Dechrau arni
Ar y dudalen hon
Troi syniad yn weithred
Os ydych chi’n ystyried sefydlu grŵp newydd, y peth cyntaf y dylech chi ei wneud yw ychydig o waith ymchwil cyn i chi ddechrau. Dyma rai cwestiynau allweddol y bydd angen i chi feddwl amdanynt:
- A oes yna wir angen am eich grŵp ac a oes tystiolaeth i gefnogi hyn?
- Beth mae pobl eraill eisoes yn ei wneud yn eich ardal leol?
- Beth sy’n eich cymell i sefydlu eich grŵp?
- A oes gennych chi’r amser a’r ymrwymiad i sefydlu a rhedeg y grŵp?
- Sut byddwch chi’n cael pobl eraill i gymryd rhan mewn rhedeg a chefnogi’r grŵp?
Ffynonellau eraill o wybodaeth
Beth yw diben eich grŵp?
Mae’n bwysig iawn eich bod chi’n nodi diben eich grŵp yn glir ar y dechrau. Mae hyn yn bwysig oherwydd bydd diben eich grŵp yn dylanwadu ar y strwythur a ddewisir a’r math o fudiad y gallai ddatblygu i fod, er enghraifft, a allai gael ei alw’n ‘elusen’ neu beidio.
Dylech ddechrau drwy weithio trwy eich syniadau er mwyn sicrhau eich bod wedi nodi diben eich grŵp yn glir. Meddyliwch am y gwahaniaeth y mae eich grŵp yn mynd i’w wneud. Bydd angen i chi fod yn glir ynghylch y canlynol:
- BETH mae eich grŵp yn mynd i’w wneud
- BLE ydych chi eisiau ei wneud
- PWY fydd yn elwa
- A SUT
Yn ddelfrydol ar y pwynt hwnt, dylech chi nodi hyn ar bapur a llunio cynllun syml sy’n egluro’r hyn rydych chi eisiau ei wneud, pam eich bod eisiau ei wneud a sut byddwch chi’n ei wneud. Bydd yr wybodaeth hon yn llywio eich gwaith a bydd hefyd yn dylanwadu ar y dewisiadau y byddwch chi’n eu gwneud ynghylch strwythur eich grŵp. Unwaith y bydd eich grŵp ar waith, byddem yn argymell eich bod yn datblygu’r cynllun hwn i fod yn ddogfen ehangach, y byddwn ni’n ei galw’n gynllun busnes. Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am hyn yn yr adran Rhedeg eich mudiad.