Health and Care / Iechyd a Gofal
Croeso i’r grŵp Iechyd a Gofal. Dyma ble fyddwn ni’n postio gwybodaeth am newyddion a digwyddiadau... View more
Adre o’r Ysbyty
-
Adre o’r Ysbyty
Mae gwasanaethau Adre o’r Ysbyty yn ofyniad parhaus ar draws pob rhan o Gymru, ac mae lefelau amrywiol o wasanaeth sy’n cael ei yrru yn bennaf gan drefniadau lleol a rhanbarthol. Mae’r ddogfen yma yn cynnig llawer o wybodaeth allweddol ac astudiaethau achos ar y pwnc yma.
Cynhalion ni weithdy yn trafod ‘Adre o’r Ysbyty’ yn ddiweddar, a oedd yn edrych ar y pwnc yma. Y prif bwyntiau o’r gweithdai oedd:
· Mae canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaethau yn amrywio ledled Cymru yn dibynnu ar y gwasanaethau sydd ar gael mewn gwahanol ardaloedd.
· Mae gwasanaethau sy’n darparu cymorth yn cael eu tanbrisio a’u tanariannu ar y cyfan o ystyried y cyfraniad maen nhw’n ei wneud i fframweithiau y cytunwyd arnynt yn genedlaethol e.e. model gofalu Rhyddhau i Adfer yna Asesu.
· Roedd cyfranogwyr yn cytuno bod angen cael dealltwriaeth genedlaethol o ba gymorth Adre o’r Ysbyty sy’n cael ei ddarparu gan y trydydd sector ledled Cymru.
· Roedd awydd i barhau â’r sgwrs er mwyn mynd â rhai camau posibl a nodwyd yn ystod yr ymarfer yn eu blaen.
Cytunwyd bod angen gweithredu’r camau canlynol.
· Ymarfer mapio – er mwyn deall gwasanaethau’r trydydd sector ledled Cymru.
· Datblygu negeseuon cyson – ynghylch pwysau costau ac na ddylai buddsoddiad fod ar gyfer arloesi bob amser, dylai gwasanaethau sy’n bodoli ac sydd â hanes o gyflawni hefyd gael buddsoddiad.
· Datblygu egwyddorion neu safonau cymorth – sicrhau bod hyn yn ategu ac yn annog amrywiaeth yn seiliedig ar anghenion lleol, heb geisio creu yr un gwasanaeth ym mhob man.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno yn y sgwrs? Os felly, rhannwch eich syniadau isod!
Sorry, there were no replies found.
Log in to reply.