ddulliau codi arian neu gynhyrchu incwm, fel nad ydych chi’n dibynnu’n llwyr ar un ffynhonnell o incwm.
  2. Datblygu ffynonellau o incwm anghyfyngedig (nid incwm cyfyngedig yn unig).

Mae incwm cyfyngedig yn golygu bod amodau wedi’u gosod ar yr incwm sy’n cyfyngu sut gallwch chi ei wario. Mae’r rhan fwyaf o grantiau a rhai rhoddion yn incwm cyfyngedig; maen nhw wedi’u darparu at ddiben penodol a gellir dim ond defnyddio’r arian hwnnw at y diben hwnnw.

Ni osodir unrhyw amodau ar incwm anghyfyngedig a gallwch chi ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw beth sy’n eich helpu i gyflawni eich diben(ion) elusennol, ar weithgareddau o’ch dewis. Yn bwysig iawn, mae angen incwm anghyfyngedig yn aml ar gyfer y costau bob dydd o redeg eich mudiad. Gallai hwn gael ei ddefnyddio i wneud gwelliannau i unrhyw adeiladau sy’n eiddo i chi, i dalu costau cyflog na delir gan gyllid grant neu i fuddsoddi yn eich ffrydiau incwm i’w cynyddu ymhellach.

Ffrydiau incwm amrywiol

Mae codi arian yn cynnwys llawer o bethau, o ddigwyddiadau wedi’u noddi a rhoddion elusennol i ysgrifennu ceisiadau am gyllid, ymddiriedolaethau elusennol a masnachu. Dylech geisio defnyddio amrywiaeth o opsiynau codi arian er mwyn creu ffrydiau incwm amrywiol ar gyfer eich mudiad.

Bydd pob math o weithgaredd cynhyrchu incwm y byddwch chi’n ei wneud yn syrthio rhywle ar y tabl isod, waeth pa mor fach neu fawr yw’r gweithgaredd.

Mae fersiwn PDF o’r tabl hwn ar gael yma.